Cofnodion:
· Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad i deulu'r diweddar Martin Morris, a fu'n aelod o Gyngor Sir Caerfyrddin a'r hen Gyngor Sir Dyfed. Talwyd teyrnged gan y Cadeirydd a'r Cynghorydd Rob James (Arweinydd y Blaid Lafur) i Mr Morris, a fu'n Arweinydd Gr?p Llafur, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ffocws Cwsmeriaid/Cydraddoldeb yn ystod ei gyfnod fel aelod etholedig dros Sir Gaerfyrddin.
Safodd y Cyngor mewn tawelwch fel arwydd o deyrnged i Mr Morris.
· Estynnodd y Cadeirydd groeso i Wendy Walters i'w chyfarfod cyntaf gyda'r Cyngor ar ôl iddi gael ei phenodi i swydd y Prif Weithredwr.
· Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol yn ei wasanaeth dinesig, yn enwedig ei gaplan y Parchedig Dr Caroline Jones, y Gwir Barchedig Joanna Penberthy a Mr Mark Drakeford, sef Prif Weinidog Llywodraeth Cymru.
Diolchodd hefyd i'r rheiny a oedd wedi cyfrannu at ei elusen, gan godi swm o £806.76 ar gyfer y banciau bwyd.
· Soniodd y Cadeirydd am y digwyddiadau y bu ef a'i is-gadeirydd yn bresennol ynddynt yn ddiweddar, yn enwedig y seremonïau penodi maerol mewn nifer o Gynghorau Tref a Chymuned ledled ardal yr awdurdod.
· Cyfeiriodd y Cadeirydd at ei ymweliad diweddar, gyda'r Cynghorydd Irfon Jones, â Mr a Mrs Jones o Fwlchnewydd, Caerfyrddin, a oedd wedi dathlu 70 mlynedd o briodas yn ddiweddar.
· Talodd y Cynghorydd Hazel Evans deyrnged i Dorian Lewis a Mark Allen o Adran yr Amgylchedd yn y Cyngor, yr oedd eu gweithredoedd anhunanol wedi achub bywyd gyrrwr lori yr oedd ei gerbyd wedi'i ysgubo i'r afon gan y tirlithriad yng Nghwmduad yn ystod Storm Callum yn ddiweddar. Cydnabuwyd eu gweithredoedd hefyd yn ystod noson Gwobrau Cymunedol Gorllewin Cymru ar 24 Mai, pan roddwyd y Wobr Dewrder Cymunedol iddynt.
Cyflwynodd y Cadeirydd anrheg i Dorian a Mark gan y Cyngor er mwyn cydnabod eu dewrder.
· Estynnwyd llongyfarchiadau i:-
- Y Cynghorydd Elwyn Williams, ar ei benodiad yn Is-gadeirydd Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer 2019/20.
- Y Cynghorydd Rob Evans ar gael gwobr yng nghategori 'Codi Arian i Elusen' yng Ngwobrau Cymunedol Gorllewin Cymru 2019 o ran ei waith yn datblygu Banc Bwyd Llanelli a ac am ddarparu fan i wasanaethu'r holl gymunedau. Roedd y Cynghorydd Evans hefyd wedi creu Gardd Goffa'r Rhyfel yn Nafen, Llanelli.
- Y Cynghorydd Jim Jones ar ei ben-blwydd diweddar.
· Soniodd y Cynghorydd Gary Jones am y sefydliadau canlynol yn Llangennech, a oedd wedi cael llwyddiant yng Ngwobrau Bwyd Cymru yn ddiweddar:-
The Bridge - Bwyty'r Flwyddyn (Rhanbarth y De-orllewin)
Tafarn y Morlais - Tafarn Gastro'r Flwyddyn (Rhanbarth y De-ddwyrain)
Parc Carafannau Teithiol De Cymru, ger Heol Troserch - Safle Carafanau Gorau yng Nghymru
· Estynnodd y Cynghorydd P. Hughes Griffiths, sef yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, ei werthfawrogiad i bawb o Sir Gaerfyrddin a oedd wedi cymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd yn ddiweddar, gan gynnwys disgyblion ysgol, athrawon, gwirfoddolwyr a chrefftwyr.
· Cafodd y Cyngor y wybodaeth ddiweddar gan y Cynghorydd Cundy am yr ymarfer sgrinio TB a gynhaliwyd yn ddiweddar yn wardiau'r Bynea a Llwynhendy. Dyma oedd yr ymarfer sgrinio mwyaf erioed yng Nghymru a daeth oddeutu 1400 o bobl, sy'n 900 yn fwy na'r hyn a ddisgwyliwyd. Mynegodd ei werthfawrogiad i'r holl staff meddygol a oedd yn rhan o'r ymarfer sgrinio, a gofynnodd i'r Cyngor anfon llythyr o ddiolch at y timau meddygol drwy Dr Brendan Mason, Pennaeth y Tîm Sgrinio, er mwyn dangos gwerthfawrogiad y Cyngor am eu gwaith.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cyngor yn anfon llythyr o ddiolch at Dr Brendan Mason a'i dîm er mwyn mynegi ei werthfawrogiad am eu gwaith caled yn ystod yr ymarfer sgrinio TB a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Wardiau'r Bynea a Llwynhendy.