Agenda item

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H.A.L. Evans a P.M. Hughes.

 

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad i’r Bwrdd am yr hyn oedd wedi digwydd mewn perthynas â Storm Callum. Sir Gaerfyrddin ddioddefodd waethaf yn sgil y storm a gwelwyd y llifogydd mwyaf difrifol ers mwy na 30 mlynedd.

 

Cydymdeimlwyd â theulu Corey Sharpling a fu farw mewn digwyddiad trasig ar yr A484 yng Nghwmduad, rhwng Caerfyrddin ac Aberteifi, yn ystod Storm Callum.

 

[Cafwyd munud o dawelwch er cof am Mr Sharpling]

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn allweddol o ran rhoi cymorth gwerthfawr i drigolion a busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y storm.

 

Roedd y llifogydd wedi effeithio ar tua 160 o gartrefi. Roedd y Cyngor wedi darparu’r cymorth canlynol:

 

·      RoeddSwyddogion Tai y Cyngor wedi ailgartrefu saith o deuluoedd yn uniongyrchol. Roedd llawer o’r rhai effeithiwyd wedi dod o hyd i’w llety dros dro eu hunain neu wedi cael cymorth gan eu cwmnïau yswiriant.

 

·      Roeddcronfa cymorth yn dilyn llifogydd o £100,000 wedi cael ei sefydlu a oedd yn cynnig taliad o £200 ymlaen llaw i unrhyw un oedd mewn angen. Anogwyd trigolion i wneud cais, ar-lein ac mewn person, a bu timau allan i’r ardaloedd a darwyd waethaf gan ddefnyddio gwasanaeth cwsmeriaid teithiol y Cyngor i gymunedau gwledig, ‘Hwb Bach y Wlad’.

 

·      Roeddcymorth ymarferol wedi cael ei roi trwy gasglu celfi ac eitemau t? a ddifrodwyd, helpu i gwblhau hawliadau yswiriant, cynnal profion trydanol am ddim a mwy. 

 

·      Gweithiodd y Cyngor gyda Celfi Xcel yn Nhre Ioan, Caerfyrddin i lansio apêl at bobl i roi celfi er mwyn helpu’r bobl oedd wedi colli llawer o’u heitemau.

 

·      Roeddrheolyddion lleithder wedi eu darparu i gynifer o gartrefi â phosibl.

 

Dywedwyd bod y Cyngor wedi rhoi’r cymorth canlynol i fusnesau:

 

·      Roeddcelfi, ffitiadau, ac offer a ddifrodwyd wedi cael eu casglu ac roedd ysgubwyr ffordd wedi bod i’r mannau a darwyd waethaf;

 

·       Roedd £200,000 wedi’i neilltuo o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin ar gyfer cefnogi busnesau oedd mewn angen;

 

·      Bu Swyddogion Cymorth Busnes yn ymweld â 110 o fusnesau yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt, ac mae 67 ohonynt yn dal i gael cymorth. Yn ogystal, roedd cymorth ymarferol wedi cael ei roi er mwyn helpu busnesau yn ôl ar eu traed cyn gynted â phosibl.

 

 

O ganlyniad i sgil-effeithiau ofnadwy Storm Callum, amcangyfrifwyd bod y busnesau dan sylw wedi colli tua £3-4 miliwn, heb gynnwys colli enillion.

 

O ran priffyrdd, seilwaith, glanhau a gwaredu, dywedwyd bod:-

 

·    Yrholl ffyrdd a phontydd yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt wedi cael eu harchwilio, eu clirio a’u hailagor ac eithrio’r A484 yng Nghwmduad a oedd wedi’i chau o achos tirlithriad.

 

·    Ledled Sir Gaerfyrddin, roedd yr asesiad cychwynnol wedi amcangyfrif y byddai angen £3 miliwn i atgyweirio seilwaith y priffyrdd yn unig.

 

·    Gelwidtimau arbenigol i gefnogi criwiau, yn cynnwys deifwyr i arolygu strwythurau tanddwr.

 

Byddairhagor o ddiweddariadau yn dilyn maes o law.