Agenda item

BLAENORIAETH 3 Y PANEL - CRAFFU AR GYNLLUN YR HEDDLU A THROSEDDU - CAIS AM DYSTIOLAETH GAN GYNGOR SIR CAERFYRDDIN

Cofnodion:

Roedd y Panel am gael sicrwydd bod Cynllun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Chynllun yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Dyfed-Powys yn gyson â'i gilydd a'u bod yn hyrwyddo cydweithio rhwng gwasanaethau cyhoeddus ledled y wlad. Fel rhan o'r broses hon, gwahoddodd y Panel y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelwch Cymunedol, i ddod i'r cyfarfod er mwyn nodi barn y Cyngor ar y mater hwn. Rhoddodd Cefin Campbell dystiolaeth ar sawl cwestiwn a ofynnwyd gan y Panel:

 

1. P'un a yw'n credu bod angen adolygu'r Cynllun Heddlu a Throseddu o gwbl o ystyried natur newidiol y bygythiadau i'n cymunedau.

 

Adroddodd y Cynghorydd Campbell ei fod ar y cyfan yn fodlon bod y cynllun yn diwallu anghenion Sir Gaerfyrddin. Tynnodd sylw at y ffaith fod pedair prif flaenoriaeth y cynllun yn ymdrin â materion gweithredol mawr yn gysylltiedig â throsedd ac anhrefn yn yr ardal. Roedd yn croesawu ymrwymiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu i adolygu'r cynllun yn flynyddol, gan nodi y byddai hyn yn galluogi ymatebion digonol i fygythiadau sy'n newid yn gyflym. Awgrymodd y Cynghorydd y dylid canolbwyntio ar addasu materion gweithredol, a'i bod yn debygol y gellid cadw'r nodau strategol cyffredinol. Rhoddodd y Cynghorydd hefyd wybod i Aelodau'r Panel fod materion gweithredol yn cael eu hadolygu gyda mewnbwn gan bartneriaid (gan gynnwys y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus) yn rheolaidd, gan sicrhau bod adnoddau'n cael eu targedu ar sail yr angen cyfredol.

 

2. P'un a yw'n credu bod angen adolygu'r cynllun o gwbl er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn well â'r cynllun llesiant ar gyfer Sir Gaerfyrddin er mwyn sicrhau bod anghenion trigolion Sir Gaerfyrddin yn cael eu diwallu mor effeithiol â phosibl.

 

Dywedodd y Cynghorydd fod yna ddau bwynt cyfeirio perthnasol ar gyfer Sir Gaerfyrddin: Cynllun Llesiant Cyngor Sir Caerfyrddin a chynllun llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Nododd ei bod yn gadarnhaol nad oedd yr un o'r tri ar ddeg o amcanion llesiant a nodwyd yng nghynllun y Cyngor yn gysylltiedig â throsedd neu anhrefn, sy'n adlewyrchu'r cyfraddau cymharol isel o droseddau a gofnodir yn ardal Dyfed-Powys. Enwodd ddau o'r pedwar amcan allweddol yng nghynllun y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, sef Ymyrraeth Gynnar a Chysylltiadau Cryf, fel rhai sy'n ymwneud â throsedd ac anhrefn a thynnodd sylw at y ffaith fod y ddau amcan yn cael eu cydnabod yn y Cynllun Heddlu a Throseddu. Daeth y Cynghorydd i'r casgliad fod y Cynllun Heddlu a Throseddu yn cyd-fynd yn agos â'r cynlluniau llesiant.

 

Codwyd cwestiwn yngl?n ag a oedd y cynlluniau yn cyfeirio o gwbl at waith agos swyddogion yr heddlu â phobl â phroblemau iechyd meddwl. Tynnodd Cefin Campbell sylw at y ffaith fod nifer o'r amcanion cyffredinol yn y cynlluniau yn ymwneud â materion iechyd meddwl. Ychwanegodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod gan yr Heddlu seilwaith ar waith i fynd i'r afael â'r amcanion llesiant hyn, er enghraifft y Rhaglen Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, ar gyfer yr hon y derbyniodd arian gan Lywodraeth Cymru.

 

3. P'un a yw'n credu bod angen gwneud unrhyw newid i'r modd y mae'r Heddlu, y Cyngor a rhanddeiliaid sector cyhoeddus eraill yn cydweithio yn Sir Gaerfyrddin er mwyn helpu i roi'r Cynllun Heddlu a Throseddu ar waith mewn modd effeithiol.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd fod yna eisoes berthynas waith gref rhwng y sefydliadau yma, ac enghraifft o hyn oedd y ffaith fod y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn aelod o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Gan gyfeirio at ei rôl fel Cadeirydd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gâr, esboniodd y Cynghorydd fod y bartneriaeth yn ddiweddar wedi adolygu ei blaenoriaethau mewn gweithdy amlasiantaethol ar 27 Medi. Yng ngoleuni data a gwybodaeth newydd, a ddarparwyd yn bennaf gan yr Heddlu, bydd y bartneriaeth yn cyhoeddi'r blaenoriaethau wedi'u hadolygu fel a ganlyn yn ystod ei chyfarfod ar 23 Tachwedd: 

 

·         Cyffuriau Dosbarth A a Llinellau Sirol

·         Troseddau treisgar, gan gynnwys cam-drin domestig

·         Gwrthderfysgaeth

·         Seibrdroseddu

·         Camfanteisio'n rhywiol ar blant

Daeth y Cynghorydd i'r casgliad nad oes angen newid y trefniadau cydweithredol gyda'r Heddlu a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu gan fod y trefniadau presennol yn dda iawn.

 

4. P'un a yw'n credu bod angen adolygu Strategaeth Troseddau Gwledig y Comisiynydd o gwbl er mwyn sicrhau ei bod yn cyd-fynd yn well â'r cynllun llesiant ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

 

Ymatebodd y Cynghorydd trwy ddweud nad oedd angen adolygu'r Strategaeth Troseddau Gwledig gan fod y gwaith yr Heddlu a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn mynd i'r afael yn benodol ag anghenion ardaloedd gwledig yn unol â'r amcanion llesiant. Nododd y bydd adroddiad ar ddyfodol cymunedau gwledig, sydd i'w gyhoeddi ym mis Mawrth 2019, yn trafod rhai o'r materion hyn. Roedd y Cynghorydd hefyd yn croesawu penodiad y Swyddogion Troseddau Gwledig.

 

Cadarnhaodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod yr Heddlu yn cwrdd yn rheolaidd ag undebau amaethu i drafod materion sy'n effeithio ar ardaloedd gwledig, megis effaith beiciau modur a beiciau cwad ar gefn gwlad. Roedd yr Uned Troseddau Gwledig yn cael effaith gadarnhaol ar droseddau gwledig.

 

5. P'un a yw'n credu bod angen adolygu'r strategaeth troseddau gwledig o gwbl o ystyried natur newidiol y bygythiadau i'n cymunedau.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd ei gred nad oes angen adolygu'r Strategaeth Troseddau Gwledig gan fod y darpariaethau presennol a'r blaenoriaethau ar gyfer ardaloedd gwledig yn ddigonol. Dywedodd ei fod yn gefnogol i gynnal adolygiadau parhaus ar lefel weithredol.

 

6. P'un a fyddai'n dymuno gweld unrhyw newidiadau mewn perthynas â
dull y Comisiynydd o reoli ystâd yr Heddlu, gan gynnwys y cwestiwn yn ymwneud â lleoliad/adleoli gorsafoedd heddlu.

 

Awgrymodd y Cynghorydd mai adfywio canol trefi yw'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r problemau'n ymwneud ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol sydd i'w cael fwyaf yng nghanol trefi, er enghraifft trwy gyflwyno canolfannau gwasanaeth integredig. Mynegodd sawl aelod o'r Panel eu cefnogaeth i'r awgrym hwn, a rhoesant anogaeth i wahanol Gynghorau Sir gydweithio ar y mater.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r dystiolaeth gan y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelwch Cymunedol.

Dogfennau ategol: