Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2017/18 y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 30 Mehefin 2018. Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £300k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £362k yn y gyllideb gyfalaf, a thanwariant o £237k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad.

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y gorwariant rhagamcanol o £326k yn yr Is-adran Cynllunio, dywedodd y Pennaeth Cynllunio nad oedd disgwyl i'r sefyllfa newid yn y dyfodol agos a bod sefyllfa debyg ledled Cymru lle bo gwasanaethau cynllunio yn adennill 60% ar gyfartaledd. Yn ôl y targedau presennol disgwyliwyd i'r Is-adran adennill 80%, ond roedd yn adennill tua 60% mewn gwirionedd, yn unol â'r cyfartaledd yng Nghymru. Roedd yr Is-adran yn archwilio ffyrdd gwahanol o gynyddu ei hincwm a allai gynnwys codi tâl ar gyfer cyngor cyn cynllunio, er enghraifft. Fodd bynnag, dylid nodi hefyd na chaniateir i'r Is-adran godi tâl ar gyfer rhai gwasanaethau, megis dyletswyddau gorfodi.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch refeniw uwch ar gyfer Parc Gwledig Pen-bre, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod potensial i hwn gynyddu dros y blynyddoedd nesaf, yn enwedig o ystyried cynigion buddsoddi'r Cyngor a oedd yn cynnwys seilwaith newydd, Wi-Fi, bloc cyfleusterau a bwyty. Fodd bynnag, byddai adeg yn dod pan fyddai'r cynnydd yn arafu.

·        Cyfeiriwyd at y diffyg gweithredol yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn ac a oedd gan y Cyngor strategaeth i fynd i'r afael â'r diffyg.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden, er bod strategaeth ar waith a oedd yn lleihau'r diffyg, fod angen buddsoddi yn y safle gan fod rhai o'r adeiladau wedi bod ar y safle ers dros 50 mlynedd, ac roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i fynd i'r afael â hynny, a allai arwain at gyflwyno cynnig am gyllid cyfalaf.

·        Cyfeiriodd y Pennaeth Hamdden at gwestiwn ynghylch y costau o £10k yng nghyllideb yr amgueddfeydd ar gyfer cyflogi cynorthwyydd dogfennaeth, a chadarnhaodd fod y swydd wedi'i chreu ar gontract penodedig o flwyddyn er mwyn cynorthwyo â'r gwaith a oedd yn aros i'w wneud o ran cofnodi'r arteffactau a gedwir gan y gwasanaeth, a oedd yn ofynnol i gael eu hachredu.

 

O ran nifer yr arteffactau a gedwir gan y Gwasanaeth Amgueddfeydd, dywedodd fod polisi ar waith ynghylch casgliadau a gwarediadau.

·        Cyfeiriwyd at yr amrywiaeth o £494k yn incwm rhent tai'r awdurdod a gofynnwyd am eglurhad ynghylch y rheswm dros y cynnydd o 0.8% yn lefel yr eiddo gwag a'r golled cysylltiedig yn yr incwm rhent.

 

Dywedodd Pennaeth dros dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod rhagdybiaeth yn cael ei gwneud bob blwyddyn ynghylch lefel yr eiddo gwag yn ystod y flwyddyn fel rhan o'r broses o bennu'r gyllideb. Ar gyfer 2018/19, y rhagdybiaeth hon oedd 2.1% o'r incwm rhent, ond bellach disgwylir iddi gynyddu i 2.9%. Y prif reswm dros yr amrywiaeth oedd nifer o eiddo gwag yr oedd angen gwaith helaeth arnynt er mwyn eu dychwelyd i'r stoc tai. Fodd bynnag, roedd cyllid ar gael i wneud y gwaith hwnnw. Yn ogystal, roedd nifer o eiddo yn cael eu hatal er mwyn darparu llety i denantiaid wrth i waith adnewyddu gael ei wneud ar eu heiddo.

·        Cyfeiriwyd at y contract y cytunwyd arno'n ddiweddar gan yr Awdurdod a Burry Port Marine Ltd ar gyfer rheoli Harbwr Porth Tywyn a'i gyfraniad o £100k at gost llong garthu. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch telerau'r cyfraniad ac a fyddai'r awdurdod yn derbyn incwm drwy ddefnyddio'r llong garthu mewn harbwrs eraill.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod trefniad ar waith i rannu'r elw, a bydd unrhyw incwm yn cael ei ail-fuddsoddi yn yr harbwr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyfalaf yn cael ei dderbyn.

 

 

Dogfennau ategol: