Agenda item

ADRODDIAD HANNER BLWYDDYN AR REOLI PERFFORMIAD – 1AF O EBRILL HYD AT 30AIN O FEDI 2015

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor yr Adroddiadau Rheoli Perfformiad Chwe-misol i’w hystyried sy’n gysylltiedig â Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Iechyd am y cyfnod 1 Ebrill hyd 30 Medi 2014. Atgoffwyd yr aelodau gan y Cadeirydd fod yr adroddiad hwn wedi cael ei ohirio o’r cyfarfod diwethaf ym mis Tachwedd. Roedd yr adroddiad yn cynnwys:

 

·         Trosolwg Perfformiad Penaethiaid Gwasanaeth

·         Y Dull o Fesur Perfformiad – Pobl H?n a Phobl ag Anabledd Corfforol

·         Gwasanaethau ac Anableddau Dysgu a Gwasanaethau Iechyd Meddwl

·         Monitro’r Cynllun Gwella – Camau Gweithredu a Mesurau Perfformiad

 

Cafodd y materion canlynol eu trafod wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â’r defnydd o gyllid clystyrau Meddygon Teulu, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig, yn unol â Chynllun Gofal Sylfaenol Cymru Llywodraeth Cymru, fod pob Clwstwr (ardal) yn Sir Gaerfyrddin wedi defnyddio’r cyllid a oedd ar gael i helpu datblygiad y gwasanaeth mewn ardaloedd penodedig. Fodd bynnag, er bod perygl y gallai Meddygon Teulu edrych ar hwn fel cyfle i ariannu gwaith eu practis, roedd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru yn bendant y dylai’r arian gael ei ddefnyddio i helpu gofal sylfaenol a’r clwstwr yn ei gyfanrwydd.

 

Cafwyd cyfeiriad at ad-drefnu’r gwasanaeth Llinell Gofal a gofynnwyd a fyddai angen mwy o staff ar gyfer hyn. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig wrth y Pwyllgor pan ddaethpwyd â’r gwasanaeth i Wasanaethau Gofal Cymdeithasol, roedd swyddogion yn ymwybodol bod angen ei ailddatblygu ond roedd cyflwyno’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a fydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2016, yn awr yn gosod gofynion ychwanegol ar y gwasanaeth, sef y byddai rhai sy’n cymryd galwadau’n gweithio i fanyleb swydd uwch nag y maent ar hyn o bryd. Roedd yn cydnabod y gallai hyn effeithio ar niferoedd staff ac y byddai’n rhaid i’r ad-drefnu ddigwydd o fewn cyfyngiadau cyllidebol mwy llym byth. Roedd yr opsiynau a oedd yn cael eu hystyried yn cynnwys defnyddio staff â’r sgiliau perthnasol o feysydd gwasanaeth eraill.

 

Gofynnwyd ai rhan o rôl Broceriaid y Trydydd Sector oedd canfod gwasanaethau a oedd yn cael eu dyblygu yn y sector gwirfoddol yn ogystal â chanfod bylchau yn y ddarpariaeth bresennol. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig wrth y Pwyllgor yn dilyn parhad rolau’r broceriaid o fewn y Timau Adnoddau Cymunedol, y byddant yn awr yn cael eu hadnabod fel ‘Gweithwyr Cydnerthedd Cymunedol’. Ychwanegodd y dylai’r swyddogion hyn fod yn monitro i ganfod unrhyw ddyblygiad a bod gwaith yn parhau ar lefel gorfforaethol i ganfod gwariant y sector gwirfoddol.  Hysbysodd y Pwyllgor hefyd am grant Iechyd Cyhoeddus Cymru a oedd yn rhan o’r Rhaglen Cydnerthu Cymunedol a defnyddiodd hyn fel enghraifft i ddangos ei bod yn hanfodol bod unrhyw arian grant newydd yn cael ei wario ar brosiectau newydd yn hytrach na dyblygu cynlluniau a gweithgarwch presennol.

 

Gofynnwyd am eglurder ar y ffigurau poblogaeth sy’n gysylltiedig â chynllunio gwasanaethau ar lefel gymunedol, yn unol â Chynllun Gofal Sylfaenol Llywodraeth Cymru. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig wrth y Pwyllgor pan oedd gwasanaethau’n cael eu cynllunio ar lefel gymunedol ac ymhlith poblogaethau amrywiol, bod hyn yn fwyaf llwyddiannus gyda niferoedd rhwng 25,000 a 100,000.

 

Gofynnwyd am esboniad o rôl Eiriolwyr Ffordd o Fyw a’u hyfforddiant. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig wrth y Pwyllgor fod y rôl hon wedi cael ei threialu o fewn y Tîm Cydnerthu Cymunedol yn ystod y misoedd diwethaf. Roedd y swyddogion hyn yn awr yn cael eu hadnabod fel ‘Eiriolwyr Ffordd o Fyw’ ac roeddent yn helpu i hybu iechyd ac i newid ymddygiad cysylltiedig ym mhob practis Meddyg Teulu ledled Sir Gaerfyrddin ac roeddent yn cael eu cynorthwyo trwy’r cynlluniau clwstwr a chyllid cysylltiedig.

 

Gofynnwyd a oedd Ymarferwyr Iechyd Meddwl Oedolion wedi’u cysylltu â thimau penodol ac a oedd disgwyl iddynt yn awr gymryd rhan yn y trefniadau wrth gefn 24 awr, fel y byddai disgwyl i ymarferwyr ei wneud yn y gorffennol. Dywedodd Pennaeth Dros Dro Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu wrth y Pwyllgor fod y 18 ymarferydd yn rhan o dimau ym Mharc y Ffynnon, Caerfyrddin a Heol Goring, Llanelli. Roedd eraill yn gysylltiedig ag is-dimau a oedd wedi’u lleoli yn rhannau gogleddol y sir. Fodd bynnag, roedd y gwasanaeth yn cael ei ad-drefnu ar hyn o bryd gyda golwg ar ail-alinio’r strwythurau rheoli. Ychwanegodd fod y prosiect peilot Ymarferwyr Iechyd Meddwl Oedolion 24 awr, a oedd yn defnyddio ymarferydd pwrpasol, wedi bod yn llwyddiannus iawn. Roedd trafodaethau’n parhau â staff yngl?n â datblygu trefniadau newydd a chan fod y rhain wedi cael eu datblygu yn y lle cyntaf mewn cydweithrediad â’r staff perthnasol, roedd yn hyderus y byddai’r trefniadau newydd yn cael eu mabwysiadu. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn am ailstrwythuro’r Tîm Pontio, cafodd y Pwyllgor ddiweddariad gan Bennaeth Dros Dro Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu yngl?n ag ail-alinio Timau Cymuned Caerfyrddin a Llanelli ar gyfer Anableddau Dysgu (CLTDs) a chryfhau’r Timau Gofal Tymor Hir a Reolir gyda chyfrifoldeb am oedolion ifanc 24-25 oed ar ôl iddynt symud ymlaen o Wasanaethau Plant. Roedd y gwaith hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y bobl ifanc hyn yn cyrraedd ac yn cyflawni eu llawn botensial. Dywedodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant Cymunedol) wrth y Pwyllgor fod y Tîm Cyfleoedd o’r Gwasanaeth Cynhwysiant Cymunedol yn ategu’r gwaith hwn trwy ddatblygu cynlluniau ffordd o fyw a llwybrau gyrfa â’r bobl ifanc hyn er mwyn osgoi sefyllfaoedd o argyfwng yn y tymor hir. 

 

Yn dilyn cwestiwn ar gomisiynu a chontractio Gwasanaethau Anableddau Dysgu, nododd Pennaeth Dros Dro Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu fod llawer o waith wedi’i wneud i ddatblygu cysylltiadau gweithio agosach rhwng comisiynu a rheoli gofal i helpu defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau ar gyfer oedolion ag anabledd dysgu ac oedolion ag anghenion iechyd meddwl. Cyfeiriodd at yr enghraifft o unigolyn ag anableddau dysgu, sy’n byw mewn llety â chymorth mewn awdurdod cyfagos ac sy’n cael gwasanaethau gan ddarparwr nad yw’n gyfarwydd â Sir Gaerfyrddin. Roedd gwaith gan y Tîm Comisiynu a Rheoli Gofal wedi galluogi’r unigolyn i ddychwelyd i Sir Gaerfyrddin a bod hynny nid yn unig wedi arwain at welliant yn ei iechyd a’i les ond roedd hefyd wedi sicrhau arbedion o £40,000 y flwyddyn o ganlyniad i’w symud. 

 

Er bod llawer o wasanaethau sector gwirfoddol ar gael i helpu pobl â phroblemau iechyd meddwl neu anableddau dysgu, cafwyd awgrym fod rhai unigolion yn cael eu colli neu nad oeddent yn cael y cymorth cywir ar gyfer eu hanghenion a bod peth dryswch yngl?n â’r hyn yr oedd mudiadau gwirfoddol yn ei ddarparu. Roedd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant Cymunedol) yn cydnabod y pryderon hyn a hysbysodd y Pwyllgor, yn dilyn y trafodaethau yn ei gyfarfod ym mis Medi 2015, bod swyddogion yn bwrw ymlaen â gwaith yn gysylltiedig â Chynllun Gweithredu Canolfan Cynhwysiant Economaidd Coleshill a bod digwyddiad ymgynghori’n cael ei gynnal ym mis Ionawr 2016 gyda swyddogion perthnasol, darparwyr gwasanaethau a chleientiaid, er mwyn mapio a chynllunio darpariaeth y dyfodol yn ofalus. Roedd adolygiadau contract hefyd wedi galluogi swyddogion i egluro pa wasanaethau oedd yn cael eu darparu ac i sicrhau nad oedd dim ymdrechion yn cael eu dyblygu.

 

Croesawyd agoriad Datblygiad Gofal Ychwanegol Cartref Cynnes yng Nghaerfyrddin a chafodd y gwasanaethau eu canmol. Yn dilyn awgrym gan y Cadeirydd, cytunodd y Pwyllgor i ymweld â’r cyfleusterau newydd yn y flwyddyn newydd. Croesawodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol y cynnig a’r cyfle i aelodau weld y datblygiad newydd drostynt eu hunain. 

 

PENDERFYNWYDfod yr adroddiad yn cael ei derbyn.

Dogfennau ategol: