Agenda item

STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW – 2016/17 I 2018/19

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2016/17 - 2018/19 (Atodiad A) a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 16eg  Tachwedd 2015. Rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r setliad dros dro ar 9fed Rhagfyr ac y byddai cyllideb Sir Gaerfyrddin 1% yn llai yn hytrach na 3.3% yn llai sef y ganran yr oedd y Strategaeth wedi ei seilio arni.  Roedd hyn yn cyfateb i £7.5m ychwanegol ar gyfer cyllideb 2016/17 ond hefyd roedd yn cynnwys y Grant Cytundeb Canlyniadau. Roedd Llywodraeth Cymru wedi ariannu £35m i ddiogelu addysg a £21m i ddiogelu gofal cymdeithasol ledled Cymru a oedd yn cyfateb i £2.1m ac £1.3m, yn y drefn honno, ar gyfer Sir Gaerfyrddin.  Roedd hi'n aneglur o hyd i ba raddau y byddai cyllidebau'r ysgolion yn cael eu diogelu. Roedd un ar ddeg o grantiau heb eu cadarnhau hyd yn hyn, fodd bynnag roedd y lleihad o ran y Grant Gwastraff (y Grant Amgylchedd Sengl bellach), sef 6%, yn llawer llai na'r 25-50% yr oedd y Gweinidog wedi'i grybwyll yn flaenorol. I grynhoi, ni fyddai bellach angen rhoi sylw i'r diffyg yn yr arbedion effeithlonrwydd oedd wedi'u clustnodi ar gyfer 2016/17, ond roedd rhaid gwireddu'r £13.6m o arbedion oedd wedi eu clustnodi.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mynegwyd pryder ynghylch amseriad cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch y setliad terfynol ar ddechrau mis Mawrth gan fod angen pennu lefel y Dreth Gyngor erbyn 11eg Mawrth. Gofynnwyd beth fyddai effaith bosibl unrhyw amrywiannau yn y setliad terfynol. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ei bod yn anodd ateb y cwestiwn hwn. Roedd y cynllun ar waith ar gyfer ymateb i fân addasiadau ac roedd swyddogion Llywodraeth Cymru wedi rhoi ar ddeall yn flaenorol nad oeddynt yn rhagweld rhyw lawer o newidiadau. Byddai'r sefyllfa'n gliriach ar ddechrau mis Chwefror ar ôl i'r cyfnod ymgynghori orffen ar 20fed Ionawr. Roedd yr amserlenni cyffredinol a hwyrder y cyhoeddiadau'n gysylltiedig â'r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant yn San Steffan.

 

Mynegwyd siom nad oedd eglurder ynghylch diogelu addysg. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol mai ein Strategaeth ni oedd trosglwyddo'r £2.1m i'r ysgolion, a fyddai'n lleihau'r arbedion effeithlonrwydd yr oedd disgwyl iddynt hwy gyflawni yn 2016/17 i £3.4m. Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn cynrychioli Llywodraeth Leol mewn trafodaethau â Llywodraeth Cymru ynghylch diogelu addysg. Yn ôl fel y deallai ef roedd yr holl awdurdodau lleol yn bwriadu trosglwyddo eu cyfran o'r £35m i'r ysgolion. Hefyd roedd trafodaeth ar waith ynghylch y posibilrwydd o gynnwys y £90m o grantiau addysg penodol yn y Grant Cynnal Refeniw, a fyddai'n golygu bod Sir Gaerfyrddin yn cael £5.4m yn rhagor. Ychwanegodd fod 4 awdurdod gwledig wedi cael y toriadau mwyaf yn y setliad dros dro, a bod Llywodraeth Cymru yn cynnig grant amddifadedd gwledig o £5m i'w cynorthwyo.

 

Nodwyd bod meincnodi'r gwasanaethau cymorth ledled Cymru wedi cael sylw yn y seminarau i'r aelodau ynghylch y gyllideb. Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch hyn. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod y Gr?p Trysoryddion Rhanbarthol, a oedd yn cwmpasu 6 awdurdod lleol, yn rhoi sylw i adroddiad KPMG a oedd wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru er mwyn ystyried y rhesymau dros unrhyw amrywiannau. Fodd bynnag ni fyddai hyn yn cael ei gwblhau am sawl mis.

 

Cyfeiriwyd at y Crynhoad Taliadau, a gofynnwyd pam nad oedd rhai ffioedd wedi cynyddu. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol, Adfywio a Pholisi, fod y ffioedd yn gyffredinol yn cael eu cynyddu ar sail chwyddiant; fodd bynnag roedd rhai o'r ffioedd yn ei maes gorchwyl hi yn rhai statudol, tra roedd rhai'n seiliedig ar y farchnad. Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol mai'r polisi cyffredinol oedd y dylid cynyddu ffioedd o leiaf yn unol â chwyddiant os nad oedd cyfiawnhad dros beidio â gwneud, er enghraifft roedd lefel chwyddiant mor fach weithiau fel y byddai'r gost weinyddol o weithredu'r cynnydd yn fwy na'r budd a geid o wneud hynny.

 

Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch y tâl newydd am anfonebu cyrff allanol ynghylch gordaliadau gan y gyflogres. Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Ariannol y codir tâl ar gyrff oedd heb roi gwybod i'r gyflogres am drosglwyddiadau neu derfyniadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

6.1    Derbyn yr adroddiad.

 

6.2    Cymeradwyo'r Crynhoad Taliadau

 

Dogfennau ategol: