Agenda item

TROSEDDAU SY'N GYSYLLTIEDIG Â CHYFFURIAU

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar droseddau cysylltiedig â chyffuriau. Dywedodd y Comisiynydd mai hwn oedd yr ail adroddiad 'Deep Dive' a ddarparwyd gan ei swyddfa a bod adroddiadau ar faterion pellach o bwys i'r cyhoedd yn cael eu cynllunio ar gyfer y dyfodol. Yn ystod y cyfarfod dosbarthodd y Prif Gwnstabl lythyr i Aelodau'r Panel a oedd yn ymateb i'r adroddiad.

 

Dywedodd y Comisiynydd fod canfyddiadau'r adroddiad yn gadarnhaol ar y cyfan ond awgrymodd y gellid gwneud gwelliannau gyda golwg ar ymgysylltu â sefydliadau partner a rhoi'r cynllun Braenaru a phenderfyniadau dwy haen y tu allan i'r llysoedd ar waith. Argymhellodd yr adroddiad ymhellach y dylid adolygu effaith bosibl Ystafelloedd Cymryd Cyffuriau ar gymunedau yn Nyfed-Powys.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, dywedodd y Comisiynydd fod y ffigurau'n gymharol uchel yng Nghymru gan gynnwys mewn ardaloedd fel Sir Gaerfyrddin, ond bod y ffigurau'n amrywio'n sylweddol yn ardal Dyfed-Powys. Dywedodd hefyd fod yna dystiolaeth y gallai'r Ystafelloedd Cymryd Cyffuriau leihau niwed sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn sylweddol. Er bod y ffigurau ar dudalen 33 [11] o'r adroddiad yn gynrychioliadol ar gyfer Cymru a Lloegr, dywedodd y Pennaeth Staff y byddai Swyddfa'r Comisiynydd yn edrych ar ddata mwy penodol ar gyfer ardal Dyfed-Powys.

 

Mewn ymateb i ymholiad yngl?n ag effeithiolrwydd triniaeth camddefnyddio sylweddau, cynghorodd y Comisiynydd fod angen monitro canlyniadau'r gwasanaethau hyn ar sail hirdymor. Dywedodd, er bod strategaeth y Llu ar fasnachu cyffuriau yn gadarn, eu bod yn lobïo Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Gartref ar fabwysiadu safbwynt sy'n canolbwyntio mwy ar iechyd yn eu strategaeth camddefnyddio sylweddau. Dywedodd y Comisiynydd hefyd, er nad oedd ei swyddfa'n ariannu gwasanaethau cwnsela'n uniongyrchol, ei bod yn cyfrannu at y rhwydwaith cymorth ehangach a bod Swyddogion yn ymgysylltu'n rheolaidd â chynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Hywel Dda yng nghyfarfodydd chwarterol y Bwrdd Cynllunio Ardal.

 

Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r llinell amser a'r adnoddau ar gyfer cynllun mentor Stopio a Chwilio, dywedodd y Comisiynydd mai megis dechrau yr oedd y trafodaethau ond y gellid rhoi manylion pellach i'r Panel yn yr Hydref.

 

Yngl?n ag ystafelloedd defnyddio cyffuriau, cynghorodd y Comisiynydd fod y Bwrdd Plismona yng Nghymru yn darparu cyfleoedd i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cynghorodd y Comisiynydd fod gwaith trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr yn cael ei gefnogi gan gysylltiadau deallusrwydd iach a sefydledig.

 

Mewn ymateb i ymholiad yngl?n ag ymgysylltu â'r cyhoedd, dywedodd y Comisiynydd fod cysylltiadau deallusrwydd â chymunedau lleol yn hanfodol; fodd bynnag, weithiau nid oedd y wybodaeth a ddarparwyd yn ddigon manwl ac felly nid oedd modd gweithredu arni. Roedd mentrau i gefnogi cysylltiadau gwybodaeth lleol yn cynnwys cydweithio â Crimestoppers, rhif ffôn am ddim a'r Ymgyrch Fearless, a oedd yn annog pobl ifanc i ddarparu gwybodaeth yn ddienw. Dywedodd y Comisiynydd hefyd y byddai'r mater yn cael sylw yn yr adolygiad 'Deep Dive' nesaf.

 

Mewn ymateb i ymholiad am wasanaethau camddefnyddio sylweddau, cynghorodd y Comisiynydd fod maes gwahanol ddarparwyr gwasanaeth yn un cymhleth. Awgrymodd y byddai adolygiad o strategaeth camddefnyddio sylweddau Llywodraeth Cymru o safbwynt iechyd yn galluogi partneriaid ledled Cymru i gydlynu eu gwaith yn well.

 

Gwnaed sylw a awgrymai bod angen ymagwedd lymach ar y cyd tuag at addysg ac atal, i wneud pobl ifanc yn ymwybodol o beryglon camddefnyddio sylweddau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: