Cofnodion:
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law am Drwydded Safle ar gyfer Kubus, 29 Heol yr Orsaf, Llanelli, SA15 1AW i ganiatáu'r canlynol:
· Cyflenwi Alcohol:- Dydd Llun i ddydd Sul 09:00 – 21:00;
· Oriau Agor dydd Llun hyd at ddydd Sul 09:00-21:00.
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:
· Atodiad A – Copi o'r cais
· Atodiad B – Sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys
· Atodiad C – Sylwadau a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu
Nid oedd yr Awdurdodau Cyfrifol eraill wedi gwneud unrhyw sylwadau mewn perthynas â'r cais.
Yn ogystal â'r uchod, cafodd yr Is-bwyllgor, yn dilyn cytundeb yr holl bartïon oedd yn bresennol, y dogfennau ychwanegol canlynol:
Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i'r dogfennau a gyflwynwyd, a'r holl sylwadau ysgrifenedig perthnasol a gafwyd cyn y gwrandawiad gan y partïon.
Cyfeiriodd Cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau ysgrifenedig, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad C i'r adroddiad a chyfeiriodd at y sylw ysgrifenedig a oedd wedi'i gynnwys ym mwndel yr agenda.
Eglurodd Cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu fod:
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.
Cyfeiriodd Mr Price, cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys, at ei sylwadau ysgrifenedig a'i ddatganiad o dystiolaeth, a dywedodd:
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon a oedd yn bresennol holi cynrychiolydd yr Heddlu ynghylch ei sylwadau.
Mewn ymateb i ymholiad, rhoddodd Mr Price ragor o wybodaeth mewn perthynas â throseddau yn nhref Llanelli a Heol yr Orsaf:
17/18 – 3,299 gyda 244 wedi'u cofnodi yn Heol yr Orsaf
16/17 – 2,523 gyda 142 wedi'u cofnodi yn Heol yr Orsaf
15/16 – 2484 gyda 162 wedi'u cofnodi yn Heol yr Orsaf
Yn ogystal, oherwydd natur rhannau o Heol yr Orsaf, golygai hynny fod presenoldeb amlwg gan yr heddlu'n ofynnol. Tra bo Heol yr Orsaf yr un peth ag ardaloedd eraill yn y sir, roedd lefel gyson o droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig ag alcohol.
Dywedodd Mr Price fod 51% o'r holl droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig ag alcohol yn digwydd rhwng 10pm a 6am a 49% rhwng 6am a 10pm.
Wedyn roedd Mr Lewis wedi annerch yr Is-bwyllgor ar ran yr ymgeisydd (presennol) ac wedi rhoi gwybod:
Bod yr ymgeisydd yn ddyn teulu a oedd wedi bod yn rhedeg y siop am 5 mlynedd. Hefyd mae ganddo drwydded bersonol ac mae wedi rhedeg siop drwyddedig yn y gorffennol.
Mae'r siop yn gwerthu bwyd a llawer o gynnyrch unigryw ac anarferol, ond rhai Pwylaidd ac Ewropeaidd yn bennaf. Mae'r siop ar agor rhwng 9:00am a 9:00pm a theuluoedd yn bennaf yw ei chwsmeriaid. Yn ogystal, teimlai y byddai cyflenwi'r cynhyrchion arbenigol hyn yn helpu i integreiddio'r gymuned Bwylaidd.
Mae'r gymuned Bwylaidd yn mwynhau partïon teuluol ac felly fe hoffai'r ymgeisydd fod mewn sefyllfa lle gall gyflenwi diodydd alcoholig arbenigol Pwylaidd i'w gwsmeriaid. Fodd bynnag, mae'r ymgeisydd yn ystyried taw rhywbeth ychwanegol i'w fusnes bwyd yw diodydd alcoholig, ac nid oedd am fod yn siop drwyddedig gyffredinol.
Roedd system teledu cylch cyfyng berthnasol wedi cael ei harchebu a rhoddwyd sicrwydd y byddai alcohol yn cael ei reoli'n dda gan y staff.
Roedd y safle wedi'i thrwyddedu'n flaenorol fel tafarn/clwb nos
Ym mhrofiad yr ymgeisydd, roedd diwylliant yfed cymdeithasol wedi newid ac roedd pobl yn yfed gartref yn bennaf erbyn hyn. Nid yw'n credu y byddai ei gwsmeriaid ef, sy'n bobl teulu, yn achosi problemau.
Roedd un siop Bwylaidd arall a oedd yn gwerthu nwyddau Pwylaidd (gan gynnwys alcohol) yn Heol yr Orsaf.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon a oedd yn bresennol holi'r ymgeisydd a Mr Lewis ynghylch eu sylwadau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref
PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, y dylid gwrthod y cais.
RHESYMAU
Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;
Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar sylwadau'r awdurdodau cyfrifol a heb dderbyn unrhyw dystiolaeth a awgrymai fod y sylwadau hynny'n anghywir neu heb gyfiawnhad.
Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt.
Yn yr achos hwn, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod tystiolaeth go iawn i gefnogi pryderon yr heddlu ynghylch effaith caniatáu'r cais hwn.
Nododd yr Is-bwyllgor delerau'r Polisi Effaith Gronnol ac yn benodol ei fod;
Nid oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno unrhyw dystiolaeth a fyddai, ym marn yr Is-bwyllgor, yn gyfystyr ag 'amgylchiadau eithriadol' fyddai'n cyfiawnhau gwyro oddi wrth y polisi uchod.
Gan hynny, o gofio bod nifer sylweddol o achosion o droseddau ac anhrefn cysylltiedig ag alcohol yn Heol yr Orsaf, Llanelli o hyd, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon ei bod yn briodol gwrthod y cais hwn er mwyn hyrwyddo'r amcan trwyddedu o atal troseddau ac anhrefn. Yn ogystal, roedd y penderfyniad hwn yn ymateb cymesur i'r troseddau ac anhrefn cysylltiedig ag alcohol sy'n dal i ddigwydd yn yr ardal honno.
Dogfennau ategol: