Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2018/19 ynghyd ag adroddiadau manwl ynghylch yr Amcanion Llesiant perthnasol sydd o fewn maes gorchwyl y Pwyllgor, sef:
· Amcan Llesiant 5 - Mynd i'r afael â thlodi;
· Amcan Llesiant 14 - Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru;
· Amcan Llesiant 15 - Adeiladu Gwell Cyngor a Gwneud Gwell Defnydd o Adnoddau.
Nodwyd ei bod yn ofynnol o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar berfformiadau blaenorol erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn.
Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Mewn ymateb i bryder bod cynnydd sylweddol wedi bod yng nghanran y mesurau sydd wedi gostwng, cydnabuwyd bod cyllidebau llai'n bendant yn cael effaith ar ddarpariaeth gwasanaethau, a'r farn mewn rhai achosion oedd bod angen gosod targedau mwy cyraeddadwy yn unol â hynny;
Amcan Llesiant 5
· Rhoddwyd sicrwydd i'r aelodau bod yr awdurdod yn gwneud popeth y gallai i leihau effaith Credyd Cynhwysol ar hawlwyr budd-daliadau;
· Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau TGCh a Pholisi Corfforaethol i gadarnhau'r sefyllfa bresennol o ran yr Hwb arfaethedig yng Nghaerfyrddin;
· Nodwyd bod yr awdurdod yn cyfathrebu â darparwyr y trydydd sector i osgoi dyblygu darpariaeth gwasanaeth;
· Er bod llwyddiant Apêl Hamperi Bwyd Nadolig yn cael ei groesawu, y farn oedd y dylai'r cynllun gael ei estyn i wyliau'r haf pan fydd plant yn absennol o'r ysgol am gyfnod hwy a bydd angen cymorth ar rai teuluoedd o hyd. Cyfeiriwyd at Raglen Gwella Gwyliau'r Haf, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, sy'n darparu prydau, addysg a gweithgareddau corfforol am ddim i blant ledled Cymru a chytunodd y Swyddog Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth i gadarnhau a oedd unrhyw fodd o estyn y cynllun yn Sir Gaerfyrddin;
Amcan Llesiant 14
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch pam yr oedd canran y disgyblion Cyfnod Sylfaen a gafodd asesiad athro/athrawes yn y Gymraeg wedi gostwng, dywedwyd ei bod hi'n bosibl bod nifer wirioneddol y disgyblion wedi cynyddu ond byddai angen cadarnhau hyn;
· Rhoddwyd gwybod i'r aelodau na fyddai modd gwybod yn sicr a oedd nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Sir yn cynyddu neu'n gostwng nes bod canlyniadau'r cyfrifiad nesaf yn 2021 yn cael eu cyhoeddi;
· Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau TGCh a Pholisi Corfforaethol i ofyn i'r Pennaeth Hamdden gadarnhau nifer yr ymwelwyr ag amgueddfeydd a lleoliadau celf/theatrau'r Sir yn 2018/19 o gymharu â 2017/18;
Amcan Llesiant 15
· Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau TGCh a Pholisi Corfforaethol i gadarnhau gyda'r Tîm Datblygu Trefniadaeth pa gefnogaeth a gynigir drwy'r rhwydwaith Gwelliant Parhaus;
· Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau TGCh a Pholisi Corfforaethol i gadarnhau gyda'r Pennaeth Eiddo y sefyllfa o ran gwerthu Nant y Ci a 5-7 Heol Spilman, Caerfyrddin, gan nad oedd yr arwyddion 'Ar Werth' yno mwyach.
· Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau TGCh a Pholisi Corfforaethol i rannu pryderon ynghylch casglu gwastraff a thipio anghyfreithlon yn ardal Llanelli â Phennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff. Cyfeiriwyd yn benodol at y bagiau a gafodd eu labelu gan gasglwyr gwastraff na chafodd eu casglu, sy'n cael eu torri gan lwynogod, gwylanod ac ati.;
· Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau TGCh a Pholisi Corfforaethol i gadarnhau gydag is-adran y Gwasanaethau Etholiadol y wybodaeth ddiweddaraf am yr Adolygiad o'r Ffiniau Seneddol;
· Rhoddwyd canmoliaeth i adain y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth oherwydd nifer y ceisiadau yr ymatebwyd iddynt;
· Mewn perthynas â phryderon a mynegwyd yn y cyfarfod diwethaf o ran cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac anfon negeseuon e-bost y tu allan i'r oriau gwaith arferol, rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor bod y mater yn cael sylw. Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau TGCh a Pholisi Corfforaethol i ofyn i'r Prif Weithredwr Cynorthwyol estyn gwahoddiad i'r holl aelodau ymweld â'r Uned Iechyd Galwedigaethol;
· Rhoddwyd gwybod i'r aelodau am yr adborth gadarnhaol a gafwyd o ran Gosodiadau ar Sail Dewis Canfod Cartref;
· Mewn ymateb i bryderon ynghylch cyllido ar ôl Brexit, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol a Pholisi Corfforaethol fod cronfeydd wrth gefn o £200k wedi'u clustnodi ar gyfer risgiau cyffredinol. Cytunodd hefyd i fynegi pryderon i'r gr?p Brexit mewnol ynghylch y posibilrwydd o brynu tir amaethyddol ar ôl Brexit.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod fersiwn ddrafft o Adroddiad Blynyddol 2018/19 yn cael ei gymeradwyo.
Dogfennau ategol: