Agenda item

UNED CADWRAETH GWLEDIG - DIWEDDARIAD

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad blynyddol ar waith yr Uned Fusnes Cadwraeth Cefn Gwlad yn ystod 2015. Atgoffwyd yr aelodau o wasanaethau’r Uned, gan gynnwys darparu cyngor i adrannau eraill y Cyngor yn ogystal â’r cyhoedd ar faterion yn ymwneud â thirwedd, coed, coetiroedd, cloddiau, bioamrywiaeth a thir comin. Nodwyd hefyd y prif uchafbwyntiau o’r flwyddyn ddiwethaf, oedd yn cynnwys partneriaeth Coed Cymru, gweithredu’r Strategaeth Diogelwch Coed, Prosiect Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau Mynydd Mawr (SAC) a Phrosiect Corsydd Sir Gaerfyrddin oedd yn cynnwys lefel uchel o ymchwil o ansawdd gan Brifysgol Abertawe. 

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd ymhle roedd swyddogion Coed Cymru yn gweithio a faint roedd yr Awdurdod Lleol yn ei gyfrannu at ariannu eu swyddi. Dywedodd y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad wrth y Pwyllgor fod y swyddogion yn gweithio o Landeilo, a bod un swyddog yn llawn-amser a’r llall yn rhan-amser. Roedd y cyllid ar gyfer y swyddi yn dod o sawl ffynhonnell, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru (60% rhyngddynt) ac er na allai gadarnhau union gyfraniad yr Awdurdod, dywedodd y gellid danfon y wybodaeth honno at aelodau. Dywedodd y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad wrth y Pwyllgor hefyd fod y swyddogion hyn yn cynhyrchu incwm i’r Awdurdod trwy weinyddu ffi’r grant plannu coed. 

 

Croesawyd y ffaith y gweithredwyd y Strategaeth Diogelwch Coed a gofynnwyd sut roedd gwaith diogelwch ar goed oedd yn cael eu hystyried yn risg yn cael ei flaenoriaethu. Dywedodd y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad a’r Pennaeth Cynllunio wrth y Pwyllgor y datblygwyd y strategaeth dros y flwyddyn ddiwethaf gan nad oedd yn y gorffennol unrhyw gadwrfa ganolog yn cadw gwybodaeth o’r fath. Roedd y trefniadau newydd yn ddibynnol ar adrannau eraill yn darparu’r manylion angenrheidiol am goed ar dir yr Awdurdod Lleol ac yn dwyn coed oedd yn destun pryder i sylw’r Uned. Cysylltwyd hefyd ag ysgolion er mwyn cael gwybod ar ba safleoedd yr oedd coed y byddai angen eu harchwilio. Byddai ysgolion a chanddynt goed ar eu safleoedd yn cael eu blaenoriaethu oherwydd y perygl posib i ddisgyblion yn ymweld â pharciau gwledig, a rhoddir blaenoriaeth i’r coed hynny sydd o fewn pellter syrthio i lwybrau.

 

Wrth ymateb i gwestiwn am bwy oedd yn gyfrifol am gynnal ymweliadau safle i ddelio ag achosion o gloddiau uchel, dywedodd y Pennaeth Cynllunio y bu anghysondeb gydag achosion o’r fath yn y gorffennol lle y bu’r Pennaeth Gwasanaeth yn bersonol gyfrifol. Roedd prosesau newydd ar waith erbyn hyn a dirprwywyd y cyfrifoldeb i’r Rheolwr Rheoli Datblygu i weithio gyda’r Swyddog Coed. 

 

Cyfeiriwyd at waredu cloddiau a gofynnwyd am eglurhad o ran sut roedd yr Uned yn ymateb i ddigwyddiadau, megis yr un a amlygwyd yn yr adroddiad lle y cafodd darn 1,300m ei glirio gan berchennog tir. Dywedodd y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad wrth y Pwyllgor fod Rheoliadau Cloddiau 1997 yn caniatáu i’r Uned gymryd camau gorfodaeth a’i bod, yn y sefyllfa arbennig hon, wedi cyflwyno hysbysiad ail-blannu. Dywedwyd fod swyddogion yn ceisio gweithio gyda pherchnogion tir ac yn cychwyn deialog er mwyn sicrhau bod cloddiau yn cael eu hail-blannu yn hytrach na rhoi dirwyon na fyddent, oherwydd amryfusedd yn y ddeddfwriaeth, o reidrwydd yn cael eu talu. Wrth ymateb i sylw arall am glirio cloddiau ar safle ffordd osgoi newydd Gorllewin Caerfyrddin, cytunodd y Pennaeth Cynllunio i ymchwilio’r mater ymhellach.

 

Gofynnwyd sut roedd yr Uned yn hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant Cymraeg fel rhan o’i hymrwymiad i Gynllun Gwella’r Cyngor. Dywedodd y Pennaeth Cynllunio, er nad oedd yr Uned ei hun o reidrwydd yn cymryd camau penodol i ddiogelu’r Gymraeg, fod unedau eraill y Gwasanaeth Cynllunio yn gallu ac yn dylanwadu ar y gwaith o hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant. Mae disgwyl i Hysbysiadau Technegol ychwanegol gael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fydd yn cynnig rhagor o gyngor i’r Awdurdod ar fater y Gymraeg a’i heffaith ar y broses gynllunio. 

 

Awgrymwyd hefyd fod lles bodau dynol yr un mor bwysig os nad yn bwysicach na lles bywyd gwyllt ac nad oedd codi taliadau am ddefnyddio caeau chwarae a throsglwyddo asedau o reolaeth yr Awdurdod Lleol yn llesol i iechyd trigolion y sir. Cyfeiriwyd hefyd at gae chwarae Cymdeithas Lesiant Neuadd y Gât (ger Pen-y-groes) gan nad oedd modd torri’r gwair oherwydd presenoldeb glöyn byw brith y gors. Lleisiwyd pryder, er bod materion cadwraeth yn bwysig, ei bod yn ymddangos eu bod weithiau’n cael blaenoriaeth dros y cyfleoedd i blant chwarae. Croesawodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y sylwadau ond atgoffodd y Pwyllgor fod gwaith yr Uned yn benodol iawn a bod gan yr Awdurdod nifer o bolisïau a strategaethau eraill oedd yn ceisio hyrwyddo a gwella llesiant trigolion y sir. Croesawodd y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad y sylwadau hefyd ac addawodd y byddai’n fodlon cyfarfod â chynrychiolwyr y gymdeithas lesiant i sicrhau y gallai’r mater gael ei benderfynu. 

 

Wrth ateb cwestiwn am aelodaeth Partneriaeth Cynllun Gweithredu Lleol Bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin (LBAP), dywedodd y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad wrth y Pwyllgor fod hwn yn drefniant sy’n dyddio o’r cyfnod o gwmpas y flwyddyn 2000 a’i fod yn cynnwys mudiadau fel Cadwraeth Gloÿnnod Byw, Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir, Ymddiriedolaeth Coetiroedd, Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW), y Gymdeithas Frenhinol dros Warchod Adar (RSPB) a Chyngor Sir Caerfyrddin. Dywedwyd fod y bartneriaeth wedi gweithio’n dda ers ei sefydlu a’i bod wedi galluogi swyddogion perthnasol o sefydliadau gwahanol i gyfarfod a rhannu gwybodaeth a chydweithio ar brosiectau.

 

Amlygwyd pwysigrwydd gwaith yr Uned Gadwraeth, ac wrth ymateb i gais am adroddiad ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (SAC) ac yn benodol felly SAC Bae Caerfyrddin, cytunodd y Cadeirydd i nodi hynny a’i gynnwys ar agenda cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cyfeiriwyd at Orchmynion Cadwraeth Coed a lleisiwyd siom ynghylch yr amser a gymerwyd i ddelio â choeden yn ardal Llangadog, yn enwedig felly gan fod hyn yn ddibynnol ar randdeiliaid ac asiantaethau gwahanol. Croesawodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y sylwadau a dywedodd y byddai’n gwirio pa gynnydd a wnaed ar y mater hwn. Rhoddodd sicrwydd i aelodau fod yr adran yn hyfforddi swyddogion eraill ar faterion cynnal a chadw / cadwraeth coed, ac y byddai hynny’n darparu mwy o adnoddau staffio yn y dyfodol.

 

Wrth ymateb i gwestiwn am waith tirlunio ar gynlluniau ffyrdd newydd, cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio mai gan y Gwasanaeth Cynllunio yr oedd y gair olaf ar unrhyw newidiadau a wnaed wrth weithredu cynlluniau o’r fath, ac ychwanegodd fod newidiadau’n aml yn gorfod cael eu gwneud pe deuid ar draws materion na ragwelwyd mohonynt.

 

Croesawodd y Pwyllgor y diweddariad ar waith yr uned ac fe BENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: