Cofnodion:
·
Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad diffuant i deulu'r
diweddar Gerald Meyler.
· Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddigwyddiadau diweddar a oedd yn cynnwys:
Agoriad Swyddogol y ffordd gyswllt newydd rhwng Nant-y-ci a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant;
cwblhau'r gwaith ffordd hanfodol yng nghanol tref
Rhydaman;
cwblhau'r Ysgol Gynradd Newydd yn Llangadog a'r estyniad newydd yn Ysgol Gynradd Pontyberem;
Dadorchuddio plac glas ym Mancyfelin i anrhydeddu un o blant y pentref a ddaeth yn chwaraewr Rygbi uchel ei barch yn fyd-eang, Delme Thomas;
Dadorchuddio hysbysfwrdd ac arwyddion ffordd i roi sylw dyledus i ogof Twm Sion Cati ger Rhandirmwyn;
Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr yn 2il noson wobrwyo Dathlu Diwylliant y Sir, yn enwedig i Cerys Angharad, a enillodd y wobr talent ifanc ac i Gwyn Nicholas, Llanpumsaint am ei gyfraniad oes i gerddoriaeth ac i'w gymuned;
Mynegwyd llongyfarchiadau i bawb o'r rheiny a gafodd eu hanrhydeddu am amrywiol gyfraniadau clodwiw mewn noson wobrwyo ym mhentref Penygroes, a oedd yn cynnwys y Cynghorydd Dai Thomas a dderbyniodd wobr am ei gyfraniad oes i'w gymuned.
· Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r canlynol am ennill gwobrau yng Ngwobrau Slow Food Cymru:-
Marchnad Caerfyrddin am ennill gwobr 'Marchnad Orau Cymru';
Wrights Emporium, Llanarthne am ennill gwobr y Deli/Groser Gorau;
Blasus Delicatessen, Caerfyrddin am ennill gwobr y Siop Gaws Orau.
· Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Owain Baxter ac Owen Bailey o ward Cydweli a ddewiswyd i chwarae criced dros Gymru.
· Adroddodd y Cadeirydd fod Gwobr Athletau Sportshall y DU 2019 i gael ei chyflwyno i Ysgrifennydd Ysgolion Dyfed, Hedydd Davies, yn rownd derfynol y DU yn Sport City Manceinion ar ddydd Sadwrn 13 Ebrill 2019.
· Dymunai'r Cadeirydd fynegi ei ddymuniadau gorau i Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys Richard Lewis ar gael ei benodi'n ddiweddar yn Brif Gwnstabl Heddlu Cleveland.
· Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Gôr Ysgol Gymraeg Teilo Sant a fu'n fuddugol yng nghystadleuaeth Côr Cymru Cynradd.
· Dymunai'r Cadeirydd dynnu sylw at ddathliadau pen-blwydd y Mudiad Meithrin
· Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Ysgol Pum Heol am:-
ennill Pencampwriaeth Pêl-rwyd Sir Gaerfyrddin gan fynd ymlaen i gynrychioli Sir Gaerfyrddin yn rownd derfynol Cymru.
ennill Rownd Ranbarthol Llanelli a'r Cylch yng Nghystadleuaeth Bêl-droed yr Urdd i Ysgolion Cynradd a mynd ymlaen i chwarae yn Rownd Derfynol Cymru yn Aberystwyth ar 11 Mai.
y Tîm Rygbi sy'n mynd trwodd i Rownd Derfynol Ysgolion Llanelli.
· Dymunai'r Cadeirydd estyn ei ddymuniadau gorau i'r Cynghorydd Edward Thomas, a oedd fel rhan o'i rôl faerol yn codi arian i dair elusen trwy fynd ar daith gerdded noddedig ar 19 Mai 2019.
· Mynegodd y Cadeirydd ei ddiolchiadau i'r rheiny sydd wedi cefnogi'r elusennau a ddewiswyd ganddo.
· Cyfeiriwyd at y ffaith fod Dr David Nott, a aned yn Ysbyty Heol y Prior Caerfyrddin ac a fu'n byw gyda'i dad-cu a'i fam-gu yn Nhre-lech tan ei fod yn bedair oed, wedi cyhoeddi llyfr yn gynharach eleni o'r enw ‘War Doctor’. Bu Dr Nott, llawfeddyg ymgynghorol o Gymru a weithiai'n bennaf yn ysbytai Llundain fel llawfeddyg cyffredinol a fasgwlar, yn gwirfoddoli yn rhai o ardaloedd rhyfel peryclaf y byd. Roedd ei lyfr War Doctor yn cydnabod ei fagwraeth yng Nghymru.