Agenda item

HYFFORDDIANT DIOGELU AR GYFER GYRWYR SYDD Â THRWYDDED YRRU DDEUOL AR GYFER CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am fideo Hyfforddiant Diogelu a fyddai'n cynnig dull addysgiadol a mwy cost-effeithiol o hyfforddi gyrwyr Tacsi Trwyddedig a Chynorthwywyr Teithwyr.

 

Esboniwyd yn yr adroddiad y bu’r Adain Drwyddedu yn darparu sesiynau Hyfforddiant Diogelu i Yrwyr Tacsi Trwyddedig yn Sir Gaerfyrddin ers mis Gorffennaf 2017 Roedd y sesiynau hyfforddi yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Heddlu Dyfed Powys a oedd wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer gyrwyr tacsi ynghylch diogelu gan gynnwys Cam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant a sut y gallai gyrwyr tacsi hefyd chwarae rôl bwysig.  Nod yr hyfforddiant yw helpu gyrwyr tacsi i adnabod problemau posibl, a rhoi'r hyder a'r manylion cyswllt iddynt i wneud atgyfeiriad.

 

Dywedwyd bod 144 o yrwyr tacsi trwyddedig a 250 o gynorthwywyr teithwyr ar hyn o bryd yn Sir Gaerfyrddin nad oeddent wedi mynychu'r sesiynau hyfforddiant diogelu, ac y byddai'r nifer hwn yn cynyddu wrth i geisiadau newydd ddod i law.  Dywedwyd hefyd bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrthi'n trafod cyflwyno hyfforddiant diogelu gorfodol i bob gyrrwr tacsi; mae'n debygol iawn y bydd yr hyfforddiant hwn yn orfodol i bob gyrrwr tacsi ac y gallai gostio rhwng £30 a £50 i'r gyrrwr.

 

Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y fideo hyfforddiant diogelu, fel rhan o fenter ar y cyd, wedi'i gynhyrchu fel dull hyfforddi i'w ddarparu i bob gyrrwr tacsi a chynorthwyydd teithwyr. Byddai'r fideo yn cael ei ddangos yn ardal Heddlu Dyfed Powys, sef Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Powys.


 

Pwysleisiwyd bod cost cynhyrchu'r fideo hyfforddiant wedi’i dalu gan arian a godwyd o dan y Ddeddf Enillion Troseddau gan Gyngor Sir Caerfyrddin.  Barnwyd bod y fideo yn ddull gwell o ddarparu hyfforddiant diogelu gan na fyddai'n ofynnol felly i yrwyr tacsi a chynorthwywyr teithwyr fynychu sesiwn hyfforddi penodol.  

 

Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y byddai'r dull newydd o hyfforddi yn fodd  cost effeithiol o ddarparu'r hyfforddiant gan y byddai ymgeiswyr yn cael dolen i'r fideo drwy e-bost.  Byddai ymgeiswyr nad oedd ganddynt defnydd o gyfrifiadur neu fynediad i'r rhyngrwyd yn gallu gweld y fideo yn Adain Drwyddedu eu hawdurdod lleol perthnasol.

 

Yn ogystal, nod y Cyngor oedd sicrhau y bod pob gyrrwr tacsi a drwyddedwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin wedi cwblhau'r Hyfforddiant Diogelu. 

 

Cafodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol gyfle i weld y fideo diogelu 20 munud. 

 

Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai cyflwyniad y fideo yn cael ei bersonoli i adlewyrchu'r awdurdod lleol unigol ac y byddai'n cynnwys aelod o dîm trwyddedu'r awdurdod hwnnw. Ar hyn o bryd mae'r fideo ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

 

Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu y byddai'n ofynnol i ymgeiswyr sy'n gwneud cais i adnewyddu eu trwydded tacsi a nad oeddent wedi mynychu'r hyfforddiant diogelu yn flaenorol, wylio'r fideo ac ar ôl ei weld, byddai'n ofynnol iddynt gael prawf byr yn cynnwys cwestiynau am gynnwys y fideo, dim ond ar ôl llwyddo yn y prawf y byddai'r drwydded yn cael ei darparu.  Yn ogystal, byddai ymgeiswyr newydd yn cael dolen i'r hyfforddiant diogelu mewn pecyn gwybodaeth ac y byddent yn sefyll prawf gwybodaeth a fyddai'n cynnwys cwestiynau am y fideo.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol er bod y fideo yn fodd ardderchog o ddarparu hyfforddiant diogelu, roedd yn cydnabod y gallai'r neges bwysig ar ddiogelu a Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant fod yn fuddiol i gynulleidfa ehangach gan roi gwybod iddynt sut y gallent hefyd chwarae rhan bwysig.  Yn ogystal â datganiad i'r wasg yn lansio'r fideo diogelu, cynigiwyd bod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn gofyn am ganiatâd i gyflwyno'r fideo diogelu i gyfarfod llawn y Cyngor yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

2.1 cymeradwyo'r fideo Hyfforddiant Diogelu a baratowyd ar gyfer gyrwyr tacsi;

2.2 bod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn gofyn am ganiatâd Cadeirydd y Cyngor i gyflwyno’r fideo diogelu i gyfarfod llawn y Cyngor yn y dyfodol.

 

 

Dogfennau ategol: