Cofnodion:
NODER: Roedd y Cynghorwyr D, Jones, G. Jones ac E. Schiavone wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn cynnig y wybodaeth ddiweddaraf am y Gyllideb Ymddeoliad Gwirfoddol Cynnar a Diswyddo, yn dilyn cais gan y Pwyllgor yn gynharach yn y flwyddyn am fanylion pellach am y dull a ddefnyddir a'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â Dileu Swyddi mewn Ysgolion ac Ymddeoliad Gwirfoddol Cynnar.
Mae Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 yn nodi bod gwariant mewn perthynas â diswyddo neu ymddeoliad cynnar unrhyw berson a gwariant mewn perthynas ag enillion athrawon yn rhan o gyllideb yr Awdurdod Lleol. Mae'r costau hyn yn y tu allan i reolaeth uniongyrchol yr adran ond bydd yr adran yn ceisio gweithio gydag ysgolion ac undebau llafur i leihau effaith gyffredinol y costau o ran terfynu staff.
Mae staff ysgolion yn cael eu recriwtio gan Gyrff Llywodraethu ac maent yn weithwyr Cyngor Sir Caerfyrddin. Gall ysgolion gael diffyg yn y gyllideb oherwydd ystod o faterion ond mae hyn yn bennaf o ganlyniad i ostyngiad yn nifer y disgyblion ar y gofrestr. Pan fydd hynny'n digwydd gall arwain at adolygiad o ran staffio a gostyngiadau posibl yng ngweithlu'r ysgol. Pan nad oes angen y staff mwyach y Cyngor sy'n gyfrifol am y costau o ryddhau'r staff.
Mae'r gyllideb a ddyrannwyd i fynd i'r afael â Chostau Ymddeoliad Gwirfoddol Cynnar a Diswyddo gan yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant. Mae'r rhan fwyaf o'r gyllideb mewn perthynas â chyfraniadau pensiwn a chostau eraill ar gyfer staff a gafodd eu rhyddhau yn ystod y blynyddoedd blaenorol. Bydd elfennau o'r costau hyn yn parhau hyd nes y bydd pensiynwyr yn marw. Mae llai na £100k ar gael yn y gyllideb i fodloni'r gwariant newydd a ddaw yn y flwyddyn, a rhagamcanir y bydd gorwariant sylweddol yn ystod y flwyddyn bresennol. Am nifer o flynyddoedd mae'r gyllideb hon wedi bod o dan bwysau sylweddol ac mae wedi gorwario symiau sylweddol yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf. Y rhagolygon presennol yw y bydd gorwariant o £300k yn y gyllideb yn 2018/19.
Gyda chynlluniau pellach i resymoli'r rhwydwaith ysgolion drwy'r Rhaglen Moderneiddio Addysg, mae rhai ysgolion cynradd gwledig yn rhag-gweld gostyngiad yn nifer y disgyblion er gwaethaf cynnydd cyffredinol yn y gyfradd geni, a gyda rhagolwg y bydd nifer y disgyblion ysgol uwchradd yn gostwng am ychydig flynyddoedd eto, nid oes fawr o obaith y bydd y pwysau hyn ar y gyllideb yn lleihau yn y dyfodol agos. Mae swyddogion wedi bod yn adolygu prosesau ac arferion er mwyn rheoli gwariant yn well a sicrhau bod pob achos busnes a gyflwynwyd yn cael ei herio'n gadarn. Mae rhai newidiadau a wnaed hyd yma yn cynnwys:-
- Y Polisi Dewisol ynghylch Ymddeol yn Gynnar a Dileu Swyddi ac mae polisïau Recriwtio Mwy Diogel Ysgol wedi'u hadolygu a'u diweddaru;
- mae'r elfen "blynyddoedd ychwanegol" dewisol wedi'i dileu;
- cynhelir cyfarfodydd rheolaidd rhwng Cyllid, Adnoddau Dynol ac
Addysg i ystyried yr agenda hwn;
- mae'r holl strwythurau ysgol presennol wedi cael eu dadansoddi er mwyn datblygu “Model Strwythur Staffio Ysgolion Sir Gaerfyrddin" ar gyfer ysgolion o wahanol faint;
- datblygwyd "Panel Adolygu Newid" er mwyn herio ysgolion ar eu cynlluniau sy'n alinio'r broses ysgol gyda'r broses gorfforaethol
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod y gyllideb yn gorwario o flwyddyn i flwyddyn a gofynnwyd i swyddogion pam nad yw'r swyddogion yn sicrhau bod y gyllideb yn gywir yn y lle cyntaf. Eglurodd y Cyfarwyddwr bod y cwestiwn hwn yn cael ei ofyn bob blwyddyn, fodd bynnag, rydym mewn cyfnod ariannol heriol. Rhoddodd sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai'n gwneud sylwadau eto eleni yn hyn o beth;
· Mynegwyd pryder bod llai na £100k ar gael i bobl sydd newydd ymddeol a gofynnwyd i'r swyddogion beth sy'n digwydd mewn achosion o ymddeol arferol ac a oes gorwariant yn y gyllideb honno hefyd. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod cyfraniadau gan aelodau'r Gronfa yn ariannu ceisiadau ymddeol arferol. Os ydych yn cael eich diswyddo, mae gennych hawl i gael eich trin fel petaech wedi dilyn y llwybr ymddeol arferol. Mae'r ysgolion yn cael yr arbedion effeithlonrwydd, ond mae cost yr iawndal yn disgyn ar yr Awdurdod;
· Cyfeiriwyd at rôl llywodraethwyr ysgolion a gofynnwyd i swyddogion a ydynt yn barod i wneud penderfyniad o ran diswyddo pan fo angen neu a ydynt yn oedi sydd yn ei dro yn arwain yr ysgol ymhellach i'r coch. Gofynnwyd i swyddogion a dylid cynnwys hwn o bosibl yn rhaglen hyfforddiant llywodraethwyr yr ysgol. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg wrth y Pwyllgor fod ymateb y Cyrff Llywodraethu i sefyllfaoedd o'r fath yn amrywio o ysgol i ysgol. Yn ffodus, mae gan yr Awdurdod Lleol brofiad da o rai Cyrff Llywodraethu yn gweithredu'n rhagweithiol mewn amgylchiadau o'r fath. Ychwanegodd y byddai'n mynd ar drywydd y mater o hyfforddiant pellach gyda chydweithwyr yn yr Adran Llywodraethu;
· Gofynnwyd faint o bobl oedd wedi cymryd Ymddeoliad Cynnar Gwirfoddol neu Ddiswyddo, cytunodd y Cyfarwyddwr y byddai'n dosbarthu'r wybodaeth hon drwy e-bost;
· Gofynnwyd a yw adleoli yn cael ei ystyried pan nodir yr angen am ostyngiad yn nifer y staff mewn ysgol, dywedwyd wrth y Pwyllgor pan fydd ysgolion yn cael eu dyraniad o'r gyllideb byddant yn dechrau cynllunio eu staffio ac ati ar gyfer mis Medi. Os, o ganlyniad, y bydd athro yn colli ei swydd mae swyddogion yn cysylltu ag ysgolion eraill mewn ymgais i sicrhau cyflogaeth amgen;
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod angen i ysgolion fod yn ymwybodol o’r goblygiadau wrth i rywun o dan oedran penodol golli ei swydd. Dywedodd Cyfarwyddwr y Pwyllgor nad oes gan lawer o ysgolion athrawon dros 55 oed erbyn hyn felly rydym bellach yn wynebu posibilrwydd o ddiswyddo gorfodol ar gyfer y rhai o dan 55 oed, ond yna nid oes unrhyw oblygiadau ar yr Awdurdod oherwydd ni fyddent yn gymwys i gael eu pensiwn. Ychwanegodd y byddai'n bosibl trefnu gweithdy ar gyfer y Pwyllgor ynghylch pensiynau athrawon.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
Dogfennau ategol: