Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR:

“Rhagwelwyd y byddai cam cyntaf y Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd yn agor yn gynnar yn 2021. A yw Arweinydd y Cyngor yn credu eich bod yn unol â'r targed o ran cyflawni'r nod hwn ar hyn o bryd?”

 

Cofnodion:

“Rhagwelwyd y byddai cam cyntaf y Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd yn agor yn gynnar yn 2021. A yw Arweinydd y Cyngor yn credu eich bod yn unol â'r targed o ran cyflawni'r nod hwn ar hyn o bryd?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:

 

"Ydw, ein nod o hyd yw agor cam cyntaf y pentref ym mis Medi 2021.  Mae'r cam cyntaf yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan dîm o 19 gwahanol ddisgyblaeth o Arup a bydd yn cynnwys y ganolfan lesiant a fydd yn cynnwys y cyfleusterau chwaraeon, hamdden a gweithgareddau d?r. Bydd y ganolfan iechyd gymunedol yn cynnwys yr elfennau ymchwil, datblygu busnes, addysg, sgiliau a hyfforddiant a'r ddarpariaeth glinigol ynghyd â'r llecyn agored cyhoeddus."

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Rob James:

 

"Pan lofnodwyd y cytundeb cydweithio, roedd chwe pherson yn y llun. Mae dau ohonynt wedi cael eu hatal, mae un wedi ymddiswyddo a thorrwyd cysylltiad ag un arall. Yr unig un sydd ar ôl yw chi, Arweinydd y Cyngor hwn. Rydych wedi bod yn gweithio ar hyn ers tair blynedd felly onid ydych yn credu, o ystyried popeth sydd wedi digwydd yn yr wythnosau diwethaf, ei bod hi'n amser i chi ailystyried eich swydd fel Arweinydd y Cyngor."

 

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:

 

"Rwyf wir yn cael trafferth deall pam mae Arweinydd y Gr?p Llafur yn beirniadu prosiect mwyaf y Fargen Ddinesig ar gyfer Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn gyson. Prosiect trawsnewidiol ydyw, nid ar gyfer ardal Llanelli yn unig, ond ar gyfer y rhanbarth cyfan. Bydd yn darparu canolfan hamdden newydd sbon o'r radd flaenaf ar gyfer pobl Llanelli. Dyma fydd lleoliad y Ganolfan Lesiant, y Sefydliad Gwyddor Bywyd, llecynnau agored cyhoeddus, llety byw â chymorth, cartref gofal a chyfleuster meithrin busnesau. Llwybr o'r maes clinigol i'r gymuned. Canolfan gymunedol ar gyfer iechyd. Felly pam na all gefnogi'r prosiect a'r bobl y cafodd ei ethol i'w cynrychioli? Hoffwn ateb fy nghwestiwn fy hun, oherwydd mai clymblaid dan arweiniad Plaid sy'n darparu ar gyfer pobl Llanelli. Yn y cyfamser, ein bwriad yw dechrau adeiladu tai Cyngor yn Llanelli am y tro cyntaf ers 40 mlynedd.  Beth maent yn ei wneud? Gwrthwynebu. Rydym yn cyhoeddi y bydd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn cael ei hadeiladu yn Llanelli.  Beth mae'n ei wneud?  Gwrthwynebu. Rydym yn gwario £3 miliwn neu ragor ar brynu eiddo gwag yng nghanol tref Llanelli. Rydym yn lansio Stryd Cyfleoedd o dan y Prif Gynllun Rhanbarthol ar gyfer canol y dref. Beth maent yn ei wneud? Gwrthwynebu. Rydym yn gweithredu rhaglen ymgysylltu cymunedol ar gyfer ward Ty-isa i ystyried amddifadedd yng nghyd-destun y ward cyfan er mwyn mynd i'r afael â'r prif broblemau y mae'r gymuned honno yn Llanelli yn eu hwynebu, mewn ffordd gyfannol am y tro cyntaf.  Beth maent yn ei wneud?  Ceisio cipio'r broses. Y gwir yw bod y cyfan yn pwysleisio eu rhwystredigaeth. Pan ddechreuais fel Arweinydd bedair blynedd yn ôl, un o'r pethau cyntaf y gwnes i oedd ymweld â'r Hwb, a oedd wedi'i lleoli yng nghanol tref Llanelli dros dro, a mynnais fod yr Hwb yn Llanelli yn cael ei ddatblygu ymhellach yn y lleoliad hwnnw yng nghanol y dref, gan sicrhau o leiaf 4000 mwy o ymwelwyr bob mis, ac estyn yr un egwyddor i'n dwy brif dref arall yn Rhydaman ac yma yng Nghaerfyrddin. Gwnaethom agor yr Hwb olaf hwnnw yn Rhydaman ar fore dydd Llun. Beth wnaeth ef? Gwrthwynebu. Y gwir yw ei fod yn pwysleisio eu rhwystredigaeth. Cawsoch chi eich cyfle i newid Llanelli. Gwnaethoch chi ddim byd ond siarad amdano. Mae'r glymblaid hon dan arweiniad Plaid yn gwneud hynny ac rydych chi'n beirniadu ac yn rhwystro'r broses yn hytrach na'i chefnogi i wneud gwahaniaeth ar gyfer pobl Llanelli. Mae eich sylwadau fore heddiw yn gywilyddus.  Mewn gwirionedd, yn fwy na hynny, dim llai nag esgeuluso'ch dyletswydd yw hyn."