Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD EDWARD THOMAS I'R CYNGHORYDD JANE TREMLETT, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS GOFAL CYMDEITHASOL & IECHYD

“Yn ddiweddar, gwnes fynychu cyfarfod â chi i drafod y posibilrwydd o wneud Llandeilo yn Dref sy'n Cefnogi Pobl â Dementia. A oes modd ichi roi diweddariad i mi a'm cyd-aelodau ynghylch y posibilrwydd o wneud Sir Gaerfyrddin yn Sir sy'n Cefnogi Pobl â Dementia."

 

Cofnodion:

“Yn ddiweddar, gwnes fynychu cyfarfod â chi i drafod y posibilrwydd o wneud Llandeilo yn Dref sy'n Cefnogi Pobl â Dementia. A oes modd ichi roi diweddariad i mi a'm cyd-aelodau ynghylch y posibilrwydd o wneud Sir Gaerfyrddin yn Sir sy'n Cefnogi Pobl â Dementia."

 

Ymateb y Cynghorydd J. Tremlett, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd:-

 

“Mae creu Sir Gaerfyrddin yn Sir sy'n Cefnogi Pobl â Dementia yn uchel ar yr agenda strategol, ac mae gwaith eisoes yn digwydd yn Llanelli, Rhydaman, Llanymddyfri ac yn fwy diweddar Talacharn, Sanclêr, Hendy-gwyn a'r ardaloedd cyfagos.  Yr ardal hon yw'r ardal fwyaf gwledig yng Nghymru sy'n gweithio tuag at fod yn gymuned sy'n cefnogi pobl â dementia. Mae sefydlu strwythur lleol yn allweddol i lwyddiant a chynaliadwyedd creu cymuned sy'n cefnogi dementia, a Chynghrair Gweithredu Dementia Lleol neu gr?p tebyg yw'r model a argymhellir i'ch galluogi i ddod ag unigolion, sefydliadau a busnesau lleol at ei gilydd, gan rannu'r un amcanion i helpu'r gymuned i fod yn fwy cefnogol tuag at bobl â dementia.

 

Mae'r Gr?p Cynghrair Gweithredu Dementia Lleol yn gasgliad o randdeiliaid sydd wedi'u dwyn at ei gilydd i helpu i wella bywydau pobl sydd â Dementia yn eu hardal.  Fel arfer maent yn cynnwys Cynghorwyr Sir, Cynghorwyr Tref a Chymuned, yr Heddlu, Ambiwlans, y Gwasanaeth Tân, Meddyg Teulu, Busnesau, Awdurdodau Lleol, grwpiau cymunedol, y Bwrdd Iechyd ac aelodau o'r cyhoedd i enwi ond rhai. Dyma'r model a fabwysiadwyd pan fydd cynrychiolydd o'r Awdurdod Lleol wedi cysylltu ag ardal ynghylch bod yn un sy'n cefnogi dementia.

 

Ar y cyd â Chynllun Gweithredu Dementia ar gyfer Cymru 2018-2022, mae'r awdurdod lleol wedi ymrwymo i greu Sir Gaerfyrddin sy'n cefnogi dementia. Er mwyn gwneud hynny, mae angen staff arnom i gefnogi'r fenter ac yn ddiweddar rydym wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i gyflogi staff sy'n arbenigo mewn dementia. Mae'r rhain yn cynnwys gweithwyr allweddol dementia ym mhob ardal a staff cydnerthu cymunedol, unwaith eto ym mhob ardal. Bydd hyn yn ein galluogi i gefnogi mwy o gymunedau er mwyn cyrraedd y nod.  Mae'n bwysig nodi nad ydych byth mewn gwirionedd yn dod yn gymuned sy'n cefnogi dementia, ond rydych bob amser yn gweithio tuag at ddod yn gymuned sy'n cefnogi dementia, fel y nodwyd yn y meini prawf ar gyfer cofrestru gyda'r Gymdeithas Alzheimer. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y cymunedau eu hunain yn parhau i ymrwymo i'r rhaglen.  Mae Talacharn, Sanclêr, Hendy-gwyn a'r ardaloedd cyfagos yn cynnal eu lansiad ar 1 Chwefror 2019.  Mae'r gwaith wedi bod yn mynd rhagddo dros y flwyddyn ddiwethaf, ond mae'r lansiad yn brawf ffurfiol o'r gwaith hwnnw gan Gymdeithas Alzheimer.  Y bwriad ar noson y lansio yw pasio'r baton i dref Caerfyrddin a thref Llandeilo.

 

I gloi, rydym eisoes yn gweithio tuag at ddod yn Sir Gaerfyrddin sy'n Cefnogi Dementia, ond mae angen i ni wneud hyn yn y ffordd gywir er mwyn cael cydnabyddiaeth gan Gymdeithas Alzheimer drwy ddilyn y saith maen prawf a nodir yn y meini prawf sylfaenol ar gyfer prosesau cydnabod cymunedau sy'n cefnogi dementia.”