Agenda item

STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2019/20 - 2021/22

Cofnodion:

(SYLWER: Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror, 2019 (gweler Cofnod 6), wedi ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2019/20 tan 2021/22 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion yn ei chylch, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ar ran y Bwrdd Gweithredol, pryd y bu'n manylu ar gefndir yr argymhellion ar gyfer y gyllideb oedd yn cael eu cyflwyno at ystyriaeth y Cyngor.

 

Bu i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ddweud bod yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf ar gynigion y gyllideb, yn rhoi argymhellion y Bwrdd Gweithredol i'r Cyngor, ac yn cyflwyno'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2019/20 i 2021/22. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi'r sefyllfa bresennol o ran setliad Llywodraeth Cymru gan gymryd i ystyriaeth y ffigurau terfynol, adborth ar y broses ymgynghori a diweddariadau ar dwf a dilysu data.

Dywedodd fod y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru, ar 19 Rhagfyr, wedi darparu cyllid ychwanegol o gymharu â'r setliad dros dro a gyhoeddwyd ym mis Hydref. Gan fod y ffigwr hwnnw ychydig yn well na'r disgwyl, roedd y Bwrdd Gweithredol wedi gallu ailedrych ar rai o'r cynigion gwreiddiol ar gyfer y gyllideb ac ystyried opsiynau pellach, yn cynnwys ystyried y cynnig cyflog diweddaraf a chefnogi gwasanaethau a arweinir gan y galw, yr oeddent yn dal i gael eu rhoi dan bwysau, er enghraifft Gofal Cymdeithasol. Fodd bynnag, tra'n cydnabod bod y setliad ychydig yn well, roedd yn dal i fod yn sefyllfa heriol iawn ac roedd yn cynrychioli gostyngiad go iawn. Yn ogystal, roedd Llywodraeth Cymru ond wedi gallu darparu ffigurau ar lefel yr Awdurdod am flwyddyn, gan gyfyngu ar rychwant y Cyngor o ran rhagweld ei gynllun Ariannol Tymor Canolig 3 blynedd. Roedd hynny'n arbennig o berthnasol o ran Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr San Steffan, a oedd i'w gynnal yn 2019.

Tynnodd sylw at rai o bwyntiau amlwg y setliad; roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn cynnwys y manylion llawn. Ar sail Cymru gyfan, roedd y cyllid ar gyfer Llywodraeth Leol wedi cynyddu 0.2%, ac roedd Sir Gaerfyrddin wedi cael setliad arian ar sail tebyg am debyg ar gyfer 2018-19, gan roi i'r awdurdod £1.557m yn ychwanegol ar y setliad dros dro. Fodd bynnag, roedd cyfrifoldebau ychwanegol ynghlwm wrth y cyllid ychwanegol hwnnw gan gynnwys newidiadau i'r cynllun rhyddhad ardrethi a chyllid ar gyfer cymhwysedd prydau ysgol am ddim ychwanegol.

Dywedodd tra bo mwyafrif y grantiau penodol wedi'u cynnal ar werth niwtral yn ariannol, fel oedd yn nodweddiadol ar yr adeg hon o'r flwyddyn, roeddid yn dal i aros am gadarnhad am rai grantiau arwyddocaol a fyddai'n cefnogi cynllun y gyllideb yn benodol, gyda golwg ar wastraff ac ar gyllid chweched dosbarth. Fodd bynnag, yr hyn nad oedd yn nodweddiadol oedd lefel yr ansicrwydd ynghylch ariannu pensiynau athrawon. Er mai'r arwyddion anffurfiol oedd y byddai'n cael ei gyflawni'n llawn, yn yr un modd ag y bwriadwyd yn Lloegr, roedd yr ansicrwydd yn peri risg arwyddocaol gyda golwg ar gyllideb 2019/20.  

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wedi gwneud rhai addasiadau i rai o'r ffigurau o fewn y strategaeth, fel y manylir yn yr adroddiad, fel sy'n arferol wrth i fwy o wybodaeth a gwybodaeth gliriach fod ar gael, gyda'r dilysiad cyfan presennol yn ychwanegu rhyw £11.3m i'r gyllideb. Roedd un o'r addasiadau hynny'n ymwneud â'r gyllideb Gofal Cymdeithasol i Oedolion a oedd yn deillio o gostau cynyddol i'r Cyngor ar ôl i Allied Healthcare, un o ddarparwyr gwasanaeth y Cyngor, ddymchwel yn ariannol a'r penderfyniad dilynol i ddod â'r gwasanaeth yn ôl yn un mewnol. Er bod hynny wedi digwydd gan amharu cyn lleied â phosibl ar y defnyddwyr gwasanaeth, byddai angen i gyllideb 2019/20 ddarparu ar gyfer cysoni telerau ac amodau'r gweithwyr, gan gynnwys graddfeydd cyflog.

Dywedodd mai'r dilysiad mwyaf arwyddocaol yn ymwneud â'r cynnig o godiad cyflog a wnaed gan y corff cyd-drafod ar gyfer cyflogwyr, a fyddai'n darparu codiad cyflog o 2% ynghyd â chyflwyno colofn gyflogau newydd o fis Ebrill 2019 a fyddai'n cysoni rhai o bwyntiau presennol y golofn gyflogau ac yn pontio rhai o'r bylchau digyswllt rhwng pwyntiau cyflog. O ganlyniad, byddai'r staff Cyngor sydd ar y tâl isaf, a oedd eisoes yn derbyn cyflog byw sylfaenol, yn cael codiad o 4.9%.  Fodd bynnag nid oedd y cynnig o godiad cyflog yn berthnasol i athrawon, yr oedd trefniadau cyflog cenedlaethol ar wahân ar waith ar eu cyfer, a oedd wedi arwain at gynnydd o hyd at 3.5% ym mis Medi 2018 a darpariaeth gyllidebol flynyddol o 2% ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd er bod cynigion y gyllideb, yr ymgynghorwyd yn eu cylch ym mis Tachwedd 2018, wedi tybio y byddai setliad arian niwtral i ysgolion, roedd y Bwrdd Gweithredol, o gofio bod angen cefnogi ysgolion lle bynnag y bo'n bosibl, gan ystyried yr effaith ar adrannau eraill, o ganlyniad i'r cymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r setliad, yn cynnig bod y Cyngor, nid yn unig yn ychwanegu £1.8 miliwn o gyllid grant i ysgolion, ond yn ychwanegu £0.75 miliwn arall o arian craidd, gan olygu bod y cyfanswm yn cynyddu i dros £2.57 miliwn.

Hefyd cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol at yr ymgynghori eang ynghylch y gyllideb a oedd wedi rhoi adborth sylweddol ar y cynigion gwreiddiol a roddwyd gerbron.

 

Dywedodd o ganlyniad i'r setliad mwy cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru, ac ar ôl caniatáu ar gyfer newidiadau dilysu, fod £528k ar gael i alluogi rhai addasiadau hanfodol i gael eu gwneud i strategaeth y gyllideb. Felly, roedd y Bwrdd Gweithredol yn argymell gwneud yr addasiadau canlynol i strategaeth y gyllideb a oedd yn ystyried y broses ymgynghori ac yn ymateb i'r adborth gan y cynigion nad oeddent yn cael cefnogaeth:-

·       cael gwared ar y gostyngiad o £32k yn y gyllideb a fwriadwyd ar gyfer Graeanu yn y Gaeaf. Bod y cynnig hwnnw wedi cael sgôr mynegai negyddol a gallai fod wedi effeithio ar ddiogelwch y preswylydd.

·       lleihau'r cynnig Ysgubo Ffyrdd Gwledig i £100k yn unig, gan ail-sefydlu £186k o'r gyllideb, a fyddai'n lliniaru'r effeithiau mwyaf difrifol.

·       gohirio am flwyddyn y toriadau arfaethedig i'r Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid a Seicoleg Addysg, gan gydnabod yr ymateb negyddol a gafwyd gan y cyhoedd a hefyd y pryderon a godwyd gan gynghorwyr yn ystod sesiynau seminarau'r aelodau.  

·       Darparu £160k yn ychwanegol at y gwasanaeth meysydd parcio gan gydnabod y cyfraniad mae'n ei wneud i'n heconomi leol ffyniannus, a fyddai'n rhoi mwy o hyblygrwydd i'r gwasanaeth gyfyngu ar unrhyw gynnydd yn y taliadau parcio ledled Sir Gaerfyrddin.

·       Bod yr Adran Cymunedau, dros y flwyddyn nesaf, yn ailedrych ar y cynnig i gau Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn ac yn ceisio dod o hyd i newid yn y modd y caiff y gwasanaeth ei ddarparu, a fyddai'n caniatáu i'r cyfleuster barhau i weithredu a hynny gan gyflawni'r lleihad mewn cost a gynigir.

·       Bod prisiau prydau ysgol yn cael eu rhewi ar gyfer 2019/20

Yn olaf, cyfeiriodd at y ffaith nad oedd y Bwrdd Gweithredol wedi ymateb i deimladau negyddol a gafwyd i'r gostyngiadau arfaethedig yn y gyllideb ar gyfer gosod wyneb newydd ar y ffyrdd. Dywedodd nad camsyniad oedd hynny, gan y byddai'r grant ychwanegol o £1.5 miliwn y flwyddyn am 3 blynedd, yr oedd y Cyngor wedi llwyddo i'w gael, yn mwy na gwneud iawn am y gostyngiad yn y gyllideb refeniw, gyda'r cynnydd sylweddol yn y gwariant wedi ei gynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf.

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y byddai mabwysiadu'r cynigion yn caniatáu i'r Cyngor gyflawni cyllideb deg a chytbwys a oedd yn ymateb i'r pryderon mawr oedd wedi codi o'r broses ymgynghori, ac a roddai adnoddau ychwanegol sylweddol i wasanaethau hanfodol. Pe cânt eu mabwysiadu, byddai'r cynigion yn arwain at gynnydd o 4.89% yn y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf a fyddai'n galluogi'r strategaeth o fewn yr adroddiad i gael ei chyflawni, ynghyd â'r newidiadau arfaethedig uchod a roddai Strategaeth gytbwys, gynaliadwy ac ymarferol ar gyfer y Gyllideb a oedd yn:

 

·       Ymateb i'r pryderon a godwyd wrth ymgynghori

·       Sicrhau, i'r graddau mwyaf posibl, fod lefelau a safonau'r gwasanaethau'n cael eu cynnal

·       Cydnabod bod pobl y sir yn ei chael hi'n anodd yn yr hinsawdd sydd ohoni, a, thrwy hynny, leihau cymaint â phosibl ar unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor

·       Paratoi'r Awdurdod, i'r graddau mwyaf posibl, am unrhyw ostyngiadau pellach mewn cyllid a allai ddigwydd yn y dyfodol.

 

Yna cynigiodd argymhellion y Bwrdd Gweithredol o ran Strategaeth Cyllideb 2019/20, y cynnydd o 4.89% yn y Dreth Gyngor a chymeradwyo'r cynllun ariannol tymor canolig fel sylfaen ar gyfer cynllunio ariannol yn y dyfodol. Eiliwyd y Cynnig.

 

Er i gynnig arall ar gyfer y gyllideb gael ei gyflwyno i'r Cyngor, cafodd ei dynnu'n ôl yn dilyn cyngor gan swyddog Adran 151 y Cyngor y byddai ei fabwysiadu'n golygu pennu cyllideb anghyfreithlon.

 

PENDERFYNWYD 

 

"cymeradwyo'r Strategaeth Cyllideb Refeniw am 2019/20, yn amodol ar y newidiadau canlynol:-

 

Ar gyfer 2019/20:

·       Cael gwared ar y gostyngiad o £32,000 yn y gyllideb mewn perthynas â Graeanu yn y Gaeaf;

·       Lleihau'r cynnig yn ymwneud ag Ysgubo Ffyrdd Gwledig £186,000, gan liniaru'r effeithiau mwyaf difrifol;

·       Gohirio'r toriadau arfaethedig i'r Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid a Seicoleg Addysg i gydnabod yr ymateb negyddol a gafwyd gan y cyhoedd a hefyd y pryderon a godwyd gan gynghorwyr yn ystod seminarau'r aelodau;

·       Rhoi swm ychwanegol o £160k i'r Gwasanaeth Meysydd Parcio i ganiatáu mwy o hyblygrwydd yn y gwasanaeth ac i gyfyngu ar unrhyw gynnydd mewn taliadau parcio ledled Sir Gaerfyrddin

·       Bod prisiau prydau ysgol yn cael eu rhewi ar gyfer 2019/20

 

Ar gyfer 2020/21 a 2021/22:-

·       Bod yr Adran Cymunedau, dros y flwyddyn nesaf, yn ailedrych ar y cynnig i gau Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn ac yn ceisio dod o hyd i newid yn y modd y caiff y gwasanaeth ei ddarparu, a fyddai'n caniatáu i'r cyfleuster barhau i weithredu a hynny gan gyflawni'r lleihad mewn cost a gynigir;

·       Bod yr arbedion effeithlonrwydd arfaethedig i newid amlder cyfarfodydd y Cyngor o fod yn rhai misol i fod yn rhai chwarterol [blwyddyn 2] a Chludiant Ysgol Ôl-16 [blynyddoedd 2 a 3] yn cael eu tynnu'n ôl

Bod y Dreth Gyngor Band D am 2019/20 i’w gosod ar £1,255.17 (cynnydd o 4.89% ar gyfer 2019/20]

Bod y cyllid rheolaidd o £528k sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio'n llawn i gefnogi'r diwygiadau a gynigir i gyllideb 2019/20 fel y manylir uchod

Bod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn cael ei gymeradwyo yn sylfaen i gynllunio ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod”.

 

Dogfennau ategol: