Cofnodion:
(NODER:
1. Roedd y Cynghorydd H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach;
2. Gan iddynt yn gynharach ddatgan buddiannau yn yr eitem hon, gadawodd Mrs W. Walters (Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi) a Mr J. Morgan (Cyfarwyddwr Cymunedau) y cyfarfod tra oedd y Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr eitem.
Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol ei fod, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mehefin, wedi cytuno ar drefniadau ariannol ar gyfer Cartrefi Croeso Cyfyngedig er mwyn cynnal ei gostau o ran gweithredu a datblygu'r cynllun, ar y sail a nodwyd yn yr adroddiad. Yn dilyn yr adroddiad hwnnw, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn cynnig sicrhau cyfleuster cyllido cyfunol priodol er mwyn caniatáu i Cartrefi Croeso Cyfyngedig ddechrau datblygu dau gynllun a bodloni'r trefniadau cyllido parhaus o ran costau gweithredu a chostau datblygu cynlluniau yn y dyfodol, yn ogystal â darparu ychydig wrth gefn i ddechrau cynlluniau yn y dyfodol sy'n cael eu nodi'n gynlluniau hyfyw.
Cyfeiriwyd at y trefniadau dirprwyo y dylid eu gwneud ar gyfer y Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ac roedd cefnogaeth i'r farn y dylid newid paragraffau 5[d] a 5[f] yr adroddiad fel eu bod yn dweud y dylid dirprwyo gan ymgynghori â'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR BOD Y CYLLID CANLYNOL YN CAEL EI ROI I CARTREFI CROESO CYFYNGEDIG:-
11.1 |
Cyfleuster cyllido - uchafswm o £6m |
11.2 |
Hyd y trefniant - 5 mlynedd. Roedd hyn yn seiliedig ar ddefnyddio'r benthyciad ar gyfer datblygiadau'r cynllun a'i ad-dalu o fewn amserlenni'r cynllun busnes |
11.3 |
Llog o 1.6% yn uwch na'r gyfradd a bennwyd gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus gan adlewyrchu'r diogelwch rhannol a fydd ar gael i'r Cyngor o'r tir/gwaith cyn ei werthu |
11.4 |
Cyfleuster cyllido i'w weithredu fel trefniant gorddrafft - arian i'w ddefnyddio pan fo angen yn unig a bydd y balans yn gostwng wrth i arian ddod i law |
11.5 |
Mae cymeradwyo rhyddhau cyllid (hyd at y terfyn) i'w ddirprwyo i'r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, gan ymgynghori â'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, a bydd y cyfleuster i'w weinyddu fel a ganlyn:- a) Rhyddhau'r cyllid adeiladu dim ond ar ôl i'r tendrau gael eu dychwelyd, ar ôl cadarnhau ac asesu bod y cynllun yn dal i fod yn un hyfyw, ac ar ôl rhoi'r trefniadau contractiol ar waith, b) Rhoi Cytundeb Datblygu ar waith ar gyfer gwerthu'r tai cymdeithasol i'r Awdurdod; c) Costau Gweithredu: trefniadau benthyciad o oddeutu £280k y flwyddyn hyd nes y bydd y cwmni'n hyfyw heb yr elfen honno o gymorth; d) Costau Datblygu Prosiectau. Bydd yr uchafswm gwreiddiol a ddyrannwyd o £750k yn ddigon, ac at ddiben monitro a rheoli costau datblygu prosiectau bydd adroddiadau chwarterol manwl yn cael eu cyflwyno i'r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol gan ymgynghori â'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau; e) Adeiladu'r cynllun yn y dyfodol. Cymeradwyo cyllid mewn egwyddor [heb fod yn fwy nag uchafswm y cyfleuster] ar ôl cwblhau arfarniadau datblygu safle-benodol a rhyddhau cyllid adeiladu dim ond ar ôl i'r tendrau gael eu dychwelyd, ar ôl cadarnhau ac asesu bod y cynllun yn dal i fod yn un hyfyw, ac ar ôl rhoi'r trefniadau contractiol ar waith; f) Bydd yr elfennau terfynol ynghylch y cytundeb benthyciad manwl yn cael eu dirprwyo i'r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol gan ymgynghori â'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau. |
11.6 |
Mae'r Cwmni i gyflwyno ei gynllun busnes 3 blynedd i'r rhanddeiliad erbyn 31 Mawrth yn flynyddol er mwyn monitro cynnydd a hyfywedd y trefniadau cyllido. |
Dogfennau ategol: