Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGHYLCH GWEITHGAREDD RHIANTA CORFFORAETHOL

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorydd S. Najmi wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

Croesawodd y Cadeirydd Tyler, Josh, Shannon, Jo-Anna a Rhian i'r cyfarfod.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol Rhianta Corfforaethol, a nododd fanylion o ran pa mor dda y mae'r awdurdod lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau rhianta corfforaethol o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Manylodd yr adroddiad ar ganlyniadau o ran y plant sy'n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol hyd at 25 oed, a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran cyrraedd targedau a bennwyd yn y Strategaeth Rhianta Corfforaethol.

 

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaeth (Rhianta Corfforaethol) drosolwg o'r adroddiad a gwahoddodd yr Aelodau i ofyn cwestiynau i'r bobl ifanc a oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol:-

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch profiadau y sawl sy'n gadael gofal mewn perthynas ag Ymgynghorwyr Personol, dywedwyd wrth yr Aelodau eu bod yn brofiadau cadarnhaol iawn a bod yr ymgynghorwyr yn darparu cymorth un-i-un ar draws ystod eang o feysydd. Wrth rannu eu profiadau, soniodd y bobl ifanc a oedd yn bresennol am y cymorth cyson a ddarperir gan Ymgynghorwyr Personol mewn perthynas ag addysg, rhoi cynnig ar weithgareddau newydd ac wrth baratoi ar gyfer gadael gofal. Dywedodd y bobl ifanc nad oedd Gweithwyr Cymdeithasol yn gallu rhoi cymaint o gymorth â'r Ymgynghorwyr Personol, oherwydd bod ganddynt ymrwymiadau eraill yn aml.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod cymorth ar gael i'r rheiny sy'n derbyn addysg ôl-16 yn Sir Gaerfyrddin, ond cydnabuwyd bod y cymorth y mae'r rheiny sy'n mynychu coleg y tu allan i'r Sir yn ei dderbyn yn anghyson. Nodwyd bod y cyfnod pontio o'r ysgol i'r coleg yn anodd gan fod llai o gefnogaeth gyffredinol yn cael ei darparu o ran addysg ôl-16 mewn coleg na'r hyn a geir mewn ysgolion.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd y rhai sy'n gadael gofal yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, a beth gellid ei wneud i wella'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt. Dywedodd y bobl ifanc fod pobl yn gwrando arnynt ar y cyfan a'u bod wedi cael eu cefnogi i fynd i adolygiadau Plant sy’n Derbyn Gofal, ond fel y nodwyd eisoes, mae Gweithwyr Cymdeithasol dynodedig yn newid yn aml ac mae'n rhaid i'r rhai sy'n gadael gofal feithrin perthynas arall a dechrau'r broses o feithrin ymddiriedaeth unwaith eto.

 

Roedd yr Aelodau yn cydnabod bod gadael gofal yn golygu newid sylweddol ym mywyd person ifanc (mae awdurdod lleol yn dal i fod yn gyfrifol am gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal tan eu bod yn 25 oed) a gofynnwyd pa fesurau a oedd ar waith i gefnogi pobl ifanc drwy'r cyfnod pontio hwn. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth (Rhianta Corfforaethol) fod y nod o ddarparu tenantiaeth tai cyngor i'r rhai sy'n gadael gofal weithiau yn arwain at gorfod rhoi'r rhai sy'n gadael gofal mewn llety dros dro am gryn amser. Roedd hyn yn rhannol oherwydd prinder llety un ystafell wely yn stoc tai'r awdurdod lleol. Fodd bynnag, darparwyd cefnogaeth barhaus yn ystod y cyfnod pontio, gan ddefnyddio model St Basil, 'Y Llwybr Cadarnhaol'. Roedd yr awdurdod hefyd yn ymchwilio i'r posibilrwydd o bobl yn rhannu tai.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch y cymorth sydd ar gael mewn perthynas â materion iechyd meddwl a dywedwyd wrthynt fod y rhai hynny o fewn y system addysg yn gallu cael mynediad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed drwy'r ysgol neu'r coleg. Fodd bynnag, nid oedd y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau hyn yn yr un modd. Mae hyn yn golygu bod oedi cyn y gall defnyddwyr gael cymorth mewn modd amserol. Nodwyd hefyd y gellid gwneud mwy i gefnogi'r rheiny sy'n gadael gofal sy'n dioddef iselder a phryder. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant y byddai'n bwydo'r sylwadau yn ôl i'r Gr?p Strategol Iechyd Meddwl.

 

Ar ran y pwyllgor a'r swyddogion a oedd yn bresennol, diolchodd yr Is-gadeirydd i Tyler, Josh, Shannon, Jo-Anna a Rhian am eu presenoldeb yn y cyfarfod ac am fod yn onest wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Gweithgaredd Rhianta Corfforaethol

 

 

Dogfennau ategol: