Agenda item

PRAESEPT YR HEDDLU

Cofnodion:

Cyflwynodd y Comisiynydd ei adroddiad am braesept arfaethedig yr heddlu ar gyfer 2019/20 i'r Panel. Dywedwyd wrth y Panel y gallai wneud y penderfyniad naill ai i gymeradwyo, gwrthod, neu roi feto i'r praesept arfaethedig yn y cyfarfod, ac ar ôl hynny byddai'n rhaid iddo roi gwybod i'r Comisiynydd am ei benderfyniad. Gallai'r penderfyniad i gymeradwyo neu wrthod gael ei wneud gan fwyafrif syml ond roedd yn rhaid i bleidlais feto gael ei gwneud gan fwyafrif o ddwy ran o dair o aelodaeth y Panel cyfan. Byddai hyn yn golygu y byddai'n rhaid i bob un o'r deg aelod o'r panel oedd yn bresennol yn y cyfarfod gefnogi'r feto. Dywedwyd pe bai'r Panel yn dewis rhoi feto ni fyddai'r Comisiynydd yn gallu cyflwyno'r praesept arfaethedig a byddai'n rhaid iddo gyhoeddi ymateb i adroddiad y Panel, gan nodi praesept arfaethedig arall, erbyn 15fed Chwefror 2019. Ni fyddai'r Panel yn gallu rhoi feto i'r praesept arfaethedig diwygiedig, dim ond penderfynu ei gymeradwyo neu ei wrthod.

 

Dywedodd y Comisiynydd fod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn tybio gostyngiad o £7.9m yn y grant canolog ond yn y pen draw yn dibynnu ar ffigur hollbwysig a oedd yn anhysbys, gan y byddai fformiwla cyllido newydd yn dod i rym yn 2021/22. Pwysleisiodd fod Heddlu Dyfed-Powys wedi colli £14m (22%) mewn cyllid craidd ers yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant yn 2010 ac mai gan Heddlu Dyfed-Powys oedd y lefelau praesept isaf yng Nghymru. Dywedodd fod penderfyniad blaenorol i ostwng y praesept 5% ac yna rhewi'r praesept wedi arwain at ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn, a oedd wedi wynebu pwysau ychwanegol sylweddol yn ddiweddar gan setliad cyflogau'r Swyddfa Gartref a'r costau oedd ynghlwm wrth ymchwilio i dân Llangamarch.

 

Dywedodd y Comisiynydd ei fod wedi ymgynghori â'r cyhoedd ac wedi trafod yn fanwl gynlluniau'r Prif Gwnstabl ar gyfer lefelau staffio, gwasanaethau'r heddlu ac anghenion buddsoddi yn y dyfodol wrth gytuno ar gyllideb yr Heddlu ar gyfer 2019/20. Dywedodd fod elfennau craidd y gyllideb wedi arwain ato'n argymell praesept yr heddlu o £55.247m, gydag eiddo'r dreth gyngor Band D arferol yn talu £248.56, lefel 10.7% yn uwch na lefel 2018/19. Pe cai ei dderbyn gan y Panel, byddai'n arwain at gyfanswm cyllideb o £106.897m o'i gyfuno â chyllid canolog a chyllid lleol.

 

Yn dilyn datganiad y Comisiynydd, cafwyd cyflwyniad gan arweinydd ariannol y Panel ynghylch sut oedd y Panel wedi Craffu ar adroddiad Praesept yr Heddlu 2019/20.

 

Roedd y canlynol ymhlith y cwestiynau/materion a godwyd ynghylch adroddiad y Comisiynydd:

 

-        Dywedwyd bod cynnig y Comisiynydd yn argymell cynnydd mawr iawn yn y praesept,  y byddai'n rhaid i nifer go fechan o'r talwyr praesept dalu amdano. Gallai'r cyflogau cymharol isel a'r gweithgarwch economaidd isel yn ardal Dyfed-Powys ei gwneud yn anodd i rai unigolion godi'r incwm ychwanegol hwn.

-        Gwnaed sylw bod y defnydd o Fand D fel band sampl yn gamarweiniol gan fod y band cyfartalog ar gyfer eiddo ym Mhowys yn uwch a byddai'n rhaid i rai pobl dalu £56 y flwyddyn yn ychwanegol.

-        Mewn ymateb i ymholiad ynghylch effeithiau posibl cyfradd praesept is, dywedodd y Comisiynydd y gallai hyn arwain at rewi recriwtio staff, gostyngiad yn nifer yr Heddweision a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, ac adolygiad o'r rhaglen buddsoddi cyfalaf mewn gorsafoedd heddlu.

-        Gwnaed nifer o sylwadau yn cynnig bod y cynnydd yn y praesept yn dderbyniol er mwyn cynnal gwasanaethau heddlu da a diogelwch yn ardal Dyfed-Powys, yn enwedig o ystyried y pwysau diweddar ar gronfeydd wrth gefn.

 

PENDERFYNWYD 

8.1.    Cymeradwyo cynnig y Comisiynydd i gynyddu praesept Heddlu Dyfed-Powys 10.7% am 2019/20;

8.2.    Anfon nodyn i'r wasg yn esbonio'r rheswm dros benderfyniad y Panel.

 

Dogfennau ategol: