Agenda item

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM YR ARDALOEDD RHEOLI ANSAWDD AER PRESENNOL YN SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer presennol yn Sir Gaerfyrddin.  Atgoffwyd yr Aelodau fod Deddf yr Amgylchedd 1995 yn datgan bod dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu a rheoli'r ansawdd aer yn eu hardal.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth fanwl i'r Pwyllgor am lefelau NO2 yn enwedig yn nhref Llandeilo ac ardaloedd Caerfyrddin a Llanelli yn ystod 2016, 2017 a 2018.

 

Atodwyd Cynllun Gweithredu ar gyfer Rheoli Ansawdd Aer pob ardal i'r adroddiad a oedd yn nodi mesurau penodol i'w hystyried er mwyn gwella'r ansawdd aer. Yn dilyn cyfnod ymgynghori cyhoeddus ffurfiol o wyth wythnos, roedd y sylwadau a gafwyd wedi cael eu cynnwys yn adroddiad 'Cynllun Gweithredu Caerfyrddin a Llanelli'

 

Nododd yr adroddiad fod y camau gweithredu yn parhau i gael eu gweithredu fel y nodwyd ar gam 2 y cynllun gweithredu, a bod lefelau NO2 yn parhau i gael eu monitro, fodd bynnag, roedd yr adroddiad yn cydnabod mai'r unig opsiwn hyfyw tymor hir tebygol a fyddai'n sicrhau gwelliant parhaol a phendant i'r aer yn Llandeilo fyddai darparu ffordd osgoi.  


 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

·         Yn dilyn sylwadau yn ddiweddar gan y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth a fynegodd yn gyhoeddus ei fod yn gwrthwynebu ffordd osgoi Llandeilo, cyfeiriwyd at farwolaeth merch 9 blwydd oed yn 2013, a fu farw o anawsterau anadlu yn ymwneud ag asthma. Roedd hyn, ynghyd â'r newyddion diweddar am y cyswllt tebyg rhwng derbyniadau i'r ysbyty a chynnydd mewn llygredd aer a bod teulu'r ferch wedi cael caniatâd yn ddiweddar i gyflwyno cais o'r newydd am gwest i'w marwolaeth, yn bryderon sylweddol i'r Pwyllgor.

 
Ynghyd â'r ardaloedd monitro o fewn Sir Gaerfyrddin sy'n dangos tystiolaeth o lefelau cynyddol o NO2 flwyddyn ar ôl blwyddyn, mynegwyd nifer o bryderon cryf ynghylch diogelwch y cyhoedd.  Er mwyn diogelu'r cyhoedd, roedd y Pwyllgor o'r farn bod angen gwneud rhywbeth i leihau'r lefelau NO2 ac yn benodol sicrhau bod ffordd osgoi Llandeilo yn cael ei chwblhau'n gyflym.

 

Cynigwyd felly bod y Pwyllgor Craffu yn ysgrifennu at y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth i fynegi pryderon y Pwyllgor.  Cynigiwyd ymhellach anfon copi o'r llythyr at y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters AC.

 

Rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd ddiweddariad llafar ar y sefyllfa bresennol yngl?n â ffordd osgoi Llandeilo. Roedd y Cyngor wedi bod yn rhagweithiol wrth lobïo Llywodraeth Cymru i symud y cynllun ymlaen. Roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod £50m o'r neilltu ac roedd ar hyn o bryd yn aros am gwblhau ail gam arfarniad y cynllun yn unol â phroses Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG). Mewn ymateb i ymholiad ynghylch yr ansawdd aer ar Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, cadarnhaodd y Pen-ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd fod yr ardal yn cael ei monitro. 

 

·         Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd wrth y Pwyllgor fod yr awdurdod wedi datblygu a rhoi ar waith nifer o lwybrau cerdded/beicio mwy diogel ar gyfer prosiectau ysgol.  Fodd bynnag, roedd hyn yn cynnwys elfen o newid ymddygiad a datblygwyd pecynnau i annog rhieni a disgyblion i newid ymddygiad teithio.  Cyfeiriwyd at Atodiad 5 yr adroddiad sy'n dangos y canlyniadau tiwb tryledol NO2  ar gyfer 2017.  Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pam yr oedd y ffigurau ar y daenlen yn goch.  Eglurodd Pen-ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd mai'r Amcan Ansawdd Aer ar gyfer NO2 yw  40µg/m3  a fynegir fel lefel gymedrig flynyddol. Mae'r ffigurau coch at ddibenion enghreifftiol yn unig, gan ddangos ffigurau ar gyfer misoedd unigol / lleoliadau sy'n uwch na 40µg/m3. Eglurwyd na ddylid dod i unrhyw gasgliadau ynghylch y misoedd unigol yn unig oherwydd dim ond y ffigwr cymedrig blynyddol dylid cymharu â'r Amcan Ansawdd Aer. 


 

·         Mewn ymateb i sylw ynghylch canlyniadau ansawdd aer amser real, eglurodd y Pen-ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd, fod rhai awdurdodau lleol, (yn enwedig mewn dinasoedd mawr megis Llundain, Caerdydd ac Abertawe) wedi calibro'r offer monitro er mwyn cael canlyniadau amser real. Fodd bynnag, dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y cyfarpar hwn yn gostus iawn ac yn faich ar adnoddau o ran calibro a chynnal a chadw parhaus. Yn ogystal, gall fod angen tipyn o le er mwyn gosod yr offer ac nid yw hynny ar gael  yn rhai o'n Hardaloedd Rheoli Ansawdd Aer. Esboniwyd bod Sir Gaerfyrddin yn defnyddio tiwbiau tryledu goddefol i fonitro lefelau NO2 yn y Sir, ac mae'r arfer hwn yn cydymffurfio â'r canllawiau perthnasol a hwn yw'r dull a ddefnyddir fwyaf helaeth ledled y DU.

 

Eglurwyd ymhellach bod Sir Gaerfyrddin wedi buddsoddi mewn offer monitro dangosol cludadwy i ychwanegu at y defnydd o diwbiau tryledu goddefol.  Gall hyn fod yn ddefnyddiol ar gyfer gwaith sy'n ymwneud â'r Cynllun Gweithredu neu brosiectau penodol. Mae'r Cyngor yn gweithio ar y cyd â Phrifysgol Abertawe sydd â'r un offer; a rhennir y data a ddaw i law. Nid yw'r wybodaeth a ddaw o'r offer yn cael ei throsglwyddo mewn 'amser real', ond gellir ei gael o bell pan fo angen.

 

Er y cydnabuwyd bod nifer o fentrau i wella ansawdd aer yn cael eu defnyddio, awgrymwyd yn y cyfamser y gallai canlyniadau ansawdd aer dangosol gael eu harddangos yn yr ardaloedd dan sylw i roi gwell gwybodaeth i'r cyhoedd am ansawdd yr aer.  Dywedodd y Pen-ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd fod canlyniadau misol NO2 yn cael ei llwytho ar wefan sy'n hygyrch i'r cyhoedd. 

 

O ran gwaith y Cyngor i wella ansawdd aer, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod Sir Gaerfyrddin wedi arwain y ffordd i leihau'r effaith ar yr amgylchedd, drwy resymoli'r fflyd sbwriel a fflyd y briffordd yn un o'r fflydoedd mwyaf modern ac isel o ran allyriadau. Yn ogystal, roedd pwyntiau gwefru trydan wedi'u gosod ledled y Sir mewn ymgais i dyfu'r sector hwn ymhellach.

 

PENDERFYNWYD:

 

6.1

derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am yr Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer yn Sir Gaerfyrddin;

6.2

ysgrifennu llythyr at y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn mynegi pryderon y Pwyllgor;

6.3

anfon copi o'r llythyr uchod at y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

 

 

Dogfennau ategol: