Agenda item

PRIFFYRDD - Y NEWYDDION DIWEDDARAF

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y Gwasanaeth Priffyrdd i’w ystyried ganddynt. Roedd yr adroddiad yn cynnwys y gwasanaethau a ddarperir, manylion am yr adolygiad hyd yn hyn a chynigion ar gyfer gwasanaethau i’r dyfodol. Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Lleisiwyd pryder ynghylch y lleihad yn amlder gwagio cafnau a gynigir yn yr adroddiad, yn enwedig felly os oedd amlderau glanhau ffyrdd yn cael eu lleihau hefyd. Croesawodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y sylwadau ond atgoffodd y Pwyllgor mai mater i’r Cyngor Sir fyddai penderfynu ar hyn fel rhan o’r cynigion ar gyfer y gyllideb a drafodir yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.

 

Awgrymwyd y dylid rhoi blaenoriaeth uwch i briffyrdd gan na fyddai trigolion, heb fynediad digonol a diogel at gyfleusterau o bob math, yn gallu teithio o gwmpas y sir a gofynnwyd am sicrwydd y byddai’r Bwrdd Gweithredol yn ail-ystyried ei gynigion ar gyfer y gwasanaeth. Cydnabu’r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Technegol y sylwadau a rhoddodd sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai, yng ngoleuni’r setliad llai difrifol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, yn ymladd am fuddsoddiad ychwanegol yng ngwasanaethau’r Adran.  

 

Awgrymwyd na allai’r Awdurdod barhau mwyach i weithredu gyda thoriadau i wasanaethau mor ddifrifol â’r rhai a gynigir yn yr adroddiad a bod y Cyngor mewn sefyllfa o argyfwng. Atgoffodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Technegol y Pwyllgor fod y weinyddiaeth bresennol yn ceisio gweithio o fewn cyfyngiadau cyllideb y weinyddiaeth flaenorol, a gytunwyd gan y Cyngor Sir ym mis Mawrth 2015.  

Cyfeiriwyd at hyd y rhwydwaith priffyrdd y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gyfrifol amdano ac awgrymwyd y dylai faint o arian a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru adlewyrchu hynny. Lleisiwyd pryder hefyd mai ffyrdd gwledig fyddai’n cael eu heffeithio fwyaf. Atgoffodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Technegol a Chyfarwyddwr yr Amgylchedd y Pwyllgor y byddai datblygu’r hierarchaeth rhwydwaith newydd yn llesol i ardaloedd gwledig gan y byddai’n seiliedig ar rwydwaith wedi’i flaenori yn ôl defnydd yn ogystal ag yn ôl pwysigrwydd strategol, yn groes i’r system bresennol sy’n seiliedig ar ddosbarthiad ffyrdd (e.e. A, B, C ac Annosbarthedig).

 

Wrth ymateb i sylw yn croesawu’r ffaith y prynwyd cerbydau sawl-rôl, dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd wrth y Pwyllgor y gellid defnyddio’r cerbydau ‘newid-corff’ newydd trwy gydol y flwyddyn ac y byddai hynny’n gwella’r defnydd o gerbydau ac effeithlonrwydd y gwasanaeth. Byddai’r cyrff tipio yn golygu y gallai cerbydau wneud gwaith adeiladu yn ystod y dydd a byddai cyrff graeanu yn golygu y gellid gwneud gwaith graeanu gyda’r nos.

 

Cyfeiriwyd at lefelau staffio ac at y ffaith fod adroddiadau blaenorol i’r Pwyllgor wedi cyfeirio at golli dim ond deugain aelod o staff yn y gwasanaethau rheng flaen dros yr wyth mlynedd diwethaf. Atgoffodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y Pwyllgor fod rhaid gwneud arbedion ymhob maes megis peiriannau, deunyddiau, prosesau caffael ac mai’r nod oedd cadw cymaint o staff rheng flaen ag y bo modd. Fodd bynnag, collwyd staff o’r gwasanaeth dros y blynyddoedd diweddar oherwydd afiechyd, ymddeoliadau a thrwy’r cynllun diswyddo.

 

Wrth ymateb i gwestiwn ynghylch a oedd chwistrellu gwair i’w atal rhag tyfu’n ormodol ar finffyrdd yn ddewis ar gyfer arbed arian, yn hytrach na’i dorri, nododd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, er bod chwistrellu o’r fath yn gyfreithlon a’i fod yn cael ei ddefnyddio mewn ardaloedd trefol i reoli chwyn, y byddai’n rhaid cael cerbyd o hyd i deithio i’r safle dan sylw. Felly, er y gellid ei ystyried, nid oedd yn amlwg a fyddai’n arwain at arbedion ariannol.

 

Yn dilyn cwestiwn am atal staff o’u gwaith yn yr adran, atgoffodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y Pwyllgor fod hyn yn ymwneud â’r Uned Gwasanaethau Gwastraff, ac er bod rhai aelodau o staff wedi dychwelyd i’w gwaith, nid oedd modd dweud rhagor gan fod ymchwiliadau yn parhau.

 

Mynegwyd siom am naws yr adroddiad a lleisiwyd pryder fod toriadau parhaus yn debygol o arwain at ddirywiad parhaus yng nghyflwr priffyrdd a phontydd. Gofynnwyd hefyd a fyddai’r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ail-gyfeirio arian o godi llwybrau seiclo arfaethedig i waith cynnal a chadw priffyrdd. Cydnabu’r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Technegol fod sefyllfa’r gyllideb yn anodd ond fod y cyfyngiadau hyn yn ganlyniad cyllideb y weinyddiaeth flaenorol. Ychwanegodd fod llawer o waith yn cael ei wneud i edrych ar ffyrdd gwahanol o weithio a fyddai nid yn unig yn arwain at arbedion ariannol ond fyddai’n cael yr effaith leiaf bosib ar wasanaethau. Ychwanegodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd hefyd fod symiau cyfalaf mwy wedi’u clustnodi ar gyfer yr adran yn y gyllideb arfaethedig ar gyfer 2016/17 ymlaen.  

 

Wrth ymateb i gwestiwn am ganoli depos, cadarnhaodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y byddai’r depos yn cael sylw ac felly hefyd a fyddai trefniant wedi’i ganoli yn addas o ran amserau teithio / ymateb i rannau gwahanol o’r sir. Byddai angen ystyried unrhyw gynllun i resymoli depos law yn llaw â gofynion awdurdodau cyfagos ac anghenion Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru.

 

Lleisiwyd pryder fod aelodau profiadol o staff yn cael eu colli trwy’r cynllun diswyddo ac fe gwestiynwyd statws presennol yr ad-drefnu staffio. Cydnabu Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod cynllunio olyniaeth yn fater allweddol yr oedd swyddogion yn edrych arno, yn enwedig felly gan fod gan yr adran broffil oed h?n. Ychwanegodd y byddai haen reolaeth uchaf yr adran yn cael sylw maes o law, a dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Priffyrdd wrth y Pwyllgor fod y gwaith priffyrdd oedd gynt yn gweithredu ar sail Dwyrain-Gorllewin wedi cael ei rannu erbyn hyn yn bum sector, sef: Gogledd Ddwyrain (Llandeilo i Lanymddyfri), Gogledd Orllewin (Caerfyrddin i Gastellnewydd Emlyn), De Orllewin (Caerfyrddin i Hendy-gwyn ar Daf), Dwyreiniol (Cross Hands i Ddyffryn Aman) a De Ddwyrain (Llanelli). 

 

PENDERFYNWYD derbyn y diweddariad. 

Dogfennau ategol: