Agenda item

Y DIWEDDARAF AM Y DDEDDF TEITHIO LLESOL

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau a wnaed gan Gyngor Sir Caerfyrddin er mwyn bodloni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Yn ogystal â chyflawni cynlluniau cerdded a beicio newydd, roedd yr Awdurdod wedi cynnwys cyfleusterau Teithio Llesol fel elfen o ddatblygiadau priffyrdd mwy. Hefyd roedd yr Awdurdod wedi cynnal egwyddorion y Ddeddf yn ei swyddogaeth gynllunio, gan sicrhau bod anghenion cerddwyr a beicwyr yn cael eu hystyried o ran datblygiad caniataol, fel yr amlinellwyd yn y Canllaw Dylunio Priffyrdd. Fodd bynnag, er bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu lefel y cyllid cyfalaf sydd ar gael ledled Cymru yn ddiweddar, barnwyd bod tystiolaeth o newid sylweddol o ran rhoi cyllid i aneddiadau trefol a bod hyn wedi cael ei adlewyrchu yn yr ymateb a gyhoeddwyd yn ddiweddar i gais yr Awdurdod i Gronfa Teithio Llesol 2019/20. Mynegwyd pryder am yr effaith negyddol y byddai hyn yn ei chael ar awdurdodau mwy gwledig megis Sir Gaerfyrddin a fyddai, yn ei dro, yn cael effaith fawr ar Lwybr Dyffryn Tywi. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod swyddogion, ynghyd â'r Arweinydd a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, wedi cwrdd yn ddiweddar â'r Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, sef Lee Waters AC, i drafod sut y gallai'r Awdurdod sicrhau ei fod yn cael y cyllid sydd ei angen i sicrhau y gallai Sir Gaerfyrddin gyflawni ei huchelgais o fod yn ganolbwynt beicio Cymru. Nid oedd o'r farn, fodd bynnag, y gallai beicio hamdden gael ei gategoreiddio fel 'teithio llesol'.   

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·         Mewn ymateb i ymholiad dywedwyd bod gr?p llywio'r fforwm beicio wedi rhoi adborth cadarnhaol ynghylch gwaith yr Awdurdod i ddatblygu'r seilwaith beicio;  

·         Rhoddwyd gwybod i'r aelodau, mewn ymateb i bryderon am gyllid, er bod y darn rhwng Abergwili a Felin-wen o Lwybr Dyffryn Tywi wedi'i gwblhau bod materion perchnogaeth tir o hyd ynghylch rhannau eraill o'r llwybr arfaethedig a oedd yn cael eu datblygu yn unol ag ymrwymiad yr Awdurdod i gwblhau'r cynllun.

·         Mynegwyd siom ynghylch barn y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth o ran yr hyn a olygir wrth 'deithio llesol' a chanlyniad y cais i'r Gronfa Teithio Llesol ac awgrymwyd, yn enwedig gan fod y Dirprwy Weinidog yn AC Sir Gaerfyrddin, y dylid cyfleu siom y Pwyllgor iddo mewn llythyr. Rhoddwyd sicrwydd i'r Aelodau y byddai'r Awdurdod yn parhau i ddatblygu cyfleoedd teithio llesol;

·         Mewn ymateb i gwestiwn, rhoddodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Cam 2 o Brif Gynllun Rhydaman i Cross Hands a fyddai'n cysylltu yn y pen draw â Llwybr Arfordirol y Mileniwm, Llanelli;

·         Diolchwyd i'r staff Priffyrdd am eu holl waith o ran paratoi'r llwybrau ar gyfer y ddwy ras feicio fawr a ddaeth i Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar;

·         Cytunodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd gael gwybod faint sydd wedi manteisio ar y cynllun beicio i'r gwaith.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

8.1 bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

                   8.2 bod y Cadeirydd yn cydgysylltu â'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd i ysgrifennu llythyr at y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn unol â'r hyn a nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: