Agenda item

STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2019/20 - 2021/22

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf ynghylch Cyllideb Refeniw 2019/2020 ac yn darparu'r ffigurau mynegiannol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2020/2021 a 2021/2022. Hefyd roedd yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb gan roi diweddariad ynghylch dilysu'r gyllideb, y gwasgfeydd o ran gwariant, setliad terfynol Llywodraeth Cymru, a'r ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb.

 

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau amlinelliad i'r Bwrdd o nifer o ffactorau sy'n dylanwadu ar y gyllideb, gan gynnwys y setliad terfynol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ar 19 Rhagfyr 2018 a oedd yn darparu cyllid ychwanegol o gymharu â'r setliad dros dro a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2018. O ganlyniad i'r cyllid ychwanegol hwnnw, bu'n bosibl ailedrych ar rai o gynigion cychwynnol y gyllideb ac ystyried opsiynau pellach gan gynnwys rhoi ystyriaeth i'r cynnig diweddaraf o godiad cyflog a chefnogi gwasanaethau oedd yn cael eu harwain gan y galw ac a wynebai bwysau parhaus am ddarparu gwasanaethau, megis Gofal Cymdeithasol. Er bod y setliad terfynol ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn ffigur ychydig yn well na'r setliad dros dro, roedd yn parhau i fod yn gyllideb heriol iawn ac yn gyfystyr â lleihad mewn cyllid mewn termau go iawn o ystyried chwyddiant a symudiadau eraill mewn prisiau. Ymhellach, ar gyfer blwyddyn yn unig yr oedd Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu ffigurau ar lefel Awdurdod, a oedd yn cyfyngu ar y gallu i ragweld yn y tymor canolig o fewn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig. Yn benodol, roedd rhaid i'r Awdurdod fod yn ymwybodol o Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant Llywodraeth San Steffan a oedd i'w gynnal yn 2019.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod manylion llawn y setliad wedi'u cynnwys yn yr adroddiad ond mai'r pwyntiau mwyaf trawiadol oedd bod cynnydd o 0.2% wedi bod yn y cyllid ar gyfer Llywodraeth Leol ar sail Cymru gyfan, gyda Sir Gaerfyrddin yn cael setliad arian gwastad ar sail tebyg am debyg o gymharu â 2018-19. Tra bod y setliad terfynol yn darparu £1.557m ychwanegol i'r Awdurdod o gymharu â'r setliad dros dro, roedd hefyd yn dod â chyfrifoldebau ychwanegol gan gynnwys newidiadau yn y cynllun rhyddhad ardrethi a chyllid i dalu am gymhwyster ychwanegol am brydau ysgol am ddim.

 

Cynghorwyd y Bwrdd Gweithredol hefyd, tra bod mwyafrif y grantiau penodol wedi'u cynnal ar werth niwtral yn ariannol, fod yr awdurdod, fel oedd yn nodweddiadol ar yr adeg hon o'r flwyddyn, yn dal i aros am gadarnhad am rai grantiau arwyddocaol a fyddai'n cefnogi cynllun y gyllideb yn benodol, gyda golwg ar wastraff ac ar gyllid chweched dosbarth. Yr hyn nad oedd yn nodweddiadol, fodd bynnag, oedd lefel yr ansicrwydd ynghylch cyllido pensiynau athrawon. Er mai'r arwyddion anffurfiol oedd y byddai'r cyllid yn cael ei gyflawni'n llawn, yn yr un modd ag y bwriadwyd yn Lloegr, roedd yr ansicrwydd ynghylch talu yng Nghymru yn peri risg arwyddocaol gyda golwg ar gyllideb 2019/20.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wedi gwneud nifer o addasiadau i rai o'r ffigurau o fewn y strategaeth fel sy'n arferol wrth i fwy o wybodaeth a gwybodaeth gliriach fod ar gael, gyda'r dilysiad cyfan presennol yn ychwanegu rhyw £11.3m i'r gyllideb. Roedd un o'r addasiadau hynny yn ymwneud â Gofal Cymdeithasol i Oedolion i ddiwallu'r costau cynyddol y byddai'r Cyngor yn eu hwynebu o ganlyniad i ddifodiant Allied Health Care a'r penderfyniad yn dilyn hynny i ddod â'r gwasanaeth yn fewnol. Er bod hynny wedi'i gwblhau gan amharu cyn lleied â phosibl ar y defnyddwyr gwasanaeth, byddai angen i gyllideb 2019/20 ddarparu ar gyfer cysoni telerau ac amodau'r gweithwyr, gan gynnwys graddfeydd cyflog.

 

Fel oedd yn wir yn 2018/19, roedd y dilysiad mwyaf arwyddocaol ar gyfer cyllideb 2019/20 yn ymwneud â'r cynnig o godiad cyflog a wnaed gan y corff cyd-drafod ar gyfer gweithwyr, a fyddai'n darparu codiad cyflog o 2% ynghyd â chyflwyno colofn gyflogau newydd o fis Ebrill 2019 a fyddai'n cysoni rhai o bwyntiau presennol y golofn gyflogau ac yn pontio rhai o'r bylchau digyswllt rhwng pwyntiau cyflog. Ar gyfer Sir Gaerfyrddin, byddai'r staff a oedd ar y cyflogau isaf, a oedd eisoes yn derbyn cyflog byw y Living Wage Foundation, yn derbyn cynnydd o 4.9%. Fodd bynnag, nodwyd nad oedd y cynnig cyflog yn berthnasol i athrawon, a oedd yn destun trefniadau cyflog cenedlaethol ar wahân gyda chynnydd o hyd at 3.5% o gymharu â mis Medi 2018 a chodiad blynyddol o 2% yn y blynyddoedd i ddod.

 

Tynnodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau sylw'r Bwrdd hefyd at gynigion cyllideb y Cyngor, fel ym mis Tachwedd 2018, a oedd yn rhagdybio setliad niwtral yn ariannol ar gyfer ysgolion. Dywedodd y byddai'r cynigion presennol, o ganlyniad i gymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a dderbyniwyd fel rhan o'r setliad, nid yn unig yn ychwanegu gwerth £1.8m o gyllid grant i ysgolion ond hefyd £0.75m pellach o gyllid craidd, a fyddai'n golygu bod cyfanswm y cynnydd yn y gyllideb dros £2.57m.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod y swm o £528k ar gael i wneud rhai addasiadau hollbwysig i strategaeth y gyllideb, yng ngoleuni'r ffaith fod yr Awdurdod wedi elwa ar gael setliad mwy cadarnhaol na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol ac ar ôl gwneud rhai newidiadau o ran dilysu. Yn unol â hynny, cynigiwyd gwneud y newidiadau canlynol i rai o gynigion yr adroddiad yn ymwneud â'r gyllideb ac arbedion effeithlonrwydd:-

 

·       Dileu'r lleihad yn y gyllideb o £32k ar gyfer graeanu yn ystod y gaeaf 

·       Bod £186k o'r gyllideb Ysgubo Ffyrdd Gwledig yn cael ei ailsefydlu i liniaru yn erbyn effeithiau mwyaf llym y lleihad arfaethedig

·       Gohirio'r toriadau arfaethedig i'r Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid a Seicoleg Addysg am flwyddyn i gydnabod yr ymateb negyddol a gafwyd gan y cyhoedd a hefyd y pryderon a godwyd gan gynghorwyr yn ystod sesiynau seminar yr aelodau;

·       Wrth gydnabod y pwysau a roddir ar y gwasanaeth meysydd parcio bod £160k ychwanegol yn cael ei ddarparu i ganiatáu mwy o hyblygrwydd yn y gwasanaeth ac i gyfyngu ar unrhyw gynnydd mewn taliadau parcio ledled Sir Gaerfyrddin;

·       Bod yr Adran Cymunedau, dros y flwyddyn nesaf, yn ailedrych ar y cynnig i gau Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn ac yn ceisio dod o hyd i newid yn y modd y caiff y gwasanaeth ei ddarparu, a fyddai'n caniatáu i'r cyfleuster barhau i weithredu a hynny gan gyflawni'r lleihad mewn cost a gynigir;

·       Bod prisiau prydau ysgol yn cael eu rhewi ar gyfer 2019/20

 

Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol hefyd at y teimladau negyddol a gafwyd i'r lleihad yn y gyllideb ar gyfer gosod wyneb newydd ar briffyrdd a dywedodd fod y grant ychwanegol o £1.5m y flwyddyn am dair blynedd a sicrhawyd gan y Cyngor, [fel y manylir yn y rhaglen gyfalaf bum mlynedd] yn mwy na gwneud iawn am y lleihad arfaethedig yn y gyllideb refeniw.

 

Wrth grynhoi, argymhellodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y cynnydd yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2019/20 yn cael ei bennu yn 4.89%, i alluogi'r Cyngor i weithredu'r strategaeth ond gan ystyried y newidiadau uchod ar yr un pryd.

 

Cyfeiriwyd at gynnig effeithlonrwydd blwyddyn 2 i newid amlder cyfarfodydd y Cyngor o fod yn rhai misol i fod yn rhai chwarterol. Gan nad oedd y cynnig wedi cael cefnogaeth gan yr aelodau'n gyffredinol, awgrymwyd ei fod yn cael ei dynnu'n ôl a bod llwybrau eraill yn cael eu harchwilio er mwyn dod o hyd i ffyrdd amgen o weithio.

 

Cyfeiriwyd hefyd at y cynnig effeithlonrwydd ar gyfer Cludiant Ysgol Ôl-16 lle awgrymwyd bod yr arbedion effeithlonrwydd arfaethedig ar gyfer blynyddoedd 2 a 3 yn cael eu tynnu'n ôl er mwyn gallu adolygu'r defnydd a wneir o'r gwasanaeth, yn enwedig gyda golwg ar seddi sbâr/segur honedig.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

6.1

bod Strategaeth y Gyllideb am 2019/20 yn cael ei chymeradwyo yn amodol ar y newidiadau a'r cynigion y manylwyd arnynt uchod;

6.2

Bod y Dreth Gyngor Band D am 2019/20 i’w gosod ar £1,255.17 (cynnydd o 4.89% ar gyfer 2019-2020);

6.3

Bod y dyraniad o £528k o gyllid cylchol a oedd ar gael yn cael ei ddyrannu, fel y manylir uchod

6.4

bod y cynllun ariannol tymor canolig amodol yn cael ei gymeradwyo yn sylfaen i gynllunio ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.

6.5

Bod y cynigion effeithlonrwydd i newid amlder cyfarfodydd y Cyngor o fod yn rhai misol i fod yn rhai chwarterol [blwyddyn 2] a Chludiant Ysgol Ôl-16 [blynyddoedd 2 a 3] yn cael eu tynnu'n ôl

 

Dogfennau ategol: