Agenda item

Y RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD - 2016/17 - 2020/21

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y rhaglen gyfalaf bum mlynedd roedd y Bwrdd Gweithredol wedi'i chymeradwyo ar 4ydd Ionawr ar gyfer ymgynghori yn ei chylch.  Dywedwyd bod amseriad y setliad dros dro wedi golygu mai dim ond y Pwyllgor Craffu yr ymgynghorir ag ef. Fodd bynnag roedd bwriad hefyd i gyflwyno'r rhaglen mewn seminar i'r aelodau. Roedd y rhaglen gyfan yn fwy na £221m o fuddsoddiad cyfalaf, ac roedd cysylltiad pendant rhyngddi ac adfywio a chreu swyddi yn y sir. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau ei fod yn awyddus i glywed beth oedd barn y Pwyllgor.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd a oedd bwriad i ysgol newydd Gorllewin Caerfyrddin gael ei chwblhau yn ystod cyfnod 5 mlynedd y rhaglen, a hefyd ai'r "dreth toeon" o'r datblygiad tai oedd y cyllid allanol. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod cwblhau'r ysgol yn dibynnu ar amseriad codi'r datblygiad tai, ond bod y model cyllido yn cynnwys yr ysgol ym Mand A llinell amser rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Byddai cyfran gyntaf y dreth toeon yn cyllido'r anghenion o ran y seilwaith, ond wedyn byddai'r cyllid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr ysgol.

 

Cyfeiriwyd at adroddiadau diweddar yn y wasg ynghylch defnyddio £20m ychwanegol o arian wrth gefn neilltuedig er mwyn cefnogi rhaglen gyfalaf newydd, a gofynnwyd am eglurhad ynghylch safbwynt Llywodraeth Cymru yng ngoleuni hyn.  Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod yr arian wrth gefn oedd wedi ei neilltuo ar gyfer y rhaglen gyfalaf wedi ei roi o'r neilltu ers nifer o flynyddoedd. Eglurodd fod adolygiad o'r holl arian wrth gefn neilltuedig wedi ei gynnal, fel oedd wedi digwydd yn ystod blynyddoedd blaenorol, a bod modd bellach i ryddhau rhywfaint, megis yr arian wrth gefn ar gyfer gwerthuso swyddi a statws unffurf. Dywedwyd y gallai'r Gweinidog yn Llywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth ar ôl etholiadau'r Cynulliad a fyddai'n golygu y byddai'n rhaid cael ei gymeradwyaeth ef cyn y gellid defnyddio arian wrth gefn. Fodd bynnag, byddai gan y Cyngor hwn raglen gyfalaf tymor hir a fyddai'n gysylltiedig ag adfywio a chreu swyddi, a byddai'n gallu dangos bod yr arian wrth gefn yn cael ei ddefnyddio mewn modd darbodus a chynlluniedig.

 

Gofynnwyd a oedd y £2m a neilltuid bob blwyddyn ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl yn ddigonol i ddiwallu'r galw. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod y rhaglen gyffredinol yn cael ei datblygu gyda chyfraniad yr adrannau. Roedd y data ynghylch y galw hanesyddol yn dangos fod £2m yn ddigonol ond byddai'r sefyllfa'n cael ei monitro.

 

Gofynnwyd a oedd y gyllideb o £300k ar gyfer erydiad y glannau yn ddigonol o ystyried y digwyddiadau diweddar o ran hinsawdd a llifogydd.  Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod y ceisiadau o'r adrannau'n cael eu hasesu gan y Gr?p Llywio Asedau Strategol oedd hefyd yn monitro'r rhaglen a byddai'n ymateb i unrhyw newidiadau yn y galw.

 

Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch Cysyniad Coridor Trafnidiaeth Dyffryn Tywi. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol mai llwybr beicio arfaethedig oedd hwn o Gaerfyrddin i Landeilo a gynlluniwyd dros nifer o flynyddoedd gan ddefnyddio Grant Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru.    Ychwanegodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol, Adfywio a Pholisi, fod cysylltiadau enfawr rhwng y prosiect a thwristiaeth ac yr ymchwilir i ffynonellau cyllid allanol eraill. 

 

Gofynnwyd pam nad oedd prosiect Ffordd Ddosbarthu Dyffryn Aman - Cam 2 wedi cael ei ystyried yn flaenoriaeth yn y rhaglen gyfalaf ddrafft o ystyried y cysylltiadau ag adfywio yn yr ardal, yn enwedig yng ngoleuni rhai o'r prosiectau oedd wedi'u cynnwys yn y rhaglen. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod prosiectau oedd â chyllid allanol yn cael blaenoriaeth. Roedd y prosiect Cam 2 yn gysylltiedig â Grant Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Leol ac yn dibynnu ar bryd y byddai hwnnw ar gael. Ychwanegodd fod prosiect Stryd y Gwynt/Cyffordd Tir y Dail yn Rhydaman wedi'i gynnwys a'i gyllido'n llawn. Nododd y Prif Weithredwr nad oedd Cam 2 yn uchel ar restr blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a bod y Bwrdd Gweithredol yn parhau i lobïo Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru er mwyn ei roi'n uwch ar y rhestr a darparu'r cyllid. Cynigiwyd ac eiliwyd cynnig i ofyn i'r Bwrdd Gweithredol ailystyried cynnwys Ffordd Ddosbarthu Dyffryn Aman - Cam 2 yn y rhaglen gyfalaf newydd. Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant ar gyfer ychwanegu cais i'r Bwrdd Gweithredol barhau i lobïo Llywodraeth Cymru am gyllid ar gyfer y prosiect Cam 2.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

7.1       Cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd 2016/17 – 2020/21 yn amodol ar 7.2.

 

7.2       Gofyn i'r Bwrdd Gweithredol ailystyried cynnwys Ffordd Ddosbarthu Dyffryn Aman - Cam 2 yn y rhaglen gyfalaf newydd a pharhau i lobïo Llywodraeth Cymru am gyllid o'r Grant Trafnidiaeth Leol ar gyfer y prosiect.

 

Dogfennau ategol: