Cofnodion:
(NODER: Roedd y Cynghorydd H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach).
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a baratowyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar y cyd â swyddogion o'r Adran Cymunedau a oedd yn dod ynghyd â'r cynigion diweddaraf ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am 2019/20 i 2021/22. Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu – Cymunedau yn ei gyfarfod ar 23 Ionawr 2018, fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd yn rhan o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Nodwyd bod y buddsoddiad arfaethedig yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith wedi'i wneud), wedi darparu'r buddsoddiad i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, ac wedi parhau i fuddsoddi yn Ymrwymiad i Dai Fforddiadwy'r Cyngor.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod y buddsoddiad cyfalaf o £231m yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin, a bod cyllideb bellach wedi'i datblygu i sicrhau bod y cyllid priodol yn cael ei ddyrannu er mwyn cynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy yn achos yr holl eiddo wrth edrych tua'r dyfodol. Rhagwelid y byddai tua £45m yn cael ei wario yn cynnal a chadw'r stoc a'i huwchraddio dros y tair blynedd nesaf. Roedd y gyllideb hefyd yn darparu £44m o gyllid dros y tair blynedd nesaf i gefnogi Rhaglen Tai Fforddiadwy'r Cyngor, a fyddai'n hwyluso cynnydd yng nghyflenwad y tai fforddiadwy ar hyd a lled y Sir drwy wahanol atebion gan gynnwys y rhaglen adeiladu tai newydd a'r cynllun prynu'n ôl. Byddai'r Cyngor hefyd yn ymgymryd â'r rhaglen adeiladu tai newydd drwy gyfrwng ei raglen gyfalaf ei hun a thrwy'r Cwmni Tai newydd - Cartrefi Croeso.
O ran pennu Rhenti Tai, atgoffwyd y Bwrdd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod yr Awdurdod wedi mabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru o'r blaen, a olygai i bob pwrpas bod unrhyw gynnydd arfaethedig mewn rhent yn cael ei ragnodi gan ganllawiau Llywodraeth Cymru a bod hyn yn dosbarthu rhenti i denantiaid y sector cymdeithasol mewn modd tecach.
Daeth y polisi hwn i ben yn 2018/19 a chyflwynwyd polisi interim am flwyddyn ar gyfer 2019/20, gan ragweld y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno polisi newydd i'w weithredu yn 2020/21. Roedd y polisi interim hwnnw'n caniatáu i awdurdodau lleol o fewn eu band rhent targed gynyddu rhent yn ôl CPI yn unig. Gan fod Sir Gaerfyrddin ar y pryd o fewn y band rhent targed o ychydig, argymhelliad yr adroddiad cyfredol oedd cynnydd o 2.4% ar draws pob eiddo.
Fodd bynnag, ar 30 Ionawr 2019, roedd Llywodraeth Cymru wedi hysbysu awdurdodau lleol o ddiwygiad i'r polisi interim a oedd yn rhoi hyblygrwydd i awdurdodau lleol â rhent cyfartalog o fewn y Band Rhent Targed gynyddu rhent ‘hyd at £2 yr wythnos’, yn amodol ar sicrhau nad oedd y cynnydd cyfan mewn rhent ar gyfer eu hanghenion cyffredinol a'u stoc tai gwarchod yn fwy na 2.4% ac na fyddai unrhyw denant unigol yn derbyn cynnydd mewn rhent oedd yn fwy na'r codiad polisi y cytunwyd arno o 2.4% ynghyd â'r cynnydd o £2.00.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod y newid yn safbwynt Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfle i'r awdurdod gyflawni ei ymrwymiad blaenorol i denantiaid trwy weithredu'r polisi cysoni a sefydlu lefel decach o rent i'w holl denantiaid. O ganlyniad, cynigiwyd bod argymhelliad 1, o fewn yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Bwrdd Gweithredol y diwrnod hwnnw, yn cael ei newid i:-
“1. Cynyddu'r rhent tai cyfartalog yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Interim Llywodraeth Cymru (diwygiwyd ar 30 Ionawr).
a. Bydd cynnydd o 1.92% yn digwydd i renti eiddo sydd ar y rhenti targed.
b. Caiff y rhenti hynny sy'n uwch na'r targed eu rhewi hyd nes eu bod yn unol â'r rhent targed.
c. Gwneir cynnydd o 1.92% i'r rhenti hynny sydd yn is na'r rhent targed a chânt eu cynyddu £1 yr wythnos ar y mwyaf.
Bydd hyn yn cynhyrchu cynnydd o 2.4% neu £2.05 mewn rhent tai cyfartalog a bydd yn darparu'r un gwerth casglu cyffredinol i'r Cyfrif Tai.”
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, pe bai'r Bwrdd Gweithredol yn cymeradwyo'r argymhelliad diwygiedig, y byddai'n cael ei adrodd wrth y Pwyllgor Craffu - Cymunedau er mwyn ymgynghori yn ei gylch, gydag unrhyw ymateb yn hynny o beth yn cael ei adrodd yn uniongyrchol wrth y Cyngor ar 20 Chwefror.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-
8.1 |
bod y rhent tai cyfartalog yn cael ei gynyddu yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru (diwygiwyd 30 Ionawr) h.y.:- · Bod cynnydd o 1.92% yn cael ei wneud i renti eiddo sydd ar y targed · Bydd y rhenti hynny sy'n uwch na'r targed yn cael eu rhewi hyd nes eu bod yn unol â'r targed · Bod cynnydd o 1.92% yn cael ei wneud i'r rhenti hynny sydd yn is na'r rhent targed a'u bod yn cael eu cynyddu £1 yr wythnos ar y mwyaf gan felly gynhyrchu cynnydd o 2.4% neu £2.05 mewn rhent tai cyfartalog a bydd yn darparu'r un gwerth casglu rhent cyffredinol i'r Cyfrif Tai. |
8.2 |
Cadw rhent garejis yn £9.00 yr wythnos a sylfeini garejis yn £2.25 yr wythnos; |
8.3 |
Rhoi'r polisi ynghylch taliadau am wasanaethau ar waith er mwyn sicrhau bod y tenantiaid a oedd yn cael gwasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny; |
8.4 |
Cynyddu'r taliadau am ddefnyddio gwaith trin carthffosiaeth y Cyngor, yn unol â'r cynnydd mewn rhenti; |
8.5 |
Cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20 (cyllidebau dangosol yw rhai 2020/21 a 2021/22), fel y nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad. |
8.6 |
Bod y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig a'r cyllido perthnasol ar gyfer 2019/20, a'r gwariant mynegiannol a bennwyd ar gyfer y blynyddoedd i ddod o 2020/21 i 2021/22, fel y'u nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad, yn cael eu cymeradwyo. |
Dogfennau ategol: