Agenda item

RHEOLI TRAFFIG MODUR AR HAWLIAU TRAMWY CYHOEDDUS

Cofnodion:

(SYLWER: Roedd y Cynghorwyr A. James, A. Davies, T. Evans, J.A. Davies a B.D.J. Phillips wedi datgan buddiant personol yn yr eitem agenda hon ond bu iddynt aros yn eu seddau tra rhoddwyd ystyriaeth i'r eitem hon.)

 

Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mehefin, 2018, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i awgrym gan Gyngor Cymuned Myddfai o ran Pwnc Trafod i'r Pwyllgor Craffu (gweler Cofnod 11) lle derbyniodd y Pwyllgor yr awgrym a gofyn am i adroddiad gael ei gyflwyno i'w ystyried.

 

Yn unol â'r argymhelliad hwnnw, daeth adroddiad i law'r Pwyllgor am Reoli Traffig Modur ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus, a oedd yn amlinellu sut mae tîm Mynediad i Gefn Gwlad y Cyngor yn rheoli ar hyn o bryd y defnydd gan Gerbydau Modur o rwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus y Sir.

 

Nododd y Pwyllgor y gwnaed cais am yr awgrym gan Gyngor Cymuned Myddfai yn dilyn adroddiadau rheolaidd am ddefnydd anghyfreithlon o lwybrau troed a llwybrau ceffylau gan feiciau modur a cherbydau 4x4 yn ardal Myddfai.  Roedd y Cyngor Cymuned wedi rhagweld y gallai dulliau o fonitro a rheoli'r broblem ddeillio o adolygu'r mater.

 

Roedd yr adroddiad yn amlygu'r broblem o ddefnydd anghyfreithlon o'r rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn y sir gan gerbydau modur a'r camau a gymerwyd gan yr Awdurdod er mwyn atal hynny.

 

Codwyd yr ymholiadau canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

·    Gofynnwyd pwy fyddai'n atebol pe bai damwain ar Hawl Dramwy Gyhoeddus?  Eglurodd y Swyddog Mynediad i Gefn Gwlad, yn achos Cilffyrdd sydd ar agor i unrhyw Draffig, mai'r Awdurdod fyddai'n atebol petai prawf mai diffyg o ran yr wyneb oedd achos y ddamwain. Fodd bynnag yn achos Llwybrau Ceffylau a Llwybrau Troed, yn aml rhennir cyfrifoldeb dros yr wyneb gan fod yr Hawliau Tramwy Cyhoeddus hyn yn aml yn dilyn traciau fferm presennol. Dan yr amgylchiadau hyn byddai'r hawliad cychwynnol fel arfer yn dod i law'r Awdurdod, a fyddai wedyn, yn dibynnu ar achos y ddamwain, yn ei gyfeirio i'r tirfeddiannwr er mwyn i yswiriant atebolrwydd cyhoeddus roi sylw iddo.

·    Mewn ymateb i ymholiad ynghylch lled cyfreithiol Hawl Dramwy Cyhoeddus, dywedodd y Swyddog Mynediad i Gefn Gwlad fod lled Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn cael ei gofnodi o bryd i'w gilydd yn y Datganiad Diffiniol, gan roi cofnod cyfreithiol o led Hawliau Tramwy Cyhoeddus unigol. Fodd bynnag, nid felly y mae yn aml iawn. Os nad oes unrhyw gofnod cyfreithiol ar gael, nodir y lled ffisegol arferol ac fe'i defnyddir i ddiffinio lled y llwybr. Os nad oes unrhyw ffiniau ffisegol neu nodweddion yn bodoli i ddiffinio lled arferol, mae'r holl gofnodion ysgrifenedig a mapiau sydd ar gael yn cael eu hadolygu er mwyn gweld beth yw lled cyfreithiol Hawl Dramwy Gyhoeddus.

 

·    Gofynnwyd a allai ffermwyr wneud cais am gau Hawl Dramwy Gyhoeddus dros dro yn ystod y tymor wyna? Eglurodd y Swyddog Mynediad i Gefn Gwlad nad oes unrhyw ddarpariaeth o dan y ddeddfwriaeth sydd ar gael i gau Hawliau Tramwy Cyhoeddus at ddibenion wyna. Fel arfer, byddai'r ffermwyr yn rheoli'r cyfnod wyna drwy ddefnyddio ffensys ac arwyddion priodol. At hynny, ar gais efallai y gall yr Awdurdod gyfrannu drwy ddarparu arwyddion i ffermwyr oddi wrth Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr.

 

·      Yn dilyn sylw a wnaed ynghylch yr anawsterau o ran plismona ac erlyn pobl mewn perthynas â Hawliau Tramwy Cyhoeddus, gwnaed ymholiad ynghylch y defnydd o deledu cylch cyfyng. Dywedodd y Swyddog Mynediad i Gefn Gwlad er na fyddai'r Awdurdod Lleol yn gallu gosod camerâu teledu cylch cyfyng ar dir preifat, gadewid i dirfeddianwyr osod eu camerâu teledu cylch cyfyng eu hunain.  Fodd bynnag, y cyngor a roddid i dirfeddianwyr oedd cysylltu â'r Awdurdod i gael y cyngor cyfreithiol mwyaf cyfredol cyn gosod unrhyw system teledu cylch cyfyng.

 

·      Gofynnwyd sut y byddai tirfeddiannwr yn gwybod a oedd Hawl Dramwy Gyhoeddus yn croesi ei dir?  Eglurodd y Swyddog Mynediad i Gefn Gwlad fod y Datganiad a'r Map Diffiniol (DMS) yn cael eu cadw yn swyddfa'r tîm Mynediad i Gefn Gwlad. Y DMS yw'r cofnod cyfreithiol pendant o'r holl Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn y sir a gall unrhyw dirfeddiannwr gysylltu â'r tîm Mynediad i Gefn Gwlad, a fyddai'n gallu cadarnhau aliniad a statws unrhyw Hawl Dramwy Gyhoeddus sy'n effeithio ar ei dir.

 

·      Mewn ymateb i ymholiad pellach ynghylch yswiriant ac atebolrwydd, eglurodd y Swyddog Mynediad i Gefn Gwlad fod gan yr Awdurdod gyfrifoldebau cynnal a chadw statudol mewn perthynas â wyneb Hawliau Tramwy Cyhoeddus, sy'n cael eu rhannu o bryd i'w gilydd fel yr esboniwyd eisoes. Yn gyfreithiol, cyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw'r holl gelfi sydd ar hawliau tramwy cyhoeddus e.e. camfeydd a gatiau, ac mae rhwymedigaeth ar yr Awdurdod i gyfrannu 25% tuag at gost cynnal a chadw celfi. Tan yn ddiweddar, gan fod mwy o adnoddau a chyllid allanol ar gael ar y pryd, mae'r Awdurdod, i raddau helaeth, wedi talu am gost gosod celfi ar ran y tirfeddiannwr. Mae hyn wedi helpu i agor y rhwydwaith, cynnal perthynas dda â thirfeddianwyr, a sicrhau bod celfi hygyrch o ansawdd da yn cael eu gosod. Gan fod newid o ran yr adnoddau sydd ar gael, mae hyn yn annhebygol o barhau ac mae'n bosibl y bydd yn rhaid i'r awdurdod gydymffurfio â'i gyfrifoldebau cynnal a chadw statudol yn unig.

 

·      Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Swyddog Mynediad i Gefn Gwlad mai Hawl Dramwy Gyhoeddus yw'r term cyfreithiol sy'n cwmpasu llwybrau troed, llwybrau ceffylau, cilffyrdd sydd ar agor i unrhyw draffig, a chilffyrdd cyfyngedig.  Hefyd, er bod y term 'Lonydd Gwyrdd' yn cael ei ddefnyddio'n gyffredin fel term disgrifiadol, yn gyfreithiol nid oedd yn bodoli.

 

·      Mewn ymateb i bryder a godwyd yngl?n â diffyg cyllid i reoli hawliau tramwy cyhoeddus, eglurodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd mai dim ond ynghylch ei feysydd cyfrifoldeb ei hun y gallai'r Awdurdod lobïo Llywodraeth Cymru. Yn yr un modd, os oedd problem o ran tir preifat, y tirfeddiannwr yn unigol fyddai'n gyfrifol am ofyn am unrhyw gyllid ychwanegol drwy ysgrifennu at Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad am Reoli Traffig Modur ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus.


 

 

Dogfennau ategol: