Cofnodion:
Bu’r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried crynhoad o ffioedd hamdden arfaethedig ar gyfer 2019-20. Roedd yr adroddiad yn cynnwys y ffioedd am y canlynol:
· Gwasanaethau diwylliannol (canolfannau’r celfyddydau a theatrau)
· Lleoliadau chwaraeon a hamdden (canolfannau hamdden a phyllau nofio)
· Hamdden awyr agored (parciau gwledig, gan gynnwys Parc Arfordirol y Mileniwm, maes parcio Traeth Pentywyn a Chanolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn).
Yn ystod y cyfarfod, cyfeiriodd Pennaeth Hamdden at y newidiadau canlynol yr awgrymwyd y dylid eu gwneud i’r adroddiad ar ôl ei gyhoeddi:
· Tocyn Tymor Parc Gwledig Pen-bre – tâl o £55 y flwyddyn yn lle £53 y flwyddyn a £50 yn lle £47.50 am adnewyddu tocyn.
· Y maes parcio y tu allan i Barc Gwledig Pen-bre – cael gwared â’r tâl o £1.10 am 1 awr a chodi £2 am hyd at ddwy awr.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r crynhoad o Ffioedd Hamdden am 2019-20 fel y nodwyd yn yr adroddiad, yn amodol ar y newidiadau uchod.
Dogfennau ategol: