Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGHYLCH DIOGELU OEDOLION A THREFNIADAU DIOGELU RHAG COLLI RHYDDID (2018-19)

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol yr Awdurdod ar Ddiogelu Oedolion, a roddai wybodaeth am rôl, swyddogaethau a gweithgareddau'r Awdurdod o ran Diogelu Oedolion a Threfniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid.  Fel y sefydliad statudol sy'n gyfrifol am ddiogelu oedolion, roedd yn ofynnol i'r Awdurdod gael trefniadau effeithiol ar waith i sicrhau bod oedolion agored i niwed yn cael eu diogelu rhag niwed. Mae'r Awdurdod yn cyflawni ei rôl mewn partneriaeth agos â Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a sefydliadau statudol ac anstatudol eraill. Yr Awdurdod hefyd oedd y corff goruchwylio ar gyfer Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid. Nodai'r adroddiad fanylion ynghylch rhai o'r gwelliannau allweddol a wnaed i'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid a'r newidiadau a'r heriau sydd i ddod. 

 

Roedd yr Adroddiad yn ymwneud â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf ac yn crynhoi cyd-destun polisi cenedlaethol Diogelu Oedolion ar y pryd, gan gynnwys goblygiadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac yn darparu amrywiaeth o wybodaeth gan gynnwys:-

 

·         Y sefyllfa strategol ranbarthol a chenedlaethol

·         Y trefniadau gweithredol

·         Llwyddiannau allweddol a digwyddiadau arwyddocaol

·         Newidiadau allweddol mewn prosesau

·         Sicrhau ansawdd

·         Gweithio mewn partneriaeth

·         Gwybodaeth am berfformiad a gweithgarwch

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Y prif faterion oedd:

 

  • Cyfeiriwyd at y ffaith mai 3 swyddog yn unig oedd ar gael gydag oddeutu 1,000 o gleifion yr un, sy'n golygu bod cleifion yn gorfod aros.

Dywedodd yr Uwch-reolwr Diogelu fod y 3 swyddog y cyfeirir atynt wedi'u neilltuo ar gyfer atgyfeiriadau Diogelu. Roedd 32 o weithwyr cymdeithasol wedi'u hyfforddi i gynnal asesiadau Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid gyda 2 asesydd penodedig amser llawn. Bu oedi o ran penodi swydd Rheolwr y Tîm Gweithredol oherwydd arolygiad diweddar ond bellach mae'r broses benodi ar waith.

 

  • Gofynnwyd i'r swyddogion am ragor o wybodaeth am y fforwm amlasiantaeth a sut oedd yr Awdurdod yn cydweithio â'r heddlu.

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr Awdurdod yn cysylltu'n ddyddiol â'r heddlu a bod ganddo berthynas waith agos â gr?p gweithredol Diogelu lleol Sir Gaerfyrddin. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yna brotocol y cytunwyd arno ar gyfer rhoi gwybod am bryderon a rhannu gwybodaeth a bod yr heddlu yn flaenweithgar iawn.

 

  • Gofynnwyd cwestiwn ynghylch y gamdriniaeth ddaeth i'r amlwg mewn cartref gofal yn Durham yng ngoleuni'r rhaglen Panorama ddiweddar, hynny yw, a allai'r swyddogion gadarnhau a oedd gan Sir Gaerfyrddin unrhyw bobl wedi'u gosod y tu allan i'r sir a fyddai'n achosi pryder i'r Awdurdod.

Cadarnhaodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu fod gan yr Awdurdod gleifion y tu allan i'r sir, fodd bynnag, roedd prosesau cadarn ar waith i fonitro hyn. Os byddai unrhyw bryderon, byddai'r Awdurdod yn gweithio gyda'r cartref i wella'r sefyllfa, ond os nad oedd gwelliannau ac os nad oedd yr Awdurdod yn hyderus y byddai'r person yn gallu cael ei ddiogelu, byddai'n chwilio am leoliad arall. Rhoddwyd sicrwydd nad oedd unrhyw berson wedi'i leoli gyda'r sefydliad a nodir yn y rhaglen Panorama. Dywedwyd mai'r bwriad oedd dod â phobl yn ôl i'r sir ar gyfer gofal ac y byddai cyllid integredig yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu unedau'n lleol. Dywedwyd hefyd fod yr Awdurdod yn awyddus i gael rhagor o bobl i fyw â chymorth, a fyddai'n lleihau'r niferoedd sy'n ddibynnol ar ofal preswyl. 

 

  • Mynegwyd pryder ynghylch defnyddio lleoliadau preifat ac y gallai hyn olygu bod cleifion "allan o olwg, allan o feddwl".

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol oherwydd diffyg darpariaeth yng Nghymru, mae'r Bwrdd Iechyd yn prynu o'r sector preifat ac mae'r gofal sy'n cael ei ddarparu o safon ardderchog gan amlaf.

 

Penderfynwyd bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

Dogfennau ategol: