Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BWRDD CYNLLUNIO RHANBARTHOL YNGHYLCH CAMDDEFNYDDIO CYFFURIAU AC ALCOHOL 2018-19

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Ms Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, a Ms Joanna Dainton, Pennaeth Datblygu Strategaeth Partneriaeth a Chomisiynu (Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad blynyddol Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol y Bwrdd Cynllunio Ardal ar gyfer 2018-19, a oedd yn rhoi sylw i ystod o feysydd, er mwyn rhoi gwybodaeth i aelodau a'r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau comisiynu presennol a'r gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a ddarperir.  Roedd yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

 

·         Yr amcanion strategol mewn perthynas â darparu gwasanaethau o'r fath, y trefniadau cyllido, a'r gwasanaethau/prosiectau a gomisiynir.

·         Datblygiadau lleol a chadarnhad o'r trefniadau llywodraethu a chynllunio sydd ar waith yn rhanbarthol.

·         Dangosyddion perfformiad, adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth ac astudiaethau achos.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Gofynnwyd i'r swyddogion roi eu barn ynghylch y ffaith fod pecynnau Naloxone ar gael yn gyhoeddus a gofynnwyd pa gymorth oedd ar gael i ddefnyddwyr gwasanaeth ar ôl defnyddio Naloxone.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ei bod yn cefnogi dosbarthu pecynnau Naloxone yn eang a bod Naloxone wedi achub bywydau ers iddo gael ei ddarparu.  Ar ôl defnyddio Naloxone, roedd y gwasanaeth yn darparu llwybr triniaeth ac adfer strwythuredig ar gyfer unigolion.  Ychwanegodd Pennaeth Datblygu Strategaeth Partneriaeth a Chomisiynu (Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol) er bod Naloxone eisoes yn cael ei ddosbarthu'n eang, ei fod yn dal yn flaenoriaeth allweddol i'r Bwrdd Cynllunio Ardal. Dim ond drwy wasanaethau lleol cytunedig y gellid rheoli dosbarthu.

 

·         Mynegwyd pryder ynghylch y cynnydd mewn dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn a chyffuriau dros y cownter megis codeine.  Roedd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yn cydnabod bod cymhlethdod camddefnyddio cyffuriau yn bryder a bod ystadegau'n dangos bod llawer yn defnyddio cyffuriau eilaidd.  Mae manylion ar wefan WEDINOS am y pum cyffur a ddefnyddir fwyaf.  Mae gan Wasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Dyfed lwyth achosion o gleientiaid sy'n dibynnu ar codeine a darparwyd pecynnau triniaeth.  Dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd y gellid trefnu gwaith allgymorth yn y fferyllfeydd er mwyn hwyluso trafodaethau gydag unigolion yr effeithir arnynt gan ddibyniaeth ar gyffuriau.

 

·         Gofynnwyd a oedd y gwasanaeth a ddarperir gan ganolfannau galw heibio yn cael ei archwilio.  Dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd fod gan y Bwrdd Iechyd fframwaith sicrhau ansawdd cadarn ac os nad oedd asiantaeth yn rhoi gwerth am yr arian, neu os oedd yn tangyflawni yn erbyn y Cytundebau Lefel Gwasanaeth y cytunwyd arnynt, byddai'r Bwrdd yn ymyrryd a gallai ddatgomisiynu'r gwasanaeth.

 

·         Cyfeiriwyd at y pwyslais ar atal. Nodwyd, gan fod atal yn well na gwella, mai dyma oedd y ffordd ymlaen.

 

·         Awgrymwyd y dylid rhoi "cyflwyniadau llym" i blant mewn ysgolion ac na ddylent gael "dewis" o ran cymryd cyffuriau.  Pwysleisiodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd fod arferion plant yn bennaf o ganlyniad i gylchoedd sy'n pontio'r cenedlaethau.  Roedd y gwaith traws-sefydliadol/amlasiantaethol a oedd yn cael ei wneud yn hyrwyddo addysg ac ymwybyddiaeth o fewn ysgolion.  Ychwanegodd Pennaeth Datblygu Strategaeth Partneriaeth a Chomisiynu fod trafodaethau parhaus yn cael eu cynnal â Llywodraeth Cymru gan dynnu sylw at bwysigrwydd cynnal y cymorth aml-asiantaeth, yn enwedig o fewn yr Heddlu a Throseddu.

 

·         Cyfeiriwyd at offeryn sgrinio AUDIT C ac ABI (ymyriadau byr ar alcohol). Eglurodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd fod AUDIT C yn gyfres o gwestiynau sy'n helpu i nodi ar unwaith unigolion sydd â phroblemau dibyniaeth alcohol.  Roedd bellach yn cael ei ddefnyddio mewn unedau Damweiniau ac Achosion Brys a byddai'r rhai a nodwyd yn cael ymyriad byr o ran alcohol a allai fod yn effeithiol mewn 5 munud. Dywedwyd bod 1 ym mhob 8 o'r bobl sy'n derbyn ABI yn cymryd camau cadarnhaol pellach i leihau faint o alcohol y maent yn ei yfed. 

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch pam roedd atgyfeiriadau gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn Hywel Dda yn ystod 2018-19 wedi cynyddu ers y llynedd, dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd fod hwn yn cael ei briodoli i atgyfeiriadau sy'n gysylltiedig ag alcohol drwy'r Gwasanaeth Cyswllt Alcohol ac yn bennaf ar gyfer y gr?p oedran 50+.

 

·         Mynegwyd pryder y gallai cyllid ddod i ben ar gyfer gwasanaethau fel Cyfle Cymru oherwydd Brexit.  Roedd y Pennaeth Datblygu Strategaeth Partneriaeth a Chomisiynu yn cydnabod bod elfen o ansicrwydd ynghylch Brexit o ran ariannu yn y dyfodol, ond roedd hi wedi gwybodaeth y byddai'r cyllid yn cael ei ddiogelu am y ddwy flynedd nesaf. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd a Phennaeth Datblygu'r Strategaeth Comisiynu a Phartneriaeth am ddod i'r cyfarfod a dywedodd hefyd fod yr adroddiad manwl yn fuddiol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: