Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2016/2017 TAN 2018/19

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y Strategaeth Cyllideb Refeniw 2016/17 hyd 2018/19 (Atodiad A) a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol i ddibenion ymgynghori yn ei gyfarfod ar 16 Tachwedd 2015. Dywedwyd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi setliad dros dro yn gynharach yr wythnos honno (9 Rhagfyr) ac y byddai Sir Gaerfyrddin yn gweld gostyngiad o 1% yn y gyllideb yn hytrach na’r 3.3% yr oedd y Strategaeth yn seiliedig arno. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn gwarchod cyllidebau ysgolion er nad oedd sicrwydd eto i ba raddau y byddai hynny’n digwydd. Roedd y Strategaeth yn seiliedig ar y dybiaeth na fyddai cyllidebau ysgolion yn cael eu gwarchod. I grynhoi, mae’n bosibl na fyddai angen y diffyg mewn arbedion effeithlonrwydd a bennwyd ar gyfer 2016/16; fodd bynnag, roedd cyflawni’r arbedion o £13.6m a nodwyd yn hanfodol. Byddai’r Dreth Gyngor yn codi 5% yn y Strategaeth ac roedd symudiad o 1% yn cyfateb i £760,000. Cafwyd trosolwg byr hefyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol o faes y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol.

 

Cafodd y materion canlynol eu trafod wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd sut yr oedd yr Awdurdod yn rhoi sylw i ysgolion â diffyg yn eu cyllideb. Dywedodd Pennaeth Dros Dro’r Gwasanaethau Ariannol wrth y Pwyllgor y byddai’n rhaid i ysgol mewn amgylchiadau o’r fath gynhyrchu cynllun i ddangos sut yr oedd yn bwriadu rhoi sylw i’r diffyg. Nododd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod cyllidebau ysgolion yn aml yn cael eu heffeithio gan ostyngiad yng nghymarebau disgyblion a’i bod yn hanfodol bod gan ysgolion drefniadau ariannol effeithiol a phriodol ar waith. Roedd gan yr Awdurdod bwerau i ymyrryd mewn rhai sefyllfaoedd. Mewn ymateb i gwestiwn ychwanegol ar yr ansicrwydd yngl?n â gwarchod cyllidebau ysgolion, dywedodd Pennaeth Dros Dro’r Gwasanaethau Ariannol fod Llywodraeth Cymru fel arfer yn weddol bendant yngl?n â sut yr oedd yn dymuno i gyllidebau gael eu gwarchod ac yn y blaen. Fodd bynnag, yn dilyn y cyhoeddiad diweddar, ni chafwyd canllaw pellach ar y mater. Roedd cyfarfod rhwng uwch swyddogion yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru wedi cael ei gynnal ac roedd trafodaethau pellach yn yr arfaeth er mwyn cael cytundeb ac eglurder ar y mater.

 

Gofynnwyd am eglurhad am y gostyngiad mewn grantiau i fudiadau gwirfoddol yn achos Gwasanaethau Pobl H?n ac Anableddau Corfforol ac Anableddau Dysgu. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol wrth y Pwyllgor fod y gostyngiad yn ganlyniad i’r ffordd yr oedd yr Awdurdod yn awr yn prynu darpariaeth gan y mudiadau hyn. Roedd yr Awdurdod yn awr yn symud tuag at gontractau yn y fan a’r lle, a oedd yn golygu talu am y gwasanaethau roedd wedi’u defnyddio’n hytrach na thrwy gontractau bloc ac roedd hynny’n ffordd llawer mwy effeithlon o gaffael gwasanaethau. Mewn ymateb i awgrym y gellid ymestyn y gostyngiadau dros gyfnod o dair blynedd, dywedodd Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu y gellid ystyried hynny ond dywedodd wrth y Pwyllgor fod rhai o’r gostyngiadau wedi bod yn yr arfaeth ers peth amser; ac un enghraifft o hynny oedd Clwb Gateway Llanelli a’r Cylch a fydd yn cau cyn hir. Roedd gostyngiadau eraill fel y £65,000 i Mencap wedi cael eu hymgorffori yn y cyllid grant y cytunwyd arno’n ddiweddar. Rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol nad oedd y gostyngiadau mewn grantiau’n golygu y byddai’r mudiadau a effeithid yn cau a’i fod yn rhan o ymgyrch effeithlonrwydd a bod swyddogion wedi bod yn cydweithio’n agos â’r grwpiau perthnasol. 

 

Gofynnwyd am eglurhad ar y cynnydd a wnaethpwyd i roi modelau gwasanaeth amgen ar waith ar gyfer Cartrefi Preswyl ar gyfer Pobl Hyn yr Awdurdod Lleol trwy allanoli’r gwasanaeth neu ddatblygu model Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol. Atgoffodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol y Pwyllgor fod hyn wedi cael ei gymeradwyo gan y Cyngor Sir ar ôl ystyried Gweledigaeth Sir Gaerfyrddin ar gyfer Gwasanaethau Cynaliadwy i Bobl H?n 2015-2025, yn ei gyfarfod ym mis Hydref 2015. Roedd cynllun busnes yn cael ei ddatblygu ar gyfer yr hyn a oedd yn gynnig cymhleth a byddai’n cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor yn ddiweddarach yn 2016. Mewn ymateb i gwestiwn arall, dywedodd y Cyfarwyddwr fod amrywiaeth o fodelau y gellid eu mabwysiadu yn ogystal â sawl rhyddid y gallai’r Awdurdod eu dirprwyo i’r endid hyd braich, a fyddai’n parhau fel y prif gyfranddaliwr. Sicrhaodd y Pwyllgor y byddai adroddiad manwl yn cyflwyno ystod o opsiynau i’r aelodau i’w hystyried.  

 

Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â’r rhesymau am y gostyngiad mewn lleoliadau mewn cartrefi preswyl yn y sector preifat, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig nad oedd y perfformiad Oedi Cyn Trosglwyddo Gofal yn golygu nad oedd yr Awdurdod Lleol yn darparu gofal cymdeithasol ac mai problemau iechyd yn aml oedd yn atal trosglwyddo pobl h?n o welyau ysbytai yn ôl i’w cartrefi neu ganolfannau preswyl eraill. Ychwanegodd fod y Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Trosglwyddo Gofal (TOCALS) yn gyfle gwirioneddol i weithio â staff ysbytai i hybu a gwella perfformiad yn y maes hwn. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi hysbysu Byrddau Iechyd ei bod yn disgwyl gweld gwelliannau mewn prosesau cynllunio i ryddhau cleifion. 

 

Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd yngl?n â’r cynnydd arfaethedig yng nghostau Prydau ar Glud, atgoffodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol y Pwyllgor nad oedd a wnelo’r cynnydd ddim â chau’r gwasanaeth ond ag adennill costau a sicrhau nad oedd arian i gyflenwi’r gwasanaeth hwn yn cael ei gymryd o feysydd gwasanaeth eraill. Atgoffodd y Cyfarwyddwr y Pwyllgor hefyd mai’r gwir oedd bod y galw am y gwasanaeth hwn yn newid yn sylweddol. Roedd llawer o unigolion, a arferai gael prydau yn eu cartref, yn awr yn prynu prydau wedi’u rhewi y maent yn gallu eu cynhesu ar unrhyw adeg o’u dewis. Roedd swyddogion yn awr yn gweithio â’r WRVS (Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol y Merched) a oedd wedi cael y dasg gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd i edrych sut y gellid gwella’r gwasanaeth i wneud mwy na dosbarthu prydau bwyd yn unig, gyda phwyslais arbennig ar atal unigrwydd.

 

Yn dilyn trafodaeth bellach ar y cynnydd arfaethedig mewn costau am Brydau ar Glud (Atodiad A) a Phrydau Cymunedol (Atodiad C), awgrymwyd y gellid edrych ar y posibilrwydd o gynyddu’r gost dros gyfnod o dair blynedd, yn hytrach na’i gyflwyno yn 2016/17. Cytunodd y Pwyllgor â’r cynnig hwn. 

 

Gofynnwyd a allai mudiadau gwirfoddol cenedlaethol mawr sy’n gweithredu yn y sir redeg gwasanaethau trwy is-gontractio trwy grwpiau lleol llai. Cydnabu Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod hyn yn un ffordd o ddiogelu a chefnogi grwpiau lleol llai a bod gan yr Awdurdod rôl i’w chwarae i sicrhau bod hyn yn cael ei gynnwys mewn unrhyw ymarferiad caffael. Fodd bynnag, gwelir yn aml fod grwpiau gwirfoddol yn gweld ei gilydd fel cystadleuaeth yn hytrach na mynd ati i gydweithio i gynnig y gwasanaethau gorau i breswylwyr y sir.

 

PENDERFYNWYD:

 

7.1       Derbyn y Strategaeth Cyllideb Gorfforaethol am 2016/17 – 2018/19.

 

7.2       Cadarnhau’r Crynhoad Taliadau ar gyfer yr Adran Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

7.3       Edrych ar yr opsiwn i ymestyn y cynnydd arfaethedig mewn Prydau ar Glud a Phrydau Cymunedol dros gyfnod o dair blynedd.

 

Dogfennau ategol: