Cofnodion:
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y wybodaeth ddiweddaraf i bawb a oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a dywedodd wrth yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Heddlu Dyfed-Powys am adolygu trwydded safle ar gyfer Greenbridge Inn, Pentywyn, Sir Gaerfyrddin, yn dilyn ymweliad â'r safle gan yr Heddlu a Swyddog Trwyddedu'r Cyngor, yn ogystal â logiau gwybodaeth eraill a gyflwynwyd, a oedd wedi nodi diffyg rheolaeth a threfn ar y safle.
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-
Atodiad A - gwybodaeth gefndir am yr adolygiad a chopi o'r cais;
Atodiad B – sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu.
Cyfeiriodd Cynrychiolydd Awdurdod yr Heddlu at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad, gan ddweud, yn dilyn hynny, ei fod wedi cyfarfod â deiliad y drwydded safle a'i ddwy ferch i drafod y cais. O ganlyniad i'r ymweliad hwnnw, cytunodd Mr. Owen i roi'r gorau i fod yn Oruchwylydd Penodedig y Safle a byddai'r cyfrifoldeb hwn yn cael ei drosglwyddo i un o'i ferched. Roedd Mr. Owen a'i ferched hefyd wedi cytuno i dderbyn y 22 o amodau ychwanegol a restrir yn Atodiad A, yn amodol ar ddiwygio amod 17, yn unol â'u cais, i'r cynllun Her 25. Awgrymwyd y dylid gosod y system teledu cylch cyfyng erbyn 31 Gorffennaf 2019. Ers hynny roedd y ddwy ferch wedi ymgymryd â chyrsiau i ddeiliaid trwydded.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi cynrychiolydd Awdurdod yr Heddlu ynghylch ei sylwadau.
Cyfeiriodd Cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad a dywedodd fod yr Awdurdod Trwyddedu'n cefnogi'r mesurau a gynigiwyd gan yr heddlu, a bod yr Awdurdod yn ystyried bod y mesurau hyn yn briodol ac yn gymesur.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.
Mewn ymateb i'r sylwadau a ddaeth i law, cadarnhaodd Ann Marie Owen (ar ran deiliad y drwydded) y cytunwyd ar y 22 o amodau ychwanegol y gofynnwyd amdanynt gan Awdurdod yr Heddlu, yn amodol ar ddiwygio amod 17.
Ar hynny
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref
PENDERFYNWYD:-
2.1bod Mr Huw Leslie Robert Owen yn cael ei ddiswyddo fel goruchwylydd penodedig y safle yn Greenbridge Inn, Pentywyn, o 31 Gorffennaf 2019;
2.2bod yr amodau trwydded ychwanegol 1-22 y gofynnwyd amdanynt gan yr Heddlu ac y cytunwyd arnynt gan ddeiliad trwydded y safle yn cael eu hychwanegu at y drwydded ar unwaith, ond na fydd yr amodau ynghylch gosod system teledu cylch cyfyng ar y safle yn cael eu gweithredu tan 31 Gorffennaf 2019.
RHESYMAU
Wrth benderfynu ar y cais, roedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;
Roedd yr Is-bwyllgor yn rhoi pwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol.
Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt.
Nododd yr Is-bwyllgor fod yr holl bartïon wedi cytuno bod y mesurau a gynigir gan yr heddlu yn briodol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu a'u bod yn ymateb cymesur i'r digwyddiadau ar 10 Tachwedd 2018.
Roedd yn rhaid felly i'r Is-bwyllgor wneud ei benderfyniad ar sail hynny.
Dogfennau ategol: