Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn 2018/19. Dywedwyd wrth yr aelodau bod rheidrwydd statudol ar Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i roi adroddiad blynyddol ar y ddarpariaeth a'r perfformiad, yn ogystal â'r cynlluniau i wella ystod eang o wasanaethau cymdeithasol. 

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd oedd wedi'i wneud o ran y meysydd yr oedd adroddiad y llynedd wedi amlygu bod angen eu gwella, gan dynnu sylw at y meysydd oedd i'w datblygu yn ystod y flwyddyn gyfredol. Roedd yn rhoi sylw i bob maes gwasanaeth o fewn Gofal Cymdeithasol gan ddangos sut y byddai'n mynd i'r afael â strategaethau, gweithredoedd, targedau a risgiau'r gwasanaeth a sut y byddai'r gwasanaethau'n cael eu darparu eleni ar sail y gyllideb a gymeradwywyd. Amlinellodd yr adroddiad berfformiad y gwasanaeth yn 2018/19, ynghyd ag asesiad ynghylch y dyfodol a'r blaenoriaethau strategol ar gyfer 2019/20.  Roedd yn cyd-fynd â'r Cynlluniau Busnes ar gyfer Cyfarwyddiaethau y Gwasanaethau Cymunedol ac Addysg a Gwasanaethau Plant.

 

Ar gais Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol, rhoddodd yr aelodau adborth ar gynnwys a fformat yr adroddiad, a nodwyd ganddynt feysydd yn yr adroddiad yr oedd angen eu datblygu'n bellach. Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol am y gwaeth a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac am baratoi'r adroddiad hwn.

 

Codwyd yr arsylwadau / cwestiynau canlynol ar y wybodaeth a oedd yn yr adroddiad:

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad o ran pennu targedau a mesur perfformiad yn y gwasanaeth. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod gwahanol feysydd yn mesur llwyddiant mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft mae gostyngiad mewn ymyrraeth yn cael ei ystyried yn llwyddiant mewn rhai meysydd, ond mewn meysydd eraill roedd yn bosibl mesur perfformiad cadarnhaol trwy gynnydd neu ostyngiad canrannol.

 

Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am beth oedd yn cael ei wneud i ddatblygu darpariaeth arbenigol ar gyfer anghenion cymhleth. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod yna bosibilrwydd y byddai adnodd anghenion cymhleth preswyl yn cael ei ddatblygu. Nodwyd bod rhai awdurdodau lleol yn Ne Cymru yn gosod plant ag anghenion cymhleth mewn lleoliadau preswyl yn yr Alban, ac mae'n amlwg bod angen datblygu'r math hwn o wasanaeth yn lleol.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at graff ar dudalen 24 yr adroddiad a oedd yn rhoi cipolwg ar nifer y plant oedd ar y gofrestr amddiffyn plant ar 31 Mawrth 2019, a gofynnwyd a oedd perygl y gallai'r plant gael eu rhoi nôl ar y gofrestr. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol y gallai nifer fach gael eu rhoi nôl ar y gofrestr, er hynny mae modd eu holrhain a byddai'n bosibl cynnwys y wybodaeth yn yr adroddiad. Yn ogystal, roedd adran o'r adroddiad dan sylw yn nodi bod 84.6% yn fodlon ar y gofal a'r gefnogaeth, a gofynnodd yr aelodau pa fesurau oedd ar waith i olrhain y 15.4% nad oeddent yn fodlon â'r gofal a'r gefnogaeth a dderbyniwyd. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod data cymharol y blynyddoedd blaenorol ar gael a gellid defnyddio'r data i gael trosolwg o'r themâu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch diogelu plant a addysgir yn y cartref, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod nifer fach ond arwyddocaol o blant a allai fod mewn perygl. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr bod y mwyafrif helaeth a addysgir yn y cartref yn ffynnu ac yn cael canlyniadau da iawn. Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rhoddwyd sylw yn y wasg genedlaethol i blentyn a addysgwyd yn y cartref yn cael e esgeuluso ac yn marw o ganlyniad i ddiffyg ymyrraeth. Dywedodd nad oedd plant, ar ôl cofrestru eu genedigaeth, yn cael eu holrhain y tu allan i'r system addysg, a heblaw am roi gwybod i'r awdurdod lleol am y bwriad i wneud hynny, prin oedd y gofynion o ran addysgu plentyn yn y cartref. Dywedodd fod cynlluniau ar y gweill am gofrestr statudol ar gyfer plant a addysgir yn y cartref; golygai hyn byddai angen ymweld â'r plentyn yn flynyddol. Dywedodd  Pennaeth y Cwricwlwm a Llesiant fod gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb i sicrhau bod plant yn derbyn addysg, ac roedd camau ar waith i gryfhau cynlluniau gadael ar gyfer plant a addysgir yn y cartref drwy Gr?p Rhanddeiliaid Cenedlaethol.

 

Bu'r aelodau'n adolygu lefelau'r iaith Gymraeg ar dudalen 70 yr adroddiad a gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y sefyllfa bresennol, a'r ymarfer recriwtio peilot. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod cael staff a hyfforddwyd oedd â sgiliau lefel 5 yn allweddol wrth ddarparu cynnig rhagweithiol mewn cyd-destun proffesiynol; roedd cynnal Asesiad Amddiffyn Plant yn sgil lefel pump a oedd yn gofyn am fwy na sgiliau sylfaenol yn yr iaith. Roedd y peilot presennol ar waith ond doedd dim fawr o ddata i'w adrodd hyd yn hyn. Yn gyffredinol, cydnabu fod recriwtio a chadw Gweithwyr Cymdeithasol yn broblem barhaus.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y gyfran gweddol isel oedd wedi derbyn y cynnig Gofal Plant, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod y cynllun yn gwneud yn gymharol dda. Roedd cynnydd cyson yn y niferoedd oedd yn manteisio arno ac roedd hynny'n dueddol o barhau, dywedodd hefyd ei bod yn annhebygol y byddai'r holl unigolion cymwys yn manteisio ar y cynnig.

 

Nododd yr aelodau fod tudalen 26 yn cyfeirio at gynnydd o 8.8% i 10.4% mewn plant sydd wedi symud deirgwaith neu ragor. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymunedol mai'r plant sy'n symud sawl gwaith sy'n debygol yn aml o fod yn fwyaf heriol. Dywedodd hefyd nad oedd symud sawl gwaith o reidrwydd yn arwain at ganlyniad gwael a byddai edrych ar storïau ansoddol yn well ffordd o ddadansoddi'r sefyllfa. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod ystod o ganlyniadau wedi'u cynnwys yn y mesur hwn, a dangosodd fod plentyn a symudodd o'i gartref i ofal maeth, ac yna i leoliad cyn mabwysiadu, cyn ei fabwysiadu'n barhaol yn cyfri fel 4 lleoliad. Ystyrid hyn yn ganlyniad da.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: