Cofnodion:
Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar y gwaith a'r gweithgareddau a wnaed gan yr Uned Gorfodi Materion Amgylcheddol, ac roedd yr adroddiad yn cynnwys Polisi Gorfodi Cyffredinol Sir Gaerfyrddin a'r rhaglen waith gynlluniedig ar gyfer 2019.
Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth i'r Aelodau am yr agweddau canlynol:-
· Rhagarweiniad a Chefndir
· Troseddau o ran:-
• C?n yn baeddu
• Sbwriel
• Tipio anghyfreithlon
• Dyletswydd gofal
• Graffiti a gosod posteri'n anghyfreithlon
• Cerbydau wedi'u gadael
• Troseddau Priffordd
· Y Sefyllfa Bresennol
· Llwyddiannau
· Y Dyfodol
Yn unol â gofynion statudol presennol, dywedwyd bod angen adnewyddu Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus bob 3 blynedd. Gan i Sir Gaerfyrddin weithredu ei Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn 2016, byddai angen adnewyddu cyn mis Gorffennaf eleni. Er mwyn paratoi at yr adnewyddu, dywedodd y Pwyllgor fod ymgynghoriad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd a byddai'r Pwyllgor yn cael gwybod am ganlyniadau'r ymgynghoriad yn ei gyfarfod ym mis Mai 2019.
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-
Gofynnwyd a oedd yn bosibl rhoi rhagor o gyhoeddusrwydd i'r ffaith fod baw c?n yn drosedd. Dywedodd y Rheolwr Gorfodi Materion Amgylcheddol fod y wasg a'r cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio cymaint â phosibl. Eglurwyd i'r Pwyllgor enghreifftiau o ymgyrchoedd diweddar.
Nodwyd bod Cyngor Cymuned Llanboidy wedi datblygu taflen/poster i godi ymwybyddiaeth fod baw ci yn drosedd a sut i roi gwybod am droseddwyr. Canmolwyd hyn gan y Rheolwr Gorfodi Materion Amgylcheddol, ynghyd ag unrhyw fath o fenter i ddileu'r broblem o safbwynt ataliol. Fel enghraifft o arfer gorau, roedd y Pwyllgor yn dymuno gofyn i Gyngor Cymuned Llanboidy a ellid anfon copi at y Pwyllgor a'r Swyddogion.
At hynny dywedodd y Rheolwr Gorfodi Materion Amgylcheddol ei fod, yn dilyn cytundeb gyda'r Heddlu, wedi cwblhau hyfforddi Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu drwy gydol y sir yn ddiweddar, a oedd yn eu galluogi i fod yn swyddogion gorfodi ar ran yr Awdurdod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch Gweithgareddau Gorfodi Materion Amgylcheddol.
Dogfennau ategol: