Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2015/2016 TAN 2017/18

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2016/17 - 2018/19 (Atodiad A) a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 16eg Tachwedd 2015. Rhoddodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Ariannol wybod i'r cyfarfod fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r setliad dros dro yn gynharach yr wythnos honno (9fed Rhagfyr), ac y byddai cyllideb Sir Gaerfyrddin 1% yn llai yn hytrach na 3.3% yn llai sef y ganran yr oedd y Strategaeth wedi ei seilio arni. Er y byddai'r setliad yn golygu bod Sir Gaerfyrddin yn cael £7.5m yn ychwanegol, byddai'r rhan fwyaf o'r cyllid ychwanegol hwn yn cael ei ddefnyddio i gyllido gofynion eraill megis y diffyg o ran arbedion effeithlonrwydd a'r Cynnig Cyflog i'r Gweithwyr yr oeddid wedi cytuno arno'n ddiweddar. Ychwanegodd nad oedd gwybodaeth ar gael hyd yn hyn ynghylch i ba raddau y byddai Llywodraeth Cymru yn diogelu cyllidebau'r ysgolion, er bod Strategaeth y Cyngor wedi ei seilio ar y rhagdybiaeth na fyddai cyllidebau'r ysgolion yn cael eu diogelu o gwbl. Hefyd yr oedd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a'r Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd wedi rhoi golwg gyffredinol gryno ar eu meysydd gwasanaeth.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch y setliad, a gofynnwyd a fyddai'r symiau yn strategaeth y gyllideb yn newid ac, os felly, oni fyddai hynny'n peri bod ystyried yr adroddiad yn amherthnasol. Cyngor pendant Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Ariannol i'r Pwyllgor oedd ystyried yr arbedion effeithlonrwydd arfaethedig a'r crynoadau taliadau a rhoi sylwadau arnynt, gan fod gweithredu'r arbedion effeithlonrwydd yn hanfodol a bod angen cadarnhau'r rhain yn y Flwyddyn Newydd. Byddai gohirio ystyried yr adroddiad yn golygu na fyddai digon o amser ar gael i wneud hynny.

 

Gan gyfeirio at Is-adran Polisi a Pherfformiad Adran yr Amgylchedd gofynnwyd oni ddylai'r isadran honno hefyd, sef swyddogaeth weinyddol a oedd yn costio mwy na £900,000, fod yn gweithredu arbedion effeithlonrwydd sylweddol ar adeg pan oedd gwasanaethau rheng flaen yn cael eu lleihau neu'u torri. Atgoffwyd y Pwyllgor gan Gyfarwyddwr yr Amgylchedd y byddai bob amser angen swyddogaeth swyddfa gefn er mwyn galluogi'r adran i weithredu'n llwyddiannus. Fodd bynnag yr oedd cyfleoedd bob amser i sicrhau bod swyddogaethau o'r fath yn fwy effeithiol, a byddid yn rhoi sylw i hynny fel rhan o fentrau corfforaethol eraill i aildrefnu gwasanaethau, systemau ac isadeiledd swyddfa gefn.

 

Awgrymwyd bod croesddweud o ran y wybodaeth oedd wedi ei chyflwyno yn yr adroddiad ynghylch goleuadau cyhoeddus a'r wybodaeth oedd wedi ei rhoi i'r aelodau yn y sesiwn gan Adran yr Amgylchedd ynghylch cyllideb yr adran yn gynharach yr wythnos honno. Honnwyd bod yr adroddiad yn datgan taw'r bwriad oedd lleihau'r costau gweithredu heb ddiffodd goleuadau, ond bod y wybodaeth yn y seminar yn datgan bod posibilrwydd na fyddai'r arbedion angenrheidiol yn deillio o hynny gan olygu bod y system goleuadau cyhoeddus yn cael ei diffodd yn llwyr. Eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Stryd y byddid, yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, yn defnyddio'r cyllid Buddsoddi er mwyn Arbed gan Lywodraeth Cymru i osod goleuadau LED ac amseryddion fel bo'r goleuadau yn goleuo am ran o'r nos yn unig. Yna byddid yn gwerthuso'r cynllun er mwyn cloriannu ei lwyddiant mewn perthynas â'r canlyniadau disgwyliedig. Ychwanegodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod yr achos busnes yn seiliedig ar wireddu'r arbedion, ond byddai gwerthusiad yn ofynnol o hyd ar ôl dwy flynedd.

 

Gofynnwyd a fyddai'r system ceir adran yn rhoi bod i £200,000 o arbedion pe na byddai'r adrannau eraill yn ymuno â'r cynllun, a gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y byddid yn monitro'r ceir adran er mwyn atal camddefnydd ohonynt. Rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg wybod i'r Pwyllgor fod lleihad sylweddol wedi bod o ran y milltiroedd a deithid gan y staff yn ystod y flwyddyn bresennol. Ychwanegodd taw'r bwriad oedd gweithredu cynllun ceir adran ym mhob adeilad/safle ar draws yr Awdurdod er mwyn helpu i gyrraedd y targed o ran yr arbedion, a byddai hyn yn effeithio ar yr holl adrannau. Yr oedd yr achos busnes yn cynnwys cynllun i osod dyfeisiadau olrhain fyddai'n gysylltiedig â'r System Leoli Fyd-eang ar y ceir er mwyn monitro perfformiad, a byddai angen monitro'r milltiroedd. Ychwanegodd fod dyfeisiadau olrhain wedi eu gosod eisoes ar ryw 75% o fflyd bresennol yr Awdurdod.

 

Cyfeiriwyd at y cynnig i godi tâl am gludiant ar ôl 16 oed, ac awgrymwyd na ddylid cynnwys y mater hwn yn yr adroddiad ynghylch y gyllideb cyn cael gwybodaeth am gasgliadau'r ymgynghoriad diweddar. Atgoffwyd y Pwyllgor gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros y Gwasanaethau Technegol fod y mater hwn wedi ei gynnwys yn y cynigion gan fod y Cyngor Sir wedi ei gymeradwyo fel rhan o gyllideb 2015/16 yn Chwefror 2015. Yr oedd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg yn cydnabod teimladau'r aelodau etholedig ynghylch y mater hwn ond atgoffodd y Pwyllgor fod y swyddogion yn ceisio cynnal y gwasanaeth am dâl bychan o ryw £5.60 yr wythnos. Ychwanegodd y byddid, yn sgil cynnal ymgynghoriad helaeth, yn rhoi adroddiad gerbron yr aelodau etholedig maes o law. Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd pe na byddid yn cyflwyno'r tâl hwn, byddai angen dod o hyd i £516,000 i gyllido'r bwlch. Gallai hynny beri bod y gwasanaeth yn cael ei waredu yn ei gyfanrwydd. Yr oedd y cynnig dan sylw yn ceisio osgoi hynny.

 

Awgrymwyd bod a wnelo'r cynigion ynghylch y gyllideb flynyddol â'r hyn yr oedd y Cyngor yn dymuno ei weld yn hytrach na'r hyn yr oedd ei angen ar y trigolion, ac nad oedd dim cyfeiriad at gyfleoedd i greu incwm. Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod cynigion ynghylch creu incwm ymhlith y cynigion, a bod hynny’n ddewis y dylid rhoi rhagor o ystyriaeth iddo. 

 

Gofynnwyd pa ddewisiadau oedd gan ysgolion a oedd yn wynebu nid yn unig doriadau i'w cyllidebau ond hefyd colli eu hebryngwyr croesfannau. Atgoffwyd y Pwyllgor gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros y Gwasanaethau Technegol fod asesiadau'n cael eu cynnal yn achos yr holl ysgolion, a lle'r oeddid yn barnu bod ffordd yn ddiogel ac nad oedd angen hebryngwr, ni fyddai'r cyfryw swydd yn cael ei hysbysebu. Fodd bynnag ni fyddid yn gwaredu'r hebryngwyr croesfannau presennol. Rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg wybod i'r Pwyllgor y byddai'r Awdurdod yn gwneud ei orau bob amser i recriwtio yn achos swydd wag. Os oedd anawsterau wedi bod o ran darparu gwasanaeth adeg absenoldeb oherwydd salwch neu wyliau, yr oeddid wedi cysylltu â'r ysgolion a Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu er mwyn cael cymorth.  Gan ymateb i awgrym ychwanegol ynghylch y gallai staff addysgu ymgymryd â dyletswyddau hebryngwyr, cadarnhaodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg y byddai yswiriant yr Awdurdod yn indemnio'r cyfryw staff pe byddai'n ofynnol iddynt wneud y cyfryw ddyletswydd ar ran yr Awdurdod. Ychwanegodd y gallai aelodau lleol, pe dymunent, dderbyn asesiadau'r safleoedd perthnasol (templed asesu gan y Gymdeithas Frenhinol Er Atal Damweiniau).

 

Mynegwyd pryder ynghylch effeithiau cynhesu byd-eang a chyfeiriwyd at y llifogydd yn Cumbria yn ddiweddar. Awgrymwyd hefyd y gallai prinder cerbydau arbenigol ar gyfer cynnal a chadw cwteri a chwlferi ac ar gyfer eu gwacáu roi bod i lifogydd diangen mewn rhannau o'r sir. Eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Stryd y byddai'r cynigion yn yr adroddiad yn effeithio ar wneud gwaith o'r newydd, ond ychwanegodd fod gwaith wedi ei wneud dros y 10-15 mlynedd diwethaf i wella llawer o'r isadeiledd amddiffyn rhag llifogydd yn y sir fel ei fod yn unol â'r safonau modern. Byddid yn dal i roi blaenoriaeth i'r gwaith cynnal a chadw arferol o ran yr amddiffynfeydd presennol, a byddai datblygu cynlluniau perygl llifogydd ymhellach yn galluogi'r Awdurdod i dargedu adnoddau lle bo'r angen.  

 

Gofynnwyd a fyddai'r adolygiad gorchwyl a gorffen presennol o'r taliadau am barcio ceir yn effeithio mewn unrhyw fodd ar y cynnydd arfaethedig o 20 ceiniog o ran taliadau parcio, a oedd wedi amlinellu yn yr adroddiad. Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros y Gwasanaethau Technegol fod hyn hefyd wedi ei gynnwys yn y cynigion oedd wedi eu cymeradwyo gan y Cyngor Sir fel rhan o gyllideb 2015/16. Dywedodd ei bod hi wedi gofyn, pan dderbyniodd gyfrifoldeb dros ei phortffolio, am beidio â gweithredu hyn yn ystod 2015/16 gan aros i'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen gyflwyno ei gynigion.

 

Mynegwyd pryderon difrifol ynghylch cyflwr ffyrdd a phontydd y sir, ynghylch y gwaith oedd yn aros i'w wneud gan yr Awdurdod, ac ynghylch y perfformiad gwael o hyd o ran y prif ddangosyddion perfformiad. Hefyd awgrymwyd y gallai'r Awdurdod wynebu cyfreitha oherwydd bod yr isadeiledd yn cael ei gynnal a'i gadw'n wael, a gofynnwyd pryd y byddai'r sesiwn datblygu ynghylch dynladdiad corfforaethol, yr oeddid wedi gofyn amdano mewn cyfarfod blaenorol, yn cael ei gynnal i'r aelodau etholedig. Bu i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros y Gwasanaethau Technegol gydnabod y pryderon hyn ond atgoffodd y Pwyllgor taw gan Sir Gaerfyrddin oedd y rhwydwaith priffyrdd hiraf ond un yng Nghymru. Dywedodd ei bod yn ymddangos bod cwtogi ar y gwasanaethau priffyrdd ond ychwanegodd fod y swyddogion yn ceisio gweithio mewn modd mwy effeithiol ac effeithlon er mwyn lleihau'r effeithiau ar y gwasanaethau rheng flaen hyn. Rhoddodd yr Ymgynghorydd Cynorthwyol wybod i'r Pwyllgor fod y cais am sesiwn datblygu wedi ei gynnwys yn y rhaglen datblygu ar gyfer yr aelodau etholedig ond nad oedd dyddiad wedi ei bennu'n derfynol. Cytunodd i gael gwybodaeth bendant ynghylch hyn gan yr Uned Dysgu a Datblygu.  

 

Gan ymateb i gwestiwn ynghylch yr ymarfer tendro o ran y gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn y dyfodol, rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Stryd wybod i'r Pwyllgor fod llawer iawn o waith wedi ei wneud hyd yn hyn, yn enwedig ar y cyd â Gwasanaethau Cyfreithiol yr Awdurdod. Er na ellid datgelu rhagor o fanylion ar hyn o bryd, yr oedd y contract dros dro gyda CWM Environmental yn dal i fod mewn grym, a rhoddodd sicrwydd i'r aelodau fod cynnydd yn cael ei wneud o ran y gwaith cwmpasu a pharatoi gyda golwg ar ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer y drafodaeth ynghylch y ffordd orau o ymdrin â hyn yn y dyfodol.

 

Mynegwyd pryder ynghylch y lleihad posibl o 25% o ran y Grant Rheoli Gwastraff yn Gynaliadwy ac ynghylch effaith hynny ar allu'r Awdurdod i fodloni disgwyliadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â lleihau gwastraff a chynyddu ailgylchu. Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Ariannol yr oeddid yn rhagweld ar un adeg y byddai'r lleihad yn 25% ond bod bellach awgrym y gallai'r lleihad fod yn 6.5% (rhyw £250,000) yn achos Sir Gaerfyrddin.

 

Awgrymwyd bod y wybodaeth oedd wedi ei darparu ynghylch y gorsafoedd pwmpio yn Atodiad A(ii) yn annigonol a gofynnwyd am ragor o fanylion. Rhoddodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd wybod i'r Pwyllgor fod ei swyddogion wedi bod yn trafod â D?r Cymru yn y cyfamser, a'u bod wedi cael ar ddeall y byddai D?r Cymru yn gwneud y gwaith ar ran yr Awdurdod. Golygai hyn na fyddai'r gwasgfeydd mor fawr mwyach. Yr oedd y trafodaethau'n cael eu cynnal o hyd ond byddai'r Pwyllgor yn cael rhagor o fanylion maes o law.

 

Gofynnwyd pam yr oedd yr Awdurdod yn dal i gyllido'r gwasanaeth teledu cylch cyfyng gan fod yr aelodau wedi cael ar ddeall bod y gwasanaeth wedi gorffen. Atgoffodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol y Pwyllgor fod y Bwrdd Gweithredol wedi penderfynu rhoi'r gorau i fonitro'r camerâu yn 'fyw' ond ei fod wedi ymrwymo i gyllido'r costau oedd ynghlwm wrth weithredu'r camerâu, sef y trydan a'r dolenni cyswllt. Yr oedd yr Heddlu'n gallu adolygu'r hyn oedd wedi ei recordio gan y camerâu petai angen hynny mewn perthynas â digwyddiad penodol. Fodd bynnag nid oedd penderfyniad wedi ei wneud hyd yn hyn ynghylch cyfraniad yr Heddlu yn y dyfodol, gan fod adolygiad ar waith gan yr Heddlu ynghylch defnyddio'r systemau teledu cylch cyfyng yn y dyfodol. Nid oedd gan yr Awdurdod unrhyw gytundebau contractiol gyda gwneuthurwyr/cyflenwyr y camerâu, ond yr oedd cytundeb cyfreithiol yn cael ei lunio rhwng yr Awdurdod a'r Heddlu er mwyn rhoi gwedd gliriach ar rolau, cyfrifoldebau a chyfraniad ariannol y naill a'r llall yn y dyfodol.

 

Cyfeiriwyd at y cynnydd o ran ffioedd trwyddedau gan yr oeddid wedi nodi mewn cyfarfod blaenorol y byddai'r rhain yn cael eu hadolygu. Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod rheidrwydd ar yr Awdurdod, yn sgil sialensiau cyfreithiol oedd wedi eu dwyn yn flaenorol yn erbyn awdurdodau eraill, i bennu ffioedd oedd yn cyfateb i gost y gwaith yn unig ac nad oedd caniatâd iddo wneud elw. Hefyd bu iddi atgoffa'r Pwyllgor taw hyn oedd dan sylw yn yr eitem nesaf ar yr agenda.

 

Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch y rhagolwg o ran cyllido gwasanaeth Bwcabus yn y dyfodol. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg fod y gwasanaeth yn un blaenllaw a bod trafodaethau ar waith gyda Llywodraeth Cymru ynghylch sicrhau bod cyllid ar gael yn y dyfodol. Hefyd yr oedd adroddiad manwl yn cael ei lunio ar gyfer y gweinidog perthnasol.

 

Gan ymateb i gwestiwn ynghylch ffioedd caeau chwaraeon, rhoddodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros y Gwasanaethau Technegol wybod i'r Pwyllgor y byddai cyfarfod ym mis Ionawr rhwng ei swyddogion a chynrychiolwyr clybiau chwaraeon. Credai hi fod cytundebau wedi eu llunio gyda'r rhan fwyaf o'r clybiau er bod rhywfaint o anawsterau yn achos rhai clybiau lle'r oedd nifer yr aelodau yn lleihau (e.e. clybiau bowlio lawnt).   

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oedd costau archwiliadau gan filfeddygon yn gynwysedig yn y ffioedd arfaethedig ar gyfer busnesau magu c?n a marchogaeth. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd ei bod yn bosibl fod contractau penodol mewn grym gyda rhai milfeddygon ar gyfer y gwasanaethau hyn ond byddai hi'n cadarnhau'r sefyllfa er gwybodaeth i'r Pwyllgor. 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: