Agenda item

RHEOLI ABSENOLDEB OHERWYDD SALWCH MEWN YSGOLION

Cofnodion:

Bu i'r Cynghorydd D.J.R. Bartlett ddatgan buddiant, sef ei fod yn Llywydd Cangen Sir Gaerfyrddin o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried adroddiad oedd yn amlinellu’r gefnogaeth a ddarperir gan yr Awdurdod Lleol i ysgolion ar fater rheoli absenoldeb salwch.  Nododd y Pwyllgor fod y defnydd o gymorth cyflenwi mewn ysgolion adeg absenoldebau salwch wedi cael ei drafod yn ystod ymweliad ysgol blaenorol ac yn dilyn hynny fod aelodau wedi gofyn am yr adroddiad hwn fel rhan o’u rhaglen waith i’r dyfodol.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor, yn dilyn cyflwyno Polisi Absenoldeb Salwch newydd yr Awdurdod ym mis Ebrill 2014, fod polisi enghreifftiol wedi cael ei anfon at bob ysgol i’w fabwysiadu ganddynt yn ystod 2015. Cafodd yr aelodau wybod hefyd am y gwahanol fentrau a ddarparwyd gan yr Is-adran Rheoli Pobl a Pherfformiad (o fewn Adran y Prif Weithredwr) i gefnogi ysgolion i wella eu rheolaeth ar absenoldebau, gan gynnwys y Ganolfan Iechyd Galwedigaethol a chyngor Adnoddau Dynol. Roedd yr adroddiad yn rhoi sylw i'r materion canlynol:

 

·         Hyfforddiant pwrpasol i Benaethiaid ar reoli absenoldebau

·         Canllawiau ar atgyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol

·         Cyflwyno cynllun ariannu cilyddol ar gyfer absenoldebau ysgol

·         Cyflwyno darparwr Asiantaeth Athrawon Cyflenwi Cymru Gyfan

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mynegwyd pryder am y defnydd o asiantaethau athrawon cyflenwi, a gofynnwyd a allai’r Awdurdod Lleol hwyluso cronfa o athrawon i’w defnyddio gan ysgolion y Sir. Awgrymwyd y byddai hyn yn sicrhau bod yr athrawon yn gymwysedig a chymwys a’u bod yn derbyn cyflog teg. Dywedodd y Pen-swyddog Adnoddau Dynol wrth y Pwyllgor fod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi ceisio mynd i’r afael â’r pryderon hyn trwy benodi darparwr Cymru gyfan ar gyfer lleoliadau asiantaeth mewn ysgolion. Enw’r darparwr oedd New Directions, ac fel rhan o’i gontract, roedd rhaid iddo sicrhau bod yr holl archwiliadau diogelu perthnasol wedi cael eu gwneud, a bod tystlythyron da wedi’u trefnu. Roedd y contract yn mynnu hefyd bod gan y darparwr fframwaith perfformiad yn cynnwys goruchwyliaeth a hyfforddiant rheolaidd ar gyfer y rhai a gyflogir ganddo. Er hynny, ychwanegodd ei bod yn arfer cyffredin i Benaethiaid argymell staff cyflenwi cymwysedig a chymwys i’w gilydd.

 

Wrth ymateb i gwestiwn arall ynghylch y posibilrwydd o ddatblygu trefniant lleol o fewn y Sir, nododd y Prif Swyddog Addysg y gellid ystyried hynny ond mai ei gyngor oedd y dylai’r Awdurdod a’r ysgolion weithredu’r cynllun ariannu cilyddol ar gyfer absenoldebau ysgol yn y lle cyntaf. Atgoffodd y Pwyllgor y byddai gweinyddu cronfa gyflenwi yn galw am dîm o swyddogion ar adeg pan oedd pwysau ar y gyllideb yn parhau i gynyddu. Atgoffodd yr aelodau hefyd nad oedd unrhyw reidrwydd ar ysgolion i ddefnyddio asiantaeth ddarparu newydd Cymru gyfan a’u bod yn rhydd i wneud trefniadau lleol fel y dywedwyd ynghynt. Fodd bynnag, roedd athrawon cyflenwi New Directions yn gymwysedig ac roeddent wedi cael eu gwirio a gallai ysgolion drafod gyda nhw er mwyn sicrhau cyflogau ac amodau teg ar gyfer yr athrawon cyflenwi.  

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: