Agenda item

DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL ARWEINYDD Y CYNGOR 2018-19

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2018-2019, a oedd yn edrych yn ôl ar lwyddiannau'r Cyngor dros y 12 mis diwethaf. 

 

Hwn oedd pedwerydd Adroddiad Blynyddol yr Arweinydd ac roedd wedi bwrw golwg yn ôl ar yr hyn a ystyriai yn amser prysur iawn i bawb, gan y cynhawliwyd llawer o ddigwyddiadau a gwnaed cynnydd a newidiadau, yn enwedig o ystyried ansicrwydd Brexit a oedd wedi creu ansefydlogrwydd gwleidyddol ar lefel leol ac ar lefel genedlaethol. Er gwaethaf hyn mynegodd falchder bod yr arweinyddiaeth yn Sir Gaerfyrddin, rhwng Gr?p Plaid Cymru a'r Gr?p Annibynnol, yn gadarn ac yn benderfynol i wneud yr hyn sydd orau i gymunedau lleol. 

Atgoffwyd y Cyngor ganddo ei fod wedi cyhoeddi cynllun 5 mlynedd ar ddechrau'r weinyddiaeth bresennol, a oedd yn cynnwys bron 100 o brosiectau a rhaglenni allweddol a fyddai'n cyfrannu at wella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol y preswylwyr a'r cymunedau yn Sir Gaerfyrddin. Nododd yr Adroddiad Blynyddol y cynnydd a wnaed hyd yn hyn gan bob Adran yn y Cyngor. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau am rai o'r datblygiadau a'r prosiectau a oedd wedi'u cwblhau neu a oedd ar y gweill, a ddangosai fod Sir Gaerfyrddin yn arwain y ffordd, yn llawn uchelgais, er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i breswylwyr, cymunedau ac ymwelwyr. Roedd y rhain yn cynnwys:

 

Prosiect MakerSpace yn llyfrgelloedd Rhydaman; Apêl Teganau Nadolig;             Fforwm 50+; Gwobrau Diwylliant; Cefnogi busnesau bach newydd; Llysgenhadon Ieuenctid; Cymorth i Fentrau [Coaltown Coffee, Rhydaman]; Safle Buckley ar gyfer tai; Rhaglen cipluniau i ddisgyblion chweched dosbarth; Hyrwyddo busnesau gwledig; Rhentu tai; Tlodi Misglwyf; Cam Cyntaf; Gwobrau Chwaraeon;

 Cyflwynodd yr Arweinydd aelodau newydd y bwrdd gweithredol bach, sef 10 plentyn ysgol lleol, a fyddai'n cysgodi eu cymheiriaid h?n, a phwysleisiodd yr angen i sicrhau bod gan genedlaethau'r dyfodol gyfleoedd gwaith da, cymunedau cefnogol, a lleoedd gwych i'w mwynhau wrth iddynt ddod yn oedolion a magu eu teuluoedd eu hunain.

 

Cyfeiriwyd at lwyddiannau'r disgyblion o ran TGAU, y Fagloriaeth Genedlaethol a pherfformiad cyfnod allweddol 5 disgyblion 16-18 oed ac estynnodd yr Arweinydd ei ddiolch i'r holl Benaethiaid a staff yn ysgolion y sir am y gofal, arweiniad ac addysg yr oeddent yn eu darparu ar gyfer eu disgyblion. Yn ogystal, mynegodd ei falchder o weld cynnydd yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a'r dyhead i symud holl ysgolion y sir ymlaen yn y continwwm ieithyddol. Y gobaith oedd y byddai hyn yn galluogi cynifer o bobl ifanc â phosibl yn Sir Gaerfyrddin i fod yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt adael yr ysgol. Ychwanegodd fod cynnydd y Cyngor ar y rhaglen foderneiddio addysg yn destun balchder. Mae prosiectau gwerth £20m wedi'u cwblhau yn y 12 mis diwethaf. Mae'r buddsoddiad diweddaraf wedi cynnwys cyfleusterau a gwelliannau newydd yn St. John Lloyd, Ysgol Parc y Tywyn, Ysgol Pontyberem, a cham 1 o'r gwaith yn Ysgol Llangadog. Byddai buddsoddiad pellach o £4.1m dros y flwyddyn nesaf yn Ysgol Pump-hewl, a byddai prosiectau eraill yn dechrau'n fuan yn Ysgol Gors-las, Ysgol Pen-bre ac Ysgol Rhys Prichard.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd ar nifer o ddigwyddiadau uchel eu proffil a gynhaliwyd yn Sir Gaerfyrddin megis yr ?yl Cyfryngau Celtaidd, Llanelli, ac yn fwy diweddar, ras feicio Taith Prydain, a oedd wedi bod yn hysbysebion gwych ar gyfer y sir. Roedd Taith Prydain wedi bod yn hynod bwysig i gymunedau ac i'r economi leol, gan helpu i ddenu buddsoddwyr a thwristiaid newydd i Sir Gaerfyrddin. Rhoddodd ganmoliaeth i'r ffordd yr oedd cymunedau lleol wedi gweithio gyda'r Cyngor i sicrhau bod y digwyddiad yn llwyddiant, gan ychwanegu y byddai'r sir yn croesawu ras feicio Taith y Merched ym mis Mehefin.

Dywedodd fod y weinyddiaeth wedi bod yn glir o'r dechrau bod canolbwyntio ar waith adfywio'n allweddol i sicrhau ffyniant y sir.
O ganlyniad i waith y Cyngor, mae rhyw £16m o gyllid y sector preifat a'r sectorau allanol wedi'u rhoi i Sir Gaerfyrddin dros y flwyddyn ddiwethaf a chynigiwyd cymorth i greu 419 o swyddi. Roedd cydweithio â phartneriaid allweddol ar gynlluniau ar gyfer datblygiadau yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli yn parhau, a'r gobaith yw ymestyn y dyhead hwn dros y flwyddyn nesaf â'r nod o alluogi datblygiad economaidd a chymdeithasol yn y trefi gwledig.
Ychwanegodd fod y timau datblygu economaidd wedi bod yn mynd ati i ymgysylltu â busnesau, gan gynnig benthyciadau busnes a grantiau i alluogi twf a datblygiad. Roedd y cymorth ymarferol a gynigiwyd wedi cael eu croesawu gan y sector, gan wneud Sir Gaerfyrddin yn lleoliad deniadol i fuddsoddwyr posibl.
Cyfeiriwyd at raglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe, yr oedd yr Awdurdod yn awyddus i wneud cynnydd yn ei chylch ochr yn ochr â'i bartneriaid er mwyn cyflawni'r rhaglen uchelgeisiol o brosiectau a fyddai'n gwneud gwahaniaeth i genedlaethau'r dyfodol.
Yn ogystal, roedd gwaith wedi'i wneud ar hyd arfordir Sir Gaerfyrddin i baratoi at ddatblygiad Doc y Gogledd yn Llanelli, gwaith i gwblhau gorsaf RNLI newydd ym Mhorth Tywyn, a'r seiliau ar gyfer buddsoddiad £7m erbyn 2020 ym Mhentywyn. Roedd gwaith datblygu hefyd wedi parhau yn Cross Hands, ac mae nifer o fynegiannau o ddiddordeb wedi cael eu cyflwyno gan ddatblygwyr. Roedd y safle wedi'i gydnabod erbyn hyn fel canolbwynt busnes, gan fod cysylltiadau a seilwaith gwych yn yr ardal a oedd yn ddeniadol iawn i fuddsoddwyr.

I grynhoi, dywedodd yr Arweinydd ei fod yn edrych ymlaen at flwyddyn gyffrous arall a diolchodd i bawb a oedd yn rhan o lwyddiant yr Awdurdod.

 

Diolchodd Arweinydd y Gr?p Llafur i Arweinydd y Cyngor am ei adroddiad. Mynegodd ei longyfarchiadau i'r Cyngor ar yr hyn sydd wedi'i gyflawni a thalodd deyrnged i gyfraniad y partneriaid.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mair Stephens, ar ran y Gr?p Annibynnol, fod adroddiad yr Arweinydd yn cynnwys yr holl waith rhagorol sy'n cael ei gyflawni gan yr Awdurdod.

 

Ymddeoliad Mr Mark James CBE, Prif Weithredwr

Cyfeiriodd yr Arweinydd at ymddeoliad Mr Mark James CBE, Prif Weithredwr, a thalodd deyrnged i'r arweinyddiaeth, y weledigaeth a'r cymorth yr oedd Mr James wedi'u darparu dros yr 20 mlynedd diwethaf yn y swydd. Rhoddwyd albwm lluniau coffaol i Mr James a oedd yn cynnwys lluniau a dynnwyd dros ei gyfnod yn y swydd. Diolchodd Mr James i'r Arweinydd ac i'r Aelodau am eu hanrheg a soniodd ychydig am yr uchafbwyntiau a'r cyflawniadau nodedig yn ystod ei amser yn yr Awdurdod. Diolchodd hefyd i'r Aelodau a'r staff am eu holl gymorth a dymunodd bob llwyddiant i Wendy Walters, y Prif Weithredwr newydd.

 

Talwyd teyrnged i Mr James gan Arweinwyr y Gr?p Llafur, y Gr?p Annibynnol a'r Gr?p Annibynnol Newydd, ynghyd â nifer o Aelodau eraill.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Arweinydd fel y cafodd ei gylchredeg yn ystod y cyfarfod.

 

Dogfennau ategol: