Cofnodion:
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 - Diwygiadau Polisi a Gweithdrefn ar gyfer Codi Tâl ar Oedolion am Wasanaethau.
Mae'r adroddiad yn nodi'r polisi diwygiedig, gan gyfuno'r polisïau blaenorol a'r polisi interim y cytunwyd arno yn 2016.
Crynodeb o bwyntiau'r polisi.
· Mae Lwfans Personol wedi'i ailenwi yn Isafswm Incwm a fydd yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â chyhoeddiadau Llywodraeth Cymru. Mae 2018-19 wedi'i bennu yn £28.50 yr wythnos (Diwygir hyn bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru)
· Mae Taliadau Dibreswyl yn berthnasol o ddiwrnod cyntaf y gwasanaeth.
· Ni chodir tâl ar bobl ag anghenion gofal a chymorth sydd wedi cael diagnosis o CJD, ar gyfer gwasanaethau cartref neu wasanaethau amhreswyl.
· Gall yr awdurdod lleol bellach godi llog ar daliadau gohiriedig o ddyddiad y cytundeb.
· Codir tâl ar breswylwyr tymor byr mewn cartref gofal bellach fel pe baent yn derbyn gwasanaethau amhreswyl.
· Bydd rheolau o ran dewis o lety yn berthnasol i leoliadau "Dros dro / Parhaol" mewn cartref gofal, ond ni fydd yn berthnasol i leoliadau "Tymor byr".
· Newidiwyd enw Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol i "Gostau Ychwanegol" a bydd yn dal yn berthnasol, ond bydd bellach yn cael eu cyfrifo gan ystyried cost uchaf y 2 gartref sydd ar gael, ac nid y pwynt canol yn unol â Pholisi Interim 2016.
Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Gofynnwyd am eglurhad ynghylch codi tâl am ofal seibiant.
Dywedodd yr Uwch-reolwr Busnes fod trefniadau priodol yn cael eu rhoi ar waith yn dilyn asesiad gan Weithiwr Cymdeithasol. Pan ystyrir bod angen lleoliad ar berson am lai nag 8 wythnos, bydd y lleoliad hwnnw yn cael ei ystyried dan reolau amhreswyl. Gall person gael seibiannau lluosog o fewn unrhyw gyfnod sy'n cael ei ystyried yn dymor byr ac sydd, gyda'i gilydd, dros 8 wythnos.
Mae'r gost fesul noson ar gyfer lleoliadau tymor byr yn seiliedig ar gost lawn y lleoliad.
· Gofynnwyd a yw'r gost ar gyfer gofal seibiant yn seiliedig ar brawf modd.
Dywedodd yr Uwch-reolwr Busnes, pan fo person yn cael prawf modd, mae'r swm a godir wedi'i gapio – £80 yr wythnos ar hyn o bryd.
· Gofynnwyd am ragor o wybodaeth am daliadau gohiriedig.
Cadarnhaodd yr Uwch-reolwr Busnes, pan gytunir ar daliad gohiredig, bydd yn galluogi pobl i ohirio talu am rywfwaint neu'r holl gostau gofal er mwyn sicrhau nad oes angen iddynt werthu eu heiddo pan fyddant yn mynd i gartref gofal. Bydd yr Awdurdod yn ceisio cael blaenoriaeth arwystl dros yr eiddo, fodd bynnag mewn rhai amgylchiadau bydd yn ail arwystl. Mae gan yr Awdurdod yr hawl i dynnu'r gwasanaethau yn ôl os nad yw person wedi talu ei ffioedd. Dywedwyd nad yw Caerfyrddin wedi tynnu gwasanaeth eto. Yn hytrach, byddai'r awdurdod yn ceisio cael taliad gan yr ystad.
PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL fod y Diwygiadau Polisi a Gweithdrefn ar gyfer Codi Tâl ar Oedolion am Wasanaethau yn cael eu cymeradwyo.
Dogfennau ategol: