Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2019/20 TAN 2021/22

Cofnodion:

[noder:  Roedd y Cynghorwyr L. Bowen, B.W. Jones, D. Jones, G. Jones, E. Schiavone a Mrs V. Kenny wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Yn ei gyfarfod ar 19 Tachwedd 2018, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2019/20 i 2021/22 a chymeradwyodd yr adroddiad at ddibenion ymgynghori.

 

Darparodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol drosolwg ar gyfer yr aelodau o'r Gyllideb Refeniw ar gyfer 2019/20 a'r ffigurau dangosol ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau bod yna bosibilrwydd o setliad negyddol, a bod setliad negyddol o 0.5% yn gyfwerth ag £1.1 miliwn mewn termau real. Wrth baratoi at y toriadau i'r setliad, mae gwaith sylweddol wedi'i wneud i nodi arbedion effeithlonrwydd/rhesymoliadau pellach yn y gwasanaeth.

 

Mae'r Gyllideb Ddrafft yn ystyried effaith y cynnydd yng Nghyfraniadau'r Cyflogwr ar gyfer Pensiynau Athrawon o 16.48% i 23.6%, sef cost o £2.75 miliwn yn 2019/20 ac £1.75 yn 2020/21. Mae'n debygol y bydd hyn yn cael ei ariannu gan grant Llywodraeth Cymru drwy'r Llywodraeth Ganolog.

 

Mae grant o £15 miliwn bellach ar gael gan Lywodraeth Cymru i Awdurdodau Lleol a disgwylir mai oddeutu £900,000 fydd cyfran Sir Gaerfyrddin, ond nodwyd bod rhaid defnyddio'r grant ar gyfer hyfforddiant proffesiynol ar hyn o bryd. Nid ydym yn gwybod a fydd hyn yn newid.

 

Yn bennaf mae'r pwysau ar y gyllideb ynghylch Addysg a Gwasanaethau Plant oherwydd Diswyddiadau Cynnar Gwirfoddol mewn ysgolion, darpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig, diffyg ariannol yn incwm CLG y Gwasanaeth Cerdd a Lleoliadau'r tu allan i'r Sir. Yn gyffredinol, mae'r Awdurdod yn rhagweld amrywiant o £2.237 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn y bydd rhaid ei fodloni o'r Gweddillion Cyffredinol.

 

Crynhodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol drwy ddweud bod cyllidebau ysgol wedi cael eu diogelu'n rhannol yn y blynyddoedd blaenorol a'u bod yn cael 1% yn uwch na'r taliad cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae newidiadau diweddar wedi trosglwyddo'r cyfrifoldeb i'r Awdurdod a gofynnir i ysgolion reoli eu costau eu hunain yn unol â chyllideb niwtral (gan gynnwys codiadau cyflog a'r costau cyffredinol megis cyfleustodau a gwasanaethau). Nid yw hon yn sefyllfa ddelfrydol a byddai'r £900,000 a gynigir ar gyfer hyfforddiant proffesiynol yn gwneud gwahaniaeth sylweddol o ran cael gwared ag unrhyw ddiffyg cyllidebol yn y maes hwn.

 

Cydnabu'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod yr adran o dan bwysau cynyddol yn ariannol gan nad oes newid wedi bod yn y gyllideb, a'i bod yn anodd nodi'r meysydd ar gyfer gostyngiadau.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

  • Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch y toriadau arfaethedig i'r Gwasanaeth Lles Addysg a gofynnodd fod y rhain yn cael eu hailystyried. Teimlwyd y byddai gostyngiad yn y gwasanaeth hwn yn rhoi pwysau ychwanegol ar ysgolion i reoli absenoldeb a mynd i'r afael â materion ynghylch absenoldeb. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y Gwasanaeth Lles Addysg yn darparu gwasanaeth statudol o ran mynd i'r afael ag absenoldeb, felly byddai angen i'r ddarpariaeth barhau er y byddai ar ffurf wahanol. Y lefel bresennol o ran absenoldeb a bennir gan Lywodraeth Cymru yw 80% ond rhoddir ystyriaeth i gynyddu hon i 85%, a fyddai'n cynyddu llwyth gwaith y Gwasanaeth Lles Addysg. Nodwyd hefyd bod rhai ysgolion yn rheoli eu habsenoldeb eu hunain a'u bod yn awyddus i barhau i wneud hyn. Mae'r adran yn ystyried modelau gwahanol ar gyfer y gwasanaeth, yn enwedig y modelau a ddefnyddir yn Ninbych a Chonwy, ac mae adroddiad yn cael ei baratoi ynghylch opsiynau ar gyfer dyfodol y gwasanaeth a gaiff ei gyflwyno i'r Pwyllgor maes o law.
  • Mynegwyd pryder ynghylch y sefyllfa mewn perthynas â phensiynau athrawon a gofynnwyd i'r swyddogion a yw'r sefyllfa'n unigryw i Sir Gaerfyrddin. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor nad yw hyn yn broblem yng Nghymru yn unig, problem genedlaethol ydyw gan fod yr arian yn cael ei gadw gan y llywodraeth ganolog ac os na chaiff yr arian ei dderbyn, byddai angen gwneud penderfyniad corfforaethol ynghylch pa gamau i'w cymryd nesaf.
  • Rhannodd y Pwyllgor bryderon hefyd ynghylch y gostyngiadau arfaethedig yn y Gwasanaethau Addysg a Seicoleg Plant a'r Gwasanaethau Cwnsela Ysgolion a gofynnwyd am sicrwydd na fyddai'r gostyngiadau hyn yn effeithio ar yr amser a ddyrennir i blant. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant nad oedd yn bosibl dweud ag unrhyw sicrwydd na fyddai unrhyw effaith, ond bod y cynigion yn cynnwys rhai arbedion effeithlonrwydd yn y costau nad oeddent yn ymwneud â lleihau nifer y staff.  Cydnabu ei bod yn bosibl y bydd angen ailystyried y cynigion hyn gan fod pwyslais cynyddol ar lesiant ac iechyd meddwl.  Bydd y contract ar gyfer y Gwasanaeth Cwnsela Ysgolion yn cael ei aildendro yn y dyfodol a'r gobaith oedd y gallai'r Awdurdod gaffael gwasanaeth gwell am gost ratach.

 

  • Nododd y Pwyllgor fod rhai o'r ysgolion yn cadw cronfeydd wrth gefn sy'n uwch na'r trothwy, a gofynnwyd i'r aelodau am esboniad ynghylch pa gynlluniau sydd ar waith, os oes rhai, i weithio gyda'r ysgolion hynny. Mae Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 yn mynnu bod ysgolion yn cyfyngu ar eu cronfeydd wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn i £50,000 ar gyfer Ysgolion Cynradd a £100,000 ar gyfer Ysgolion Uwchradd ac Ysgolion Arbennig, neu i 5% o'u cyllideb yn amodol ar ba un sydd fwyaf. Ar 31 Mawrth 2018, roedd 18 o ysgolion cynradd a 6 o ysgolion uwchradd yn cadw gwargedion uwch na'r trothwyon uchod. Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p fod gan y rhan fwyaf o'r Ysgolion Cynradd wargedion o ychydig filoedd o bunnoedd ac y byddai newidiadau bach, megis recriwtio athro/athrawes ar fand cyflog uwch, yn mantoli hyn. Mae dwy o'r Ysgolion Uwchradd a nodir wedi ymrwymo'r gwariant i brosiectau cyfalaf. Gofynnodd yr aelodau fod y ffigurau diweddaraf yn cael eu dosbarthu.
  • Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y fformiwla cyllido a bennir yn lleol gan fod yr aelodau wedi pwysleisio ei bod yn ymddangos bod hyn yn amrywio ar draws yr Awdurdod. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod yr un fformiwla'n cael ei defnyddio ar gyfer pob ysgol, ond bod rhai ffactorau megis Prydau Ysgol am Ddim, Plant sy'n Derbyn Gofal, Unedau Arbennig (yn debyg i'r uned yn Ysgol Bro Banw) ac ati yn gallu effeithio ar ddyraniad y fformiwla.  Atgoffwyd y Pwyllgor bod gweithdy ariannol wedi'i drefnu i aelodau'r Pwyllgor ar brynhawn 24 Ionawr 2019 a fyddai'n cynnwys rhagor o wybodaeth am y fformiwla a bennir yn lleol;

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

4.1Bod yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2019/20 - 2021/22 yn cael ei dderbyn;

 

4.2Bod y Crynhoad Taliadau ar gyfer yr Adran Addysg a Phlant, fel y manylir yn Atodlen C i'r adroddiad yn cael ei gymeradwyo;

 

4.3 Bod y Bwrdd Gweithredol yn cael gwybod am bryderon difrifol y Pwyllgor ynghylch unrhyw ostyngiad i'r Gwasanaeth Lles Addysg, y Gwasanaeth Addysg a Seicoleg Plant a'r Gwasanaeth Cwnsela Ysgolion a goblygiadau difrifol unrhyw ostyngiad.

 

 

 

4.4 Bod cais y Pwyllgor bod unrhyw arian ychwanegol a nodir ar draws cyllideb yr Awdurdod yn cael ei drosglwyddo i'r Adran Addysg a bod y Bwrdd Gweithredol yn cael gwybod am hyn.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: