Agenda item

ARIANNU 2019-2020

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn trafod yr Adroddiad ar Gyllideb 2019-20, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

 

·         Cyllideb y Tîm Canolog 2018-19 a 2019-20

·         Cyfraniadau Awdurdodau Lleol

·         Dilyniant 2019-20

·         Grant 2019-20

·         Cyllideb a Ariennir gan Grant 2019-20

·         Risgiau

·         Cronfeydd wrth gefn

·         Argymhellion

 

Dywedodd y Cadeirydd fod copïau o ohebiaeth mewn perthynas â'r gyllideb wedi'u cylchredeg yn y cyfarfod. Roedd hyn yn cynnwys llythyr at y Gweinidog Addysg, dyddiedig 11 Chwefror 2019, yn gofyn i'r Gweinidog neilltuo oddeutu £790k o arian grant i gyflogi staff canolog, ac ymatebion y Gweinidog o 1 Mawrth 2019 a 2 Ebrill 2019. Roedd ymateb y Gweinidog ar 2 Ebrill yn nodi y gallai'r Cyd-bwyllgor godi hyd at £500k o'r cyllid grant presennol ar yr amod bod Awdurdodau Lleol yn mynd i'r afael â'r diffyg a bod cyfanswm yr arian yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru.

 

Roedd yr ohebiaeth hefyd yn cynnwys:

·         Llythyr gan Gyngor Sir Penfro, dyddiedig 20Mawrth, yn gofyn yn eu rôl fel Awdurdod Cyflogi a Deiliad Cyllideb am sicrwydd gan bob awdurdod yn y bartneriaeth;

·         Llythyr gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, dyddiedig 27 Mawrth 2019, yn rhoi hysbysiad o'u bwriad i adael ERW erbyn 31 Mawrth 2020 ond yn cadw'r hawl i dynnu'r hysbysiad hwnnw yn ôl os gellid datrys problemau;

·         Datganiad y Cadeirydd i'r wasg mewn ymateb i hysbysiad Castell-nedd Port Talbot.

 

Cynghorwyd y Cyd-bwyllgor fod yr Adroddiad ar y Gyllideb yn union yr un fath â'r hyn a gafwyd yng nghyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor gan mai dim ond neithiwr y cafwyd cadarnhad gan y Gweinidog ynghylch y defnydd o gyllid grant.

 

Roedd y cwestiynau a sylwadau a godwyd ynghylch yr adroddiad yn cynnwys y canlynol:

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch Ysgolion sy'n Destun Pryder, cynghorwyd y Cyd-bwyllgor bod angen cynnydd yn y gyllideb er mwyn sefydlu model cynaliadwy ar gyfer ysgolion sy'n helpu ysgolion a bod hyn yn fusnes craidd i ERW. Roedd nifer yr ysgolion a ddosbarthwyd fel rhai ambr neu goch wedi gostwng o 165 i 87 o dan ERW ac roedd categoreiddio ysgolion yn ffordd o ddyrannu cymorth.

 

Gwnaed nifer o sylwadau yn mynegi pryder bod ymateb y Gweinidog yn gadael bwlch ariannu o £290k, y gallai fod yn rhaid ei gyfannu drwy gynyddu cyfraniadau'r Awdurdodau Lleol. Dywedodd Castell-nedd Port Talbot, er y byddent yn aros yn Aelodau o ERW tan 31 Mawrth 2020, na fyddent yn cefnogi cynnydd mewn cyfraniadau gan Awdurdodau Lleol. Cadarnhaodd Castell-nedd Port Talbot y byddent yn talu eu cyfraniadau sy'n ddyledus ar gyfer 2018-19 a'r rheiny ar gyfer 2019-20 ar yr un lefel.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cyllid staff, dywedodd Mr Geraint Rees fod £2.5.m, o'r blaen, wedi cael ei ddefnyddio i secondio 56 o swyddi ERW cyfwerth ag amser llawn. Roedd y rhain yn cael eu rheoli'n lleol gyda thaliadau'n cael eu hanfonebu trwy ysgolion. Dywedodd y Swyddog Adran 151 nad oedd manylion am ffynhonnell yr arian wedi'u cynnwys yn yr adroddiad presennol ar y gyllideb, ond y gellid darparu manylion pellach ar gais y Pwyllgor. Cynghorwyd y Cyd-bwyllgor bod y Tîm Cyllid wedi gweithredu'n briodol o safbwynt Archwilio a bod adroddiadau cyllideb/monitro wedi'u paratoi a'u cyflwyno i'r Cyd-bwyllgor yn ôl y gofyn. Er bod y Tîm Cyllid wedi cofnodi ac wedi adrodd ar ffrydiau ariannu newydd, gwnaed penderfyniadau ynghylch ffynhonnell ac awdurdodiad cyllid gan y Rheolwr-gyfarwyddwr a'r Cyfarwyddwyr Addysg. Awgrymwyd y gallai'r Tîm Archwilio Mewnol ddarparu adolygiad o ffynhonnell, awdurdodiad a chwantwm y cronfeydd perthnasol ac y gellid hysbysu Swyddfa Archwilio Cymru o'r adolygiad.

 

Gwnaed sylw yn awgrymu, pe bai'r defnydd o £2.5m ar gyfer secondio staff ERW wedi bod yn cydymffurfio â'r Telerau a'r Amodau ar gyfer cyllid grant, byddai hyn yn awgrymu bod y telerau ac amodau eisoes yn darparu'r hyblygrwydd angenrheidiol ac efallai na fyddai angen Awdurdodiad Gweinidogol i neilltuo cyllid grant er mwyn cyflogi staff canolog. Awgrymwyd y gellid canfod hyblygrwydd y telerau a'r amodau fel rhan o'r Adolygiad Archwilio Mewnol.

 

Gwnaed sylw yn awgrymu y gellid anfon llythyr at y Gweinidog yn diolch iddi am yr ymrwymiad i neilltuo hyd at £500k, ond gan dynnu sylw at y ffaith nad oedd unrhyw hyblygrwydd i Awdurdodau Lleol gynyddu eu cyfraniadau. Gallai'r llythyr hysbysu'r Gweinidog o'r cynlluniau ar gyfer Adolygiad Archwilio Mewnol i edrych ar ffynhonnell, awdurdodiad, cwantwm a thelerau ac amodau'r trefniadau ariannu staff presennol.

 

Awgrymwyd hefyd y gallai'r Cyd-bwyllgor gytuno ar y gyllideb ar gyfer 2019-20 mewn egwyddor, yn amodol ar gadarnhad y gallai'r bwlch ariannu ar gyfer costau staffio gael ei gyfannu trwy gyllid grant. Awgrymwyd y gallai'r Cyd-bwyllgor hysbysu'r Gweinidog am y penderfyniad hwn yn y llythyr a gofyn iddi ymateb o fewn 14 diwrnod.

 

Trafodwyd fformiwlâu dosbarthu'r grant a dywedodd y Swyddog Adran 151 mai dim ond enghraifft oedd y rhain ac y gellid dewis unrhyw amrywiad ar y fformiwlâu. Gwnaed ymholiad pellach yn gofyn am eglurhad ynghylch pwy fyddai'n penderfynu pa fformiwla i'w defnyddio a dywedodd y Swyddog Adran 151 y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud gan y Rheolwr-gyfarwyddwr a'r chwe Chyfarwyddwr Addysg.

 

Dywedodd Mr. Geraint Rees mai heddiw oedd y dyddiad hwyraf posibl i ddechrau'r broses recriwtio ac na ellid dechrau recriwtio ar sail cymeradwyaeth amodol y Cyd-bwyllgor ar y gyllideb gan fod y penodiadau dan sylw yn rhai parhaol. Roedd y diffyg sicrwydd yn cael effaith negyddol ar iechyd a lles staff a byddai oedi pellach yn peryglu'r broses o weithredu'r strwythur newydd yn llwyddiannus. Dywedodd hefyd ei bod yn ansicr a oedd y telerau a'r amodau yn darparu'r hyblygrwydd i gyflogi staff canolog. Nododd cynrychiolydd ESTYN, pe bai'r materion recriwtio hyn yn cael eu gwireddu, y byddent yn pryderu'n sylweddol.

 

Gwnaed sylw yn awgrymu y gallai'r broses recriwtio ddechrau heddiw pa bai ymgeiswyr yn cael eu hysbysu bod eu penodiad yn amodol ar gadarnhad Llywodraeth Cymru. Dywedodd y Swyddog Adran 151 fod lefel yr hyder yn ddigonol i ddechrau recriwtio ac y byddai'n rhaid rhannu unrhyw gostau dileu swyddi posibl rhwng Awdurdodau Lleol yn unol â'r Cytundeb Cyfreithiol.

 

PENDERFYNWYD

4.1.    Cymeradwyo, mewn egwyddor, Gyllideb y Tîm Canolog ar gyfer 2019-20, Cyfraniadau Awdurdodau Lleol a'r sail ar gyfer eu cyfrifo, a fformiwlâu dosbarthu'r arian;

4.2.    Cynnal Adolygiad Archwilio Mewnol ERW i awdurdodiad, ffynhonnell (£2.5m o swm RSIG), cwantwm, a thelerau ac amodau trefniadau cyllido staff Arweinwyr Dysgu (56 Cyfwerth ag Amser Llawn). Hysbysu Swyddfa Archwilio Cymru o'r adolygiad;

4.3.    Ysgrifennu llythyr at y Gweinidog addysg yn cynnwys y canlynol:

i.      Hysbysiad o gymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor mewn egwyddor i Gyllideb 2019-20;

ii.    Cais i'r Gweinidog egluro a yw telerau ac amodau'r cyllid grant sydd ar gael yn rhoi'r hyblygrwydd i dalu am gostau staffio canolog;

iii.   Cais i'r Gweinidog ymateb o fewn 14 diwrnod oherwydd brys;

4.4.    Bod y Rheolwr-gyfarwyddwr yn bwrw ymlaen â gweithredu'r strwythur newydd, yn amodol ar y gwaith pellach a chadarnhad yn 4.1. a 4.3 uchod, gyda'r bwriad o sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau erbyn diwedd tymor yr haf.

 

Dogfennau ategol: