Agenda item

AELODAETH PWYLLGORAU CRAFFU, PWYLLGORAU RHEOLEIDDIO A PHWYLLGORAU ERAILL Y CYNGOR A PHENODI AELODAU I WASANAETHU ARNYNT

Cofnodion:

Yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990, fel y'u diwygiwyd, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yn manylu ar ganlyniad adolygiad o gyfansoddiad Pwyllgorau Craffu, Pwyllgorau Rheoleiddio a phwyllgorau eraill y Cyngor yn dilyn ymddiswyddiad 5 Aelod o'r Gr?p Llafur a'r hysbysiad o greu gr?p newydd a fydd yn cael ei adnabod fel y Gr?p Annibynnol Newydd.  Ystyriodd y Cyngor adroddiad a gafwyd gan y Gr?p Llafur a'r Gr?p Annibynnol Newydd, a nodai fanylion y newidiadau arfaethedig i'r aelodaeth.

 

Er mwyn adlewyrchu'r trefniadau newydd, nododd y Cyngor y byddai lleihad o 11 sedd yn cael ei wneud i gynrychiolaeth y Gr?p Llafur ar Bwyllgorau sef o 52 i 41, ac y byddai gan y Gr?p Annibynnol Newydd hawl i ddyraniad o'r 11 sedd. Er y byddai dyraniad y seddi i Blaid Cymru, y Gr?p Annibynnol a'r gr?p aelodau heb gysylltiad pleidiol yn aros heb newid, byddai'r Gr?p Annibynnol yn colli un sedd ar y Pwyllgor Craffu i'r Gr?p Llafur. 

 

Mewn ymateb i'r newidiadau gofynnol fel y'u nodwyd yn nhabl 2B yn yr adroddiad,  roedd y Gr?p Llafur wedi cytuno i ildio un sedd ar y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd, y Pwyllgor Craffu - Addysg a Gwasanaethau Plant, y Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau a'r Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.  Roedd y Gr?p Annibynnol Newydd wedi enwebu 4 aelod i lenwi eu seddi Craffu fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Gyda golwg ar fod y newidiadau yn effeithio ar y sedd Reoleiddio fel y nodwyd yn Nhabl 3 yn yr adroddiad, roedd y Gr?p Llafur wedi cytuno i ildio sedd ar 6 Phwyllgor Rheoleiddio a Phwyllgorau eraill.  Mae'r adroddiad yn nodi'r Aelodau a enwebwyd o'r Gr?p Annibynnol i lenwi seddi a ildiwyd gan y Gr?p Llafur.

 

Nododd y Cyngor bod y Gr?p Annibynnol Newydd wedi dweud na fyddent yn hawlio eu dyraniad o 2 Sedd ar y Pwyllgor Cynllunio, ac y byddai'r seddi hyn yn aros yn wag nes bod y Gr?p yn rhoi gwybod fel arall.  Yng ngoleuni hyn, codwyd pryderon y gallai lleihau aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio o 20 i 18 achosi rhai anawsterau mewn achosion o ymddiheuriadau ynghyd â datganiadau posibl o fuddiant, a fyddai'n cynyddu'r perygl o Bwyllgor heb gworwm.  Byddai trafodaethau'n cael eu cynnal er mwyn gweld a fyddai modd i'r Gr?p ddatrys y mater hwn.

 

At hynny, yn unol â Rhan 6 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, sy'n gosod y gofynion ar gyfer penodi Pobl i Gadeirio Pwyllgorau Craffu a Throsolwg, nododd y Cyngor bod y cyfrifiad yn datgelu un Cadeirydd heb ei ddyrannu, y byddai angen i aelodau'r Pwyllgor perthnasol ei benodi.

 

Roedd y Gr?p Llafur, y dyrannwyd 2 Gadair iddynt yn flaenorol, wedi rhoi gwybod y byddent yn ildio Cadeirydd y Pwyllgor Craffu - Cymunedau, ac y byddai'r Awdurdod felly yn trefnu bod y mater o benodi Cadeirydd y Pwyllgor Craffu - Cymunedau yn cael ei gynnwys ar agenda cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu - Cymunedau.

PENDERFYNWYD, o ganlyniad i newidiadau i aelodaeth wleidyddol gyffredinol y Cyngor:

 

13.1     fabwysiadu'r newidiadau i nifer y seddi a ddelir gan y Gr?p Llafur a'r Gr?p Annibynnol Newydd, fel y manylir yn Nhablau 1, 2 a 3 yr adroddiad;

 

13.2     nodi nad oedd dim newidiadau i nifer y seddi sy'n cael eu dal gan Gr?p Plaid Cymru, y Gr?p Annibynnol a'r Aelodau heb Gysylltiad Pleidiol;

 

13.3     yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2 (2) (n), cymeradwyo newidiadau yn aelodaeth y Pwyllgorau yn sgil argymhelliad 13.1 uchod (fel y manylir yn yr adroddiad);

 

13.4.    yn unol â Rhan 6 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, nodi bod Cadeirydd y Pwyllgor Craffu - Cymunedau yn cael ei benodi gan Aelodau'r Pwyllgor Craffu - Cymunedau yn y cyfarfod nesaf.

 

 

Dogfennau ategol: