Agenda item

CYNLLUN CYFLAWNI GWASANAETH 2018/19 - ADAIN DIOGELU'R AMGYLCHEDD

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn cynnwys Cynllun Cyflawni Gwasanaethau Diogelu'r Amgylchedd 2018/19. Roedd y Cynllun yn amlinellu nodau ac amcanion gwasanaeth y Cyngor gan ddarparu dolenni cyswllt i'r amcanion a'r cynlluniau corfforaethol.  Ynghlwm wrth yr adroddiad oedd Crynodeb Gweithredol o'r cynllun.

 

Roedd y Cynllun yn cynnwys cwmpas a gofynion Gwasanaethau Diogelu'r Amgylchedd ac yn dangos y gofynion a'r heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth a sut yr eid i'r afael â'r rhain mewn modd cadarnhaol yn 2018/19.

 

Nododd y Pwyllgor ei bod yn ofynnol gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i'r Adain Diogelu'r Amgylchedd lunio Cynllun Cyflawni Gwasanaethau blynyddol.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·    Mewn ymateb i ymholiad a wnaed mewn perthynas â monitro safleoedd sydd wedi llwyddo i gael sgôr 5 seren, eglurodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd fod y broses fonitro bresennol yn ei gwneud yn ofynnol i bob busnes â sgôr hylendid o 5 seren  gwblhau holiadur bob 3 blynedd gan fod y rhain yn safleoedd risg isel. Yn ogystal, gallai safleoedd risg isel gael archwiliad yn dilyn cwyn neu unrhyw reswm arall a allai olygu bod angen ail ymweliad.


 

·    Cyfeiriwyd at y rhaglen archwiliad sgoriau bwyd ar gyfer 2017/18 ar dudalen 13 y cynllun. Gwnaethpwyd cais am esboniad o'r categorïau A-E yn y tabl.  Eglurodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd fod safleoedd sy'n gorfod cael archwiliadau diogelwch bwyd yn destun asesiadau risg, a bod y categori asesiad risg yn y tabl yn dangos pa mor aml maent yn cael archwiliad a pha lefel. Eglurwyd bod categori A yn cynnwys busnesau â'r sgôr hylendid bwyd isaf, yr oedd yn rhaid ymweld â nhw bob 6 mis, ac mai dim ond bob 3 blynedd yr oedd angen  ymweld â rhai Categori E sef y sgôr hylendid bwyd uchaf.

 

·    Cyfeiriwyd at y cynnydd yn nifer yr adroddiadau o dipio anghyfreithlon, fel y dangosir yn y graff ar dudalen 28 y cynllun.  Gofynnwyd ai cau canolfannau ailgylchu oedd y rheswm dros hyn, gan achosi cynnydd mewn cwynion cyhoeddus. Eglurodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd mai achosion o dipio anghyfreithlon ar dir preifat yn unig oedd nifer y cwynion a gofnodwyd yn y graff. Yn ogystal, er nad oedd unrhyw dystiolaeth ar hyn o bryd i awgrymu bod cau canolfannau ailgylchu yn cyd-daro â'r cynnydd, byddai hyn yn cael ei fonitro wrth i ragor o dystiolaeth gael ei chasglu.

 

·    Cyfeiriwyd at yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer a nodwyd ar dudalen 23 y cynllun. Gofynnwyd ai gweithio gyda chydgysylltwyr Eco-ysgolion lleol mewn Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer oedd y dull gorau o gynyddu ymwybyddiaeth o ansawdd aer gwael. Eglurodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd mai'r bwriad oedd gweithio tuag at addysgu plant; rhywbeth a fyddai yn ei dro yn addysgu'r rhieni. Roedd mentrau eraill ar waith yn cynnwys cysylltiadau â'r elusen 'Walkstreets', y gelid codi arian ar ei chyfer drwy ddefnyddio ap ffôn symudol a system sgorio pwyntiau. Roedd y drefn hon ar waith yn ysgol gynradd Tre Ioan.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd mai'r gobaith oedd gwella ansawdd aer ar gyfer y dyfodol drwy addysg a gweithio gydag ysgolion er mwyn annog pobl i newid eu hymddygiad, ynghyd â Pholisi Cenedlaethol i wella cynlluniau teithio.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fod ysgolion yn cael eu hannog, gyda chymorth tîm Diogelwch Ffyrdd y Cyngor, i lansio 'bws cerdded' a oedd yn fodd diogel i blant deithio i'r ysgol gan leihau nifer y cerbydau wrth gatiau'r ysgol, sy'n achosi problem o ran diogelwch a'r amgylchedd. Anogwyd yr holl Gynghorwyr i ystyried yr opsiwn hwn ar gyfer yr ysgolion yn eu hardaloedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL gymeradwyo Cynllun Cyflawni Gwasanaeth – Diogelu'r Amgylchedd 2018/19.

 

 

Dogfennau ategol: