Agenda item

GWASANAETHAU CYMDEITHASOL A DEDDF (CYMRU) LLES 2014 - POLISI A DIWYGIADAU GWEITHDREFN I GODI TÂL AM WASANAETHAU I OEDOLION

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr adroddiad sy'n nodi'r polisi diwygiedig, gan gyfuno'r polisïau blaenorol a'r polisi interim a fabwysiadwyd yn 2016.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

1.        Bydd Sir Gaerfyrddin yn dal i godi tâl am leoliadau mewn cartref gofal ar wahân i'r lleoliadau hynny sydd wedi eu heithrio gan y Ddeddf.  Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi tâl am yr holl leoliadau mewn cartref gofal o ddiwrnod cyntaf y lleoliad.

2.        Bydd y tâl yn seiliedig ar adennill cost y lleoliad yn llawn, oni bai bod y preswylydd yn cael ei asesu'n ariannol yn unol â'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau, y côd a'r polisi lleol i dalu llai na'r gost lawn. Yn yr achos hwnnw codir y tâl asesedig ar y preswylydd yn unol â'i allu i dalu. 

3.       Bydd y gost fesul noson ar gyfer pob lleoliad tymor byr (gan gynnwys gofal seibiant) yn seiliedig ar adennill cost y lleoliad yn llawn. Yn achos lleoliadau mewn cartref gofal Awdurdod Lleol y tâl a godir fydd y tâl safonol. Yn achos lleoliadau mewn cartref gofal yn y sector annibynnol y tâl a godir fydd y swm dan gontract. Byddai defnyddwyr gwasanaeth yn talu hyd at y mwyafswm a bennir gan Lywodraeth Cymru yr wythnos, a byddai nifer fawr yn talu llawer llai neu'n derbyn y gwasanaeth am ddim, yn dibynnu ar yr asesiad ariannol. (£80 yw'r mwyafswm a bennwyd ar gyfer 2018-19)

4.        Bod y rheolau asesu lleoliadau dibreswyl yn cael eu rhoi ar waith mewn perthynas ag arosiadau yr aseswyd ar y dechrau nad ydynt yn fwy nag wyth wythnos ar unrhyw achlysur ac nad yw'n berthnasol i leoliadau dros dro na lleoliadau parhaol.

5.        Codir tâl am arhosiad tymor byr sy'n fwy nag wyth wythnos ar unrhyw achlysur fel petai'r preswylydd yno dros dro neu'n barhaol, fel sy'n briodol, o ddiwrnod cyntaf y 9fed wythnos ac yn unol â'r diffiniadau yn y Ddeddf, y Rheoliadau a'r Côd.

6.        Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi tâl o ddiwrnod cyntaf y gwasanaeth ar gyfer pob gwasanaeth y codir tâl amdano.Bydd hyn yn berthnasol i leoliadau a gwasanaethau dibreswyl mewn cartref gofal.

7.        Bod y dewis o lety a gynigir i ddefnyddiwr gwasanaeth yn seiliedig ar ddau gartref gofal o'r un math unrhyw le yn y Sir ac nad yw'n gyfyngedig yn ddaearyddol oni bai bod anghenion daearyddol penodol wedi eu cynnwys yn y cynllun gofal a chymorth.

8.        Os bydd defnyddiwr gwasanaeth, yr aseswyd na fydd yn talu cost lawn y lleoliad, yn dewis llety sy'n ddrutach na'r dewisiadau a gynigiwyd adeg y lleoliad bydd y gost ychwanegol yn cael ei chyfrifo o'r cyfraddau uchaf a godir gan y ddau gartref gofal a gynigiwyd.

9.        Os bydd defnyddiwr gwasanaeth yn gallu talu cost lawn eu lleoliad, yn unol â'r ddeddfwriaeth, gall ddewis unrhyw gartref gofal a bydd yn rhaid iddo dalu cost lawn eu lleoliad.

10.      Nad yw Sir Gaerfyrddin yn codi tâl ar ddefnyddiwr gwasanaeth am ofal a chymorth asesedig os darperir hynny i'r defnyddiwr gwasanaeth mewn lleoliad addysgol a thra bod yr unigolyn hwnnw'n mynychu cwrs addysgol cydnabyddedig.

11.      Bod y Ddeddf, y Rheoliadau a'r Côd newydd wedi cael eu rhoi ar waith mewn perthynas â defnyddwyr gwasanaeth presennol o 6 Ebrill 2016.

12.     Bod y polisïau presennol yn cael eu cadw ac eithrio ar gyfer yr elfennau hynny o'r polisïau a'r arferion sy'n cael eu newid yn sgil penderfyniadau sy'n deillio o'r adroddiad hwn a'r elfennau hynny nad ydynt bellach yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth newydd.

 

Dogfennau ategol: