Cofnodion:
Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad ar ddarparu trosolwg o'r gwasanaethau sydd ar gael ar gyfer gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy'n ofalwyr ledled Sir Gaerfyrddin, a oedd yn cynnwys y canlynol:-
- gofalwr ifanc yw rhywun o dan 18 oed y mae ei fywyd yn gyfyngedig oherwydd yr angen i gymryd cyfrifoldeb am aelod o'r teulu oherwydd salwch, anabledd, iechyd meddwl neu broblemau alcohol a chyffuriau;
- gofalwr sy'n oedolyn ifanc yw rhywun sydd rhwng 16 a 25 oed;
- Mae 11,500 o ofalwyr ifanc yng Nghymru;
- cyfartaledd oedran gofalwr ifanc yw 12 mlwydd oed;
- mae 64% o ofalwyr ifanc wedi bod yn gofalu am 3 blynedd neu ragor ac mae 1:5 yn colli ysgol oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu;
- mae 1 ym mhob 3 gofalwr ifanc yn treulio rhwng 11 ac 20 awr yr wythnos yn gofalu;
- mae 1 ym mhob 12 disgybl uwchradd yn ofalwyr ifanc;
- mae llawer o faterion yn gallu effeithio ar ofalwyr ifanc gan gynnwys unigrwydd, iselder; diffyg cwsg, anawsterau addysgol, ynysu cymdeithasol, materion ymddiriedaeth, bwlio a meddwl am hunanladdiad.
Mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd yn cefnogi tua 40 o ofalwyr ifanc hyd at 18 oed. Mae'r cymorth hwn yn cynnwys gweithgareddau yn ystod y gwyliau, cyfeirio at asiantaethau priodol, seibiant oddi wrth ofalu, cymorth â ffocws, eiriolaeth a chefnogaeth cymheiriaid.
Cyflwynwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr y cyflwyniad:-
· Gofynnwyd sut yr oedd y gwasanaeth yn cael ei hyrwyddo mewn colegau, dywedwyd wrth y Pwyllgor mai'r Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc sy'n ymwneud yn bennaf â cholegau lle maent yn cynnal sesiynau galw heibio ddwywaith yr wythnos. Mae'r gan y gwasanaeth gysylltiadau rhagorol â mentoriaid yn y colegau yn y Sir;
· Gofynnwyd sut y mae'r gwasanaeth yn cefnogi plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref, y dywedwyd wrth y Pwyllgor, fel awdurdod, bod gennym bolisi Addysg Ddewisol yn y Cartref ac mae'r plant hynny sy'n cael eu haddysgu yn y cartref wedi cael eu nodi fel gofalwyr a gallent fod yn agored i newid felly maent yn cael eu monitro a'u cefnogi gan y gwasanaeth. Rhaid i unrhyw blant sydd wedi cofrestru mewn ysgol ond yn dewis tynnu'n ôl hysbysu'r Awdurdod Lleol, fodd bynnag, os nad yw plentyn erioed wedi cofrestru mewn ysgol nid oes gofyniad i gofrestru ac mae'n fwy anodd i nodi'r plant hyn. Yn y gorffennol, roedd y ffurflenni a ddefnyddiwyd gan y gwasanaeth o ran iechyd meddwl rhieni dim ond yn gofyn a oes unrhyw blant yn y cartref. Mae'r ffurflenni hyn yn cael eu diwygio i ofyn a yw'r plant mewn addysg llawn amser a fydd yn cynorthwyo yn hyn o beth;
· Cyfeiriwyd at bwysigrwydd nodi gofalwyr ifanc a gofynnwyd i swyddogion a ydynt yn mynychu gwasanaethau ysgol a holi'r rhai hynny sy'n gofalu am aelodau o'r teulu i godi eu dwylo. Cynghorwyd y Pwyllgor nad yw hyn yn cael ei wneud mwyach gan nad oes llawer o ofalwyr ifanc am i bobl wybod. Yn lle hynny, defnyddir mentrau eraill fel cystadlaethau i nodi pa enwogion oedd yn ofalwyr ifanc. Mae hyn yn golygu bod y person ifanc yn cynnwys ei enw ar ffurflen sy'n cynnwys blwch i nodi tic os yw'n ofalwr ifanc ac os oes angen cymorth arno;
· Gofynnwyd beth allai'r aelodau etholedig eu gwneud i gefnogi'r gwasanaeth, dywedwyd wrth y Pwyllgor bod swyddogion yn gweithio'n galed i dynnu sylw at y cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr. Mae Meddygon Teulu mewn sefyllfa dda i nodi gofalwyr ifanc ac er mwyn iddynt gyflawni gwobr arian Buddsoddwyr mewn Gofalwyr mae angen iddynt ddarparu rhagor o wybodaeth. Pe gallai'r aelodau etholedig helpu i ledaenu'r gair byddai hyn yn cael ei werthfawrogi fawr;
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod gwasanaeth iechyd meddwl ar gyfer plant ac mae angen gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion a mynegwyd pryder bod diffyg capasiti yn y gwasanaeth i ddiwallu'r angen;
· Wrth gydnabod pwysigrwydd plant yn aros gyda'u teuluoedd, gofynnwyd i swyddogion pa bryd y gwneir y penderfyniad i'w symud o'u teuluoedd.
· O ran plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref, gofynnwyd i swyddogion pa weithdrefnau sydd ar waith er mwyn sicrhau bod rhieni yn cael yr adnoddau a'r gallu i wneud hynny. Cynghorwyd y Pwyllgor bod gan y swyddogion bryderon yn hynny o beth gan fod y meini prawf a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd mor amwys mae'n anodd asesu neu herio eu safonau o ran eu gallu i addysgu eu plentyn. Rhagwelir y bydd canllawiau mwy cadarn yn dod gan Lywodraeth Cymru ;
· Mynegwyd pryder mawr ynghylch cyfraddau hunanladdiad ymhlith pobl ifanc a phwysleisiwyd y pwysigrwydd o wella'r ffordd y mae ysgolion yn ymdrin â phlant sydd â phroblemau iechyd meddwl. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod llawer o ymchwil a sylw yn y cyfryngau sy'n tynnu sylw at yr hyn a elwir yn argyfwng ymysg pobl ifanc. Bu newid aruthrol yn y ddealltwriaeth o'r materion dan sylw dros y blynyddoedd diwethaf. Y peth pwysig yw sylweddoli bod yn rhaid cael dull cydweithredol. Llesiant y plant yw'r flaenoriaeth;
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod plant mewn rhai diwylliannau yn ei weld fel eu dyletswydd i edrych ar ôl teulu a gofynnwyd i swyddogion beth oedd yn cael ei wneud gyda lleiafrifoedd ethnig yn hyn o beth. Cynghorwyd y Pwyllgor bod Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn cael ei sefydlu i edrych ar sut yr ydym yn ymgysylltu mwy â grwpiau lleiafrifoedd ethnig a sut y gallwn ddatblygu'r gwasanaeth yn hyn o beth. Mae cymdeithas gynyddol amlddiwylliannol yn Sir Gaerfyrddin ac mae angen i ni edrych ar sut yr ydym yn hyrwyddo ein gwasanaethau i'r gymdeithas honno;
· O ran plant a addysgir yn y cartref, gofynnwyd i swyddogion a yw'r Awdurdod yn gwneud digon i helpu'r teuluoedd hyn oherwydd er gallai'r plant fod yn derbyn addysg ddigonol, maent yn colli allan ar ryngweithio â phlant eraill. Dywedwyd wrth y Pwyllgor o safbwynt yr awdurdod lleol fod hyn yn dipyn o her oherwydd nad oes arian ar gael i helpu plant a addysgir yn y cartref. Mae angen newid sylfaenol er mwyn caniatáu i'r cymorth gael ei ddarparu. Mae yna nifer o heriau y mae swyddogion mewn trafodaeth yn eu cylch.
PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.
Dogfennau ategol: