Agenda item

GRŴP GORCHWYL MATERION GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN: ADRODDIAD AC ARGYMHELLION

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 11.1, gofynnodd yr Arweinydd, yn absenoldeb y Cynghorydd Deryk Cundy, y cwestiwn canlynol ar ei ran:-

 

“Yn gyntaf hoffwn i ganmol Gr?p Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin ar adroddiad arbennig a si?r o fod yr un mwyaf manwl o'i fath ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

 

Mae nifer o argymhellion ardderchog ynddo ac mae'r 55 argymhelliad a gymerir ar y cyd yn rhagorol o ran eu cwmpas, ehangder a dyheadau.

 

Yr unig bryder sydd gennyf yw'r ansicrwydd presennol ynghylch y nifer sy'n manteisio ar Gredyd Cynhwysol, adolygiadau PIP ac wrth gwrs Brexit a'r effaith y bydd y newidiadau hyn yn ei chael ar yr economi ehangach a chyllid penodol ar gyfer y gwahanol brosiectau.

Mae angen i ni baratoi'n ariannol ar gyfer y tymor byr i ganolig (Y Cyfnod Pontio) a bod yn ofalus sut y byddwn yn gweithredu'r argymhellion a sut rydym yn eu blaenoriaethu. 

 

Heb gyllid digonol, ni ellir darparu nifer os nad y rhan fwyaf o'r prosiectau a fyddai'n gam mawr yn ôl.

 

Ymddengys i mi ei bod yn hanfodol ein bod yn rhoi cyllid mewn lle yn lle'r cyllid hwnnw yr ydym ar fin ei golli, gan gynnwys CAP, LEADER, Taliadau Uniongyrchol a'r Gronfa Mentrau Gwledig, hynny yw heb y gostyngiad cyson mewn Cymorth Budd-dal dros Gredyd Cynhwysol a PIP sy'n taro'r Gwariant Gwledig ac a fydd o ganlyniad yn cael effaith ar adwerthu lleol o bob math.

 

Fy nghwestiwn i yw:

 

Drwy wneud hyn, sut fyddech chi'n blaenoriaethu cyllid a chamau gweithredu a phryd - er enghraifft:

 

·         Argymhelliad 39 - Cysylltu â Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllun newydd yn lle CAP a'r cyllid o ran Cynhyrchu a Meithrin a pharhad Taliadau Uniongyrchol hyd nes y deallir effeithiau llawn Brexit,

·         Argymhelliad 12 – Creu daliadau bach a'i ehangu i gynnwys ffermydd sy'n methu a ariennir gennym ni,

·         Argymhelliad 34 ynghylch y prosesu lleol ar unwaith i ddiogelu ein sector cynhyrchu a dosbarthu llaeth,

·         Argymhelliad 47 - Buddsoddi mewn Ynni Adnewyddadwy,

·         Argymhelliad 54 – trafodaethau parhaus gyda'r holl randdeiliaid

 

…gan fod angen i ni weithredu nawr……”

 

Nododd yr Arweinydd wrth y Bwrdd Gweithredol y byddai'r Cynghorydd Cundy yn cael ymateb ysgrifenedig.

 

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad ynghylch Gr?p Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin a oedd, yn dilyn adolygiad ynghylch y materion allweddol a oedd yn wynebu cymunedau gwledig Sir Gaerfyrddin wrth symud ymlaen, yn cynnwys nifer o argymhellion.

 

Cadeiriwyd y Gr?p Gorchwyl trawsbleidiol a sefydlwyd ym mis Medi 2017 gan y Cynghorydd Cefin Campbell ac roedd yn cynnwys tri chynrychiolydd o bob gr?p gwleidyddol.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar yr argymhellion canlynol ac yn adrodd ar un ar ddeg maes dylanwad y gallai'r Cyngor effeithio arnynt o ran cymunedau gwledig y Sir fel a ganlyn:

 

·         Datblygu economaidd

·         Cynllunio a thai

·         Addysg a sgiliau

·         Band eang a sgiliau digidol

·         Twristiaeth

·         Trafnidiaeth a phriffyrdd

·         Amaethyddiaeth a bwyd

·         Cydnerthu cymunedol, mynediad i wasanaethau a'r trydydd sector

·         Ynni adnewyddadwy

·         Amgylchedd a gwastraff

·         Y Ffordd Ymlaen.

 

Nododd yr adroddiad fod tystiolaeth wedi'i darparu gan nifer o sefydliadau ac unigolion mewn perthynas â'r meysydd dylanwad a grybwyllwyd uchod a bod y Gr?p Gorchwyl wedi awgrymu 55 o argymhellion i'w rhoi ar waith.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig y byddai'r Cyngor, ar ôl ei gymeradwyo, yn gweithio i ddatblygu cynllun gweithredu er mwyn sicrhau cynnydd ar bob un o'r argymhellion ac y byddai hefyd yn rhan greiddiol o gynlluniau busnes y gwasanaethau Cyngor perthnasol i'w datblygu. Yn ogystal, yn achos unrhyw argymhellion y gallai fod angen buddsoddiad pellach ynddynt, byddai cynllun dichonoldeb yn cael ei sefydlu neu yn achos unrhyw gyfleoedd a nodir, byddai achos busnes pellach yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol i'w ystyried.

 

Awgrymodd yr adroddiad er mwyn cefnogi'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig i ddatblygu'r argymhellion hyn y byddai'r Gr?p Gorchwyl yn parhau ar ffurf Panel Ymgynghorol er mwyn monitro cynnydd ac adolygu ac ymateb i oblygiadau posibl Brexit ac unrhyw faterion eraill a fyddai'n codi ac a allai effeithio ar gymunedau gwledig.

 

 

 

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol fod 61% o boblogaeth Sir Gaerfyrddin yn byw mewn ardaloedd gwledig a oedd yn sylweddol uwch na chanran y trigolion o Gymru gyfan y barnwyd eu bod yn byw mewn ardaloedd gwledig, sef 33% ar hyn o bryd.  Roedd yr adroddiad yn nodi tabl a oedd yn cynnwys rhestr o 39 o wardiau yr ystyriwyd eu bod yn wardiau gwledig Sir Gaerfyrddin.

 

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ganmoliaeth i'r Gr?p Gorchwyl Materion Gwledig a'r Swyddogion am eu gwaith caled wrth ddarparu adroddiad cynhwysfawr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:

 

6.1      bod adroddiad ac argymhellion terfynol y Gr?p Gorchwyl yn cael eu cymeradwyo;

6.2      y dylid sefydlu Panel Ymgynghorol Materion Gwledig i ddilyn gwaith y Gr?p Gorchwyl;

6.3      cynllun gweithredu i sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud ar bob un o'r argymhellion, gan fonitro cynnydd drwy'r Panel Ymgynghorol.

 

 

Dogfennau ategol: