Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YNGHYLCH PERFFORMIAD Y GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL YN SIR GAERFYRDDIN YN 2018/19

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch perfformiad Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn 2018/19. Dywedwyd wrth yr aelodau bod rheidrwydd statudol ar Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i roi adroddiad blynyddol ar y ddarpariaeth a'r perfformiad, yn ogystal â'r cynlluniau i wella holl ystod y gwasanaethau cymdeithasol. 

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd oedd wedi'i wneud o ran y meysydd yr oedd adroddiad y llynedd wedi amlygu bod angen eu gwella, gan dynnu sylw at y meysydd hynny oedd i'w datblygu yn ystod y flwyddyn gyfredol. Roedd yn archwilio pob maes gwasanaeth o fewn Gofal Cymdeithasol gan ddangos sut y byddai'n mynd i'r afael â strategaethau, camau gweithredu, targedau a risgiau'r gwasanaeth a sut y byddai'r gwasanaethau'n cael eu darparu eleni ar sail y gyllideb a gymeradwywyd.

 

Amlinellodd yr adroddiad berfformiad y gwasanaeth yn 2018/19, ynghyd ag asesiad ynghylch y dyfodol a'r blaenoriaethau strategol ar gyfer 2019/20.  Roedd yn cyd-fynd yn agos â'r Cynlluniau Busnes ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymunedol, ac Addysg a Gwasanaethau Plant.

 

Ar ôl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi, bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a Llywodraeth Cymru yn cwblhau eu dadansoddiad a'u hadolygiad o'r adroddiad. Cynhelir cyfarfod ffurfiol ag AGC ym mis Hydref er mwyn trafod eu dadansoddiad a'u cynllun arfaethedig. Yn dilyn hyn, anfonir Llythyr Blynyddol i'r Cyngor ar ddiwedd mis Tachwedd/dechrau mis Rhagfyr, a fydd yn cadarnhau eu dadansoddiad a'u cynllun arolygu.  Bydd cysylltiad agos rhwng y broses a Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella ynghyd â'r Llythyr Blynyddol oddi wrth Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol bod yr adroddiad yn un cadarnhaol iawn ar y cyfan, fodd bynnag, ni fyddai'r swyddogion yn gallu parhau i ysgogi arbedion effeithlonrwydd, ac roedd edrych ar sut y mae'r galw yn cael ei ariannu yn hanfodol. 

 

Mynegwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol iddynt. Y prif faterion oedd:-

 

·         Gofynnwyd pam roedd ffigurau 'Plant mewn Gofal' wedi lleihau.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod y ffigurau'n isel o'u cymharu â gweddill Cymru, ond nid o gymharu â gweddill y DU. Roedd cyfradd y rhai sy'n dychwelyd i'r cartref wedi dyblu oherwydd system gofal cymdeithasol well sy'n mynd ati i ddychwelyd plant i'w cartref. Dylid ond gofalu am blant yn y system gofal cyhoeddus pan nad oes unrhyw ddewis arall ar gael.

 

·         Nodai'r adroddiad mai "un flaenoriaeth fydd gwneud y gwasanaeth mewnol yn fwy effeithlon wrth i'w gyfran o'r farchnad gofal cartref gyfan dyfu". Gofynnwyd sut y byddai hyn yn cael ei gyflawni.

Dywedwyd fod ystod o gynlluniau ar waith er mwyn gwneud gofal cartref yn fwy effeithlon. Byddai defnyddio technoleg yn cynorthwyo o ran defnyddio'r gweithlu mewn modd mwy effeithlon a gellid gwella'r gwaith o gomisiynu gofal. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod ysgogi effeithlonrwydd wedi dod i ben ac efallai bydd angen i'r Awdurdod, er ei fod mewn gwell sefyllfa na'r rhan fwyaf o Awdurdodau eraill, ddechrau gwneud penderfyniadau anodd yn ymwneud â thoriadau i'r gwasanaeth.

 

·         Gofynnwyd pa gamau oedd yn cael eu cymryd i ddiogelu plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref. 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol y byddai hwn yn gwestiwn ar gyfer y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant i'w ateb, fodd bynnag, roedd yna nifer o achosion diogelu. Dywedodd fod yna ddiffyg fframwaith statudol a bod cyrff proffesiynol wedi argymell i Lywodraeth Cymru y dylai cofrestr o'r plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref fodoli o leiaf. Dywedwyd wrth y Pwyllgor hefyd y byddai'r Llywodraeth yn cyflwyno cyfarwyddyd drafft yn fuan. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod y mwyafrif helaeth o blant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref yn hapus ac y dylai rhieni gael mwy o hawliau megis yr hawliau statudol i fynychu canolfannau arholiad a chael cymorth ychwanegol os oes ei angen.

 

·         Mynegwyd pryder ynghylch y gyfradd oedi cyn trosglwyddo gofal.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod nifer o resymau dros oedi pan roedd data yn cael ei ddadansoddi.   Dywedwyd nad oedd yn fuddiol i ynysu un broblem benodol a bod angen adolygu'r broses gyfan gan ddechrau drwy asesu sut mae defnyddwyr gwasanaeth yn dod yn rhan o'r system tan eu bod yn cael eu rhyddhau. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol bod yna brinder adnoddau, ond er hynny nad oedd yr Awdurdod yn blocio gwelyau ysbytai. Roedd angen cynyddu nifer y lleoedd ac roedd ardaloedd mwy gwledig yng Ngogledd y sir yn cael anhawster darparu pecynnau gofal.

 

·         Gofynnwyd a oedd Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DOLS) yn cael eu cyllido gan grantiau.

Dywedodd yr Uwch-reolwr Diogelu bod cyllid grant cyfyngedig wedi'i dderbyn a bod Sir Gaerfyrddin wedi cael swm uchel a oedd yn gymesur ac yn gymharol i'r niferoedd mewn gofal.

 

·         Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynllunio recriwtio a'r gweithlu.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod y pwysau cyffredinol ar y gwasanaeth yn cael ei gynyddu gan swyddi gwag. Rhoddodd sicrwydd i'r Pwyllgor fod yna ffocws ar gynllunio'r gweithlu oherwydd ni ellir darparu gwasanaethau heb y gweithlu.

 

·         Dywedwyd ei bod yn anodd cael triniaeth ffisiotherapi mewn ysbytai. Sut all yr Awdurdod wneud yn si?r fod y driniaeth hon yn cael ei darparu?

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod yna broblem gyda'r ymgyrch genedlaethol i recriwtio ffisiotherapyddion.  Dywedwyd hefyd er bod Llywodraeth Cymru wedi creu mwy o leoliadau hyfforddiant, ond er hynny nad oedd digon ohonynt i greu nifer y ffisiotherapyddion sydd eu hangen yn y dyfodol. Roedd gwaith yn cael ei wneud i ddefnyddio cynorthwywyr gofal a gofalwyr cartref i gynorthwyo o ran ail-alluogi.

 

·         Dywedwyd fod y wybodaeth yn ymwneud â chyfraddau oedi cyn trosglwyddo gofal yn ddefnyddiol a byddai'n fuddiol cael mwy o ystadegau.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol wrth y Pwyllgor am roi'r cwestiynau yr hoffent gael eu hateb iddo o ran oedi cyn trosglwyddo gofal, a byddai'n trefnu bod adroddiad yn cael ei lunio.

 

10.1 Penderfynwyd derbyn Adroddiad Blynyddol Drafft Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, 2018/19.

10.2 Bod y Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn nodi'r wybodaeth y byddai'n hoffi cael manylion amdani yn yr adroddiad ar oedi cyn trosglwyddo gofal.

 

Dogfennau ategol: