Agenda item

CRONFA LIFOGYDD BUSNESAU SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal y prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r bobl a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol geisiadau am gymorth o Gronfa Lifogydd Busnesau Sir Gaerfyrddin.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Lifogydd Busnesau Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:-

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

Siop Iago, Castellnewydd Emlyn                                            £1850.00

Arwerthwyr Peter Francis, Caerfyrddin                                 £844.00

Steve Jones Car Sales, Caerfyrddin                                      £4,999.00

GMJ Body Repairs, Caerfyrddin                                            £1544.45

 

Dogfennau ategol: