Agenda item

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG ADRODDIAD CYNNYDD HYD AT RHAGFYR 2018.

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorwyr G. Jones ac E. Schiavone wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Moderneiddio Addysg ym mis Rhagfyr 2018.

 

Rhoddodd y Pennaeth Mynediad i Addysg drosolwg ar lafar o'r adroddiad a thynnodd sylw'r Aelodau at brosiectau ym Mand A sydd ar fin cael eu cwblhau a phrosiectau Band B a fydd yn dechrau ym mis Ebrill 2019. Mae Llywodraeth Cymru wedi ailystyried y cyfraddau ymyrryd grant ar gyfer Band B yn ddiweddar ac wedi cynyddu cyfradd y grant ar gyfer prosiectau cyfalaf mewn ysgolion prif ffrwd i 65% a 75% ar gyfer Ysgolion Arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion.

 

Mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch hen safle Ysgol Tregib, Llandeilo, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg fod adroddiad ar y safle wedi cael ei ystyried yn anffurfiol gan y Bwrdd Gweithredol cyn cyflwyno'r mater i'r Bwrdd Gweithredol yn ffurfiol yn ddiweddarach. Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol hefyd at yr oedi o ran y rhaglen yn Ysgol Gymraeg Rhydaman, gan nodi bod y broses o brynu darn ychwanegol o dir ar gyfer safle newydd wedi achosi oedi, ond bod cytundeb mewn egwyddor i brynu tir ychwanegol wedi cael ei dderbyn.

 

Cododd yr Aelodau bryderon ynghylch y diffyg gwybodaeth am y cynnig i ffedereiddio ysgolion a chau ysgolion. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y portffolio ysgolion cynradd wedi bod yn cael ei adolygu ers mis Medi, a bod trafodaethau yn dechrau ynghylch creu ffederasiynau newydd. Roedd y trafodaethau yn canolbwyntio ar nifer y disgyblion a lleoliadau a maint yr uned a fydd yn cael ei chreu; mae'n well bod gan y ffederasiwn dros 100 o ddisgyblion. Cydnabuwyd bod angen sgiliau arwain penodol ar y swyddogion sy'n rhan o'r broses o ffedereiddio a bod hyfforddiant perthnasol yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a fyddai penaethiaid yn agored i'r syniad o ffedereiddio ysgolion, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg nad yw'r Awdurdod Lleol yn gallu cynnal yr 'ôl troed' presennol a bod cynllun clir ar waith i gryfhau'r gwasanaeth presennol. Pwysleisiodd nad oedd unrhyw fwriad i ddileu darpariaeth leol; fodd bynnag, roedd angen bod yn glir o ran darparu'r gwasanaeth gorau posibl gyda'r cyllid sydd ar gael, a all olygu ffedereiddio ysgolion llai.

 

Rhannodd y Pwyllgor enghreifftiau o gymunedau'n defnyddio cyfleusterau ysgolion lleol a chytunwyd bod angen gwneud rhagor o waith er mwyn creu model a fyddai'n galluogi cymunedau lleol i ddefnyddio'r asedau hyn. Nododd yr Aelodau fod cyfrifoldeb am ddifrod, goruchwyliaeth, yswiriant a gwaith cynnal a chadw ymysg y materion sy'n creu rhwystrau o ran rhannu cyfleusterau ysgol. Dywedodd y Pennaeth Mynediad i Addysg fod y Corff Llywodraethu yn gyfrifol am gyfleusterau'r ysgol ac y byddai unrhyw gytundeb rhyngddynt hwy a'r sefydliad sy'n cymryd cyfrifoldeb am y cyfleusterau y tu allan i oriau ysgol. Yn ogystal, dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oedd unrhyw enghreifftiau hysbys o arfer gorau mewn Awdurdodau Lleol eraill neu unrhyw bwerau i orfodi ysgolion i ymrwymo i gytundeb i rannu cyfleusterau. Yn gyffredinol, roedd Cyrff Llywodraethu yn rhagweithiol iawn o ran eisiau rhannu cyfleusterau â'u cymunedau.

 

Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch cynnal a chadw caeau Astrotyrff 3D yn y tymor hir, sef enghraifft o rannu asedau rhwng ysgolion a chymunedau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod strategaeth gorfforaethol ynghylch y mater hwn yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Bernid na ddylai ysgolion unigol fod yn gyfrifol am dalu costau cynnal a chadw o'r fath, ond dylid rhannu'r costau rhwng ysgolion a'r Awdurdod Lleol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad cynnydd ynghylch Rhaglen Moderneiddio Addysg, mis Rhagfyr 2018.

 

Dogfennau ategol: