Agenda item

ADRODDIAD MONITRO ABSENOLDEB SALWCH - BLWYDDYN LAWN/CHWARTER 4 2018/19

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 7.2 o'r cyfarfod ar 21 Mawrth 2018, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn darparu data ynghylch absenoldeb salwch ar gyfer cyfnod cronnol Chwarter 4 blwyddyn ariannol 2018/19 ynghyd â chrynodeb o gamau gweithredu.

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol [Rheoli Pobl], er y methwyd y targed corfforaethol o ran absenoldeb salwch ar gyfer 2018/19 o drwch blewyn, fod y canlyniadau ar y cyfan yn galonogol gan fod cyfraddau absenoldeb salwch wedi gostwng. Yn ogystal, roedd sylw yn cael ei rhoi i'r ychydig achosion o beidio â rhoi gwybod am salwch a dangosodd data Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod yr awdurdod yn ôl pob tebyg yn y 5ed neu'r 6ed safle o blith y 22 awdurdod lleol yng Nghymru o ran y nifer lleiaf o ddiwrnodau a gollwyd oherwydd salwch. O ran yr awdurdodau lleol sy'n 'perfformio'n well ', y farn oedd y dylid ystyried y ffaith bod rhai o'r awdurdodau hynny yn allgontractio gwasanaethau y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn eu cadw.

Pwysleisiwyd bod Cronfa Ddysgu Undebau Cymru wedi cadarnhau ei bwriad i argymell model Sir Gaerfyrddin ar gyfer cynyddu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl i Lywodraeth Cymru fel model arfer gorau i awdurdodau eraill ei efelychu.

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:

·         Cyfeiriwyd at yr angen i atal anfon e-byst sy'n gysylltiedig â gwaith y tu allan i oriau swyddfa arferol ac yn enwedig yn hwyr yn y nos neu'n gynnar yn y bore o achos pryderon y gallai hyn beri straen i'r anfonwr a'r derbynnydd. Atebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol [Rheoli Pobl] drwy ddweud fod y mater eisoes wedi'i godi yng nghyfarfod y Tîm Rheoli Corfforaethol ac y byddai'n codi'r mater unwaith eto o achos y pryder a fynegwyd;

·         Ystyriwyd bod angen codi proffil y Tîm Iechyd Galwedigaethol a bod angen codi ymwybyddiaeth o'i waith ardderchog ymhlith y staff; 

·         Cytunodd y Rheolwr Llesiant Gweithwyr i estyn gwahoddiadau i aelodau etholedig i ymgymryd â Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl;

·         Nodwyd, er y dylid croesawu'r gostyngiad yn lefelau absenoldeb salwch y staff, bod y lefel yn dal yn uwch na phob cymharydd yn y sector dielw. Ail-bwysleisiodd y Rheolwr Llesiant Gweithwyr rôl y Fforwm Herio ac Adolygu a oedd wedi cyfweld y rhan fwyaf o Benaethiaid Gwasanaeth ynghylch rheoli salwch gan bwysleisio arfer da lle y bo'n briodol. Gofynnwyd hefyd pam nad oedd y Gwasanaeth Iechyd wedi'i gynnwys fel cymharydd uniongyrchol;

·         Dywedodd y Rheolwr Llesiant Gweithwyr fod y Tîm Iechyd Galwedigaethol wedi rhoi cymorth i staff mewn ysgolion arbennig a bod absenoldebau wedi lleihau'n sylweddol;

·         Cytunodd y swyddogion i ddosbarthu proffil is-adrannol, gan gynnwys data absenoldeb salwch ynghyd â data arall ynghylch rheoli pobl, megis costau goramser, costau asiantaeth ac ati, pan fo Pennaeth Gwasanaeth yn cael ei wahodd i gyfarfod y Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau i drafod monitro perfformiad absenoldeb salwch;

·         Cytunodd swyddogion y gellid darparu'r ffigurau o ran nifer y gweithwyr o bob adran a oedd wedi mynd i'r Ganolfan Iechyd Galwedigaethol fel canrannau o weithwyr pob adran;

·         Nododd swyddogion awgrym y gallai fod o fudd i gyflogi Meddyg Teulu o fewn y Tîm Iechyd Galwedigaethol.

Estynnodd y Cadeirydd ei ddiolch, ar ran y Pwyllgor, i'r swyddogion am drefnu'r ymweliad diweddar â'r Uned Iechyd Galwedigaethol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: