Agenda item

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGYHORWYR JEAN LEWIS, HAZEL EVANS, JOSEPH DAVIES, ALUN LENNY, KIM BROOM, ANDREW JAMES, ARWEL DAVIES, ANN DAVIES, EIRWYN WILLIAMS, MANSEL CHARLES, TYSSUL EVANS, KEN HOWELL, GARETH THOMAS A CEFIN CAMPBELL.

Cofnodion:

Gan gyfeirio at Gofnod 3 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2018 ystyriodd y Pwyllgor geisiadau a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Sir Jean Lewis, Hazel Evans, Joseph Davies, Alun Lenny, Kim Broom, Andrew James, Arwel Davies, Ann Davies, Eirwyn Williams, Mansel Charles, Tyssul Evans, Ken Howell, Gareth Thomas a Cefin Campbell am ollyngiad o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallent siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas ag unrhyw fater i'r Cyngor sy'n ymwneud â ffermio'n gyffredinol.

 

Adroddwyd bod cais am ollyngiad wedi'i wneud gan bob Cynghorydd oherwydd y gallent, o bosibl, fod â buddiant personol mewn materion o'r fath yn rhinwedd paragraffau 10(2) o Gôd Ymddygiad yr Aelodau yn yr ystyr eu bod i gyd naill ai'n ffermio yn y Sir, yn berchen ar dir fferm sy'n cael ei ffermio gan bobl eraill, neu fod ganddynt gymdeithion personol agos a oedd yn ffermio.

 

Roedd buddiant yr aelodau hefyd yn rhagfarnol gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y cynghorwyr ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorwyr wedi gofyn am ollyngiad ar ddwy sail a nodir yn Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 sef:-

 

(1) Na fyddai cyfranogiad y Cynghorwyr mewn materion o'r fath yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y cyflawnir gwaith y Cyngor;

(2) Bod modd cyfiawnhau eu cyfranogiad oherwydd eu harbenigedd penodol.

 

Nodwyd bod y pwyllgor wedi caniatáu gollyngiad i aelodau'r Cyngor yn y gorffennol mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â ffermio ar 12/11/2018, 28/09/2017, 03/06/2016, 03/12/2015 a 29/07/2015 a bod pob un o'r 14 cynghorydd a enwyd wedi defnyddio gollyngiadau a ganiatawyd iddynt yn flaenorol gan y Pwyllgor Safonau (neu gan y Swyddog Monitro o dan awdurdod dirprwyedig gan y pwyllgor) i siarad yn dilyn Rhybudd o Gynnig a roddwyd gerbron y Cyngor llawn mewn perthynas â mater sy'n ymwneud â ffermio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

4.1      ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorwyr Sir  Jean Lewis, Hazel Evans, Joseph Davies, Alun Lenny, Kim Broom, Andrew James, Arwel Davies, Ann Davies, Eirwyn Williams, Mansel Charles, Tyssul Evans, Ken Howell, Gareth Thomas a Cefin Campbell i SIARAD, OND NID PLEIDLEISIO, A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas ag unrhyw faterion i'r Cyngor sy'n ymwneud â ffermio yn gyffredinol, tan 31 Mai 2022;

4.2    bod y Cynghorwyr a enwir uchod yn cael eu cynghori i geisio cyngor cyfreithiol pellach ac os oes angen, wneud cais am ollyngiad arall os byddant yn dymuno cymryd rhan ym musnes y Cyngor sy'n ymwneud yn benodol â hwy, neu sy'n debygol o effeithio arnynt hwy, neu'u cysylltiadau personol agos o ran gweithgareddau ffermio neu dir fferm.

 

Dogfennau ategol: