Cofnodion:
Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.
Gan gyfeirio at gofnod 2 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2018, rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i geisiadau am gymorth gan Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin. Blaenoriaeth y ddwy gronfa oedd cefnogi'r gwaith o greu swyddi a busnesau newydd yn y Sir.
PENDERFYNWYD
5.1 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin, yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol a'r rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
Cronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin |
||
Cyfeirnod y Cais |
Yr Ymgeisydd |
Y Dyfarniad |
SUF73 |
Tiling Allsorts Wales |
£1,116.23 |
SUF89 |
Esgidiau Cic Shoes |
£7,500.00 |
Cronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin |
||
Cyfeirnod y Cais |
Yr Ymgeisydd |
Y Dyfarniad |
GF84 |
Creative Bridal |
£9,999.50 |
GF81 |
Melin Energy Consultants |
£5,414.33 |
GF108 |
BRD Sports Development Ltd. |
£10,000.00 |
GF109 |
Choose 2Reuse |
£5,773.72 |
GF102 |
Printed Chocolates |
£5,000.00 |
GF105 |
Star MultiFuels |
£10,000.00 |
GF106 |
Fresh Productions |
£7,783.03 |
GF50 |
Gower View Foods |
£10,000.00 |
GF92 |
Red Dragon Cleaning & Restoration |
£10,000.00 |
GF120 |
Calon Lân |
£5,644.56 |
5.2 cymeradwyo dyrannu £100k ychwanegol o gronfeydd wrth gefn Datblygu Economaidd i'w ychwanegu at gyllideb wreiddiol Cronfa Fusnes Sir Gaerfyrddin o £500k, o gofio llwyddiant y gronfa o ran helpu i greu swyddi newydd.
Dogfennau ategol: